GWYNNE (TEULU), Cilfái, Abertawe

RICHARD GWYNNE (1822 - 1907), ysgolfeistr Addysg;

Ganwyd 18 Mawrth 1822 yn Abertawe. Dechreuodd ei yrfa fel cysodydd ond yn 1841 cymerodd hyfforddiant athro yn ysgol fodel Gray's Inn Road a Norwood. Yn yr un fl. dechreuodd ddysgu yn ysgol (babanod) gwaith copr Cilfái. Yn ddiweddarach daeth yn brifathro ysgolion gwaith copr Cilfái a pharhau yn y swydd tan 1892. O dan ei brifathrawiaeth tyfodd yr ysgol iau o 40 i fwy na 600, a chyfeiriai'r arolygwyr at ysgolion Cilfái yn gyson fel y rhai gorau yng nghylch Abertawe. Yr oedd yn efrydydd brwd mewn daeareg a hanes ac am dros ddeugain mlynedd bu'n is-lywydd Sefydliad Brenhinol De Cymru. Priododd yn 1857 â Charlotte Lloyd (1825 - 1908), a fu unwaith yn ysgolfeistres yng Nghilfái. Bu iddynt 5 mab a merch. Pan apeliodd ei gyfeillion am bensiwn iddo yn 1891 pwysleisient iddo wario'i holl gynilion i roi addysg i'w feibion. Bu farw yn Langland, 28 Tachwedd 1907, a chladdwyd ef ym mynwent Ystumllwynarth.

Enillodd dau o'r meibion enwogrwydd cenedlaethol:

LLEWELLYN HENRY GWYNNE (1863 - 1957), esgob Crefydd,

C.M.G., 1917, C.B.E., 1919, D.D. (Glasgow) 1919, LL.D. (Caergrawnt) 1920; ganwyd yng Nghilfái. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe a Neuadd S. Ioan, Highbury. Bu'n gurad S. Chad, Derby, 1886-89, a S. Andreas, Nottingham, 1889-92. Tra oedd yn Derby ef oedd yr unig chwaraewr amatur yng nghlwb pêl-droed y sir. Penodwyd ef yn ficer Emmanuel, Nottingham, yn 1892. Yn 1899 aeth yn genhadwr i'r Swdan o dan y C.M.S. Yn 1908 gwnaethpwyd ef yn esgob swffragan cyntaf Khartoum a oedd y pryd hwnnw yn rhan o esgobaeth Ierwsalem. Pan dorrodd Rhyfel Byd I allan aeth o wirfodd i Ffrainc fel caplan a phenodwyd ef yn ddirprwy gaplan cyffredinol yno yn Awst 1915. Yr oedd yn aml yn y llinell flaen. Disgrifiodd un o'i gynorthwywyr, F. R. Barry, Esgob Southwell wedi hynny, ef fel sant ond ychwanegodd 'Yet in all my life I have never encountered anybody less like a saint in painted windows. A burly man, and a Welsh footballer, he was every inch masculine, a man's man'. Ar ôl y rhyfel gallasai gael llawer dyrchafiad ond dewisodd ddychwelyd i'r Swdan. Pan rannwyd esgobaeth Ierwsalem yn 1920 ef fu esgob Anglicanaidd cyntaf yr Aifft a'r Swdan. Parhaodd ei weinidogaeth yno nes bod heibio'i bedwar ugain, ac ymddeolodd yn 1946. Ef fu'n gyfrifol am adeiladu'r cadeirlannau Anglicanaidd yn Cairo a Khartoum, a bu'n gweinidogaethu i'r 8fed fyddin yn ystod Rhyfel Byd II. Bu'n pregethu yn Abertawe yn y 1950au. Bu farw 3 Rhagfyr 1957.

HOWELL ARTHUR GWYNNE (1865 - 1950), newyddiadurwr Llenyddiaeth ac YsgrifennuArgraffu a Chyhoeddi,

C.H., 1938; ganwyd yng Nghilfái, 3 Medi 1865. Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe (Ysgolor Sylfaenol) ac yn yr Yswistir. Ef oedd gohebydd The Times yn y Balcanau yn y 1890au cynnar. O 1893 i 1904 yr oedd yn ohebydd arbennig i asiantaeth Reuter. Yn eu gwasanaeth hwy yr aeth i Ashanti yn 1895, mynd gyda Kitchener i Dongola yn 1896, adrodd ar ryfel Twrci a Groeg yn 1897, ac ar gyrch Kitchener i Berber yn yr un flwyddyn. Yr oedd yn Peking ar ddechrau helyntion y Boxer o Ionawr 1898 i Fai 1899. Ef oedd yn gyfrifol am drefnu gwasanaethau Reuter yn Ne Affrica yn ystod Rhyfel y Boeriaid. Yn syth ar ôl y rhyfel hwnnw dychwelodd i Dde Affrica gyda Joseph Chamberlain, a ddaeth yn gyfaill mynwesol iddo. Am ysbaid yn 1904 bu'n gyfarwyddwr tramor i Reuter cyn dod yn olygydd y Standard o 1904 i 1911. Yna bu'n golygu 'r Morning Post nes ei uno â'r Daily Telegraph yn 1937. Yr oedd yn angerddol yn ei safiad dros annibyniaeth olygyddol y Morning Post, er iddo gymryd agwedd Dorïaidd gref ar bolisi tramor, y fyddin a'r ymerodraeth. Rhoes ei gyfeillgarwch personol â Chamberlain, Kitchener, Syr Edward Carson, Haig, Kipling, Alfred Milner, ac eraill gryn ddylanwad tu ôl i'r llenni iddo. Soniai'r Times amdano fel 'a talented Welshman' a oedd 'a little incongruous amid the sober compromises of the English political scene.' Cyhoeddodd The army on itself (1904) a The Will and the Bill (1923), yr olaf yn ddychan gwleidyddol. Priododd ag Edith Douglas, merch Thomas Ash Lane, yn 1907. Ni bu iddynt blant. Bu farw 26 Mehefin 1950.

Aeth dau fab arall i'r offeiriadaeth:

RICHARD LLOYD GWYNNE (1859 - 1941),

Ganwyd yng Nghilfái, Chwefror 1859; addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe, a choleg diwinyddol Llundain; curad Barrow, sir Gaer, 1882-85, Winsley, Wiltshire, 1885-86, a S. Ioan, Tunbridge Wells, 1891-1909; rheithor Little Easton yn esgobaeth Chelmsford, 1915-37.

CHARLES BROOKE GWYNNE (1861 - 1944),

Ganwyd yng. Nghilfái, Gorffennaf 1861; addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Abertawe, a Choleg Crist, Caergrawnt, graddiodd (B.A.), 1884, a M.A., 1888. Bu'n gurad Timperley, 1885-88, a Christ Church, Claughton, 1888-90; ficer Holy Trinity with St. Matthews, Birkenhead, 1891-96, Bollington, 1896-1909, Neston 1909-20, a rheithor West Kirby, 1920-32. Yr oedd yn ganon mygedol Caer, 1919-34, a chanon emeritus ar ôl hynny. Bu'n ficer Wendover Ambo, ger Saffron Walden, 1932-33. Yr oedd yn broctor yn y Confocasiwn a chyhoeddodd Criticisms on the consecration in the new Prayer Book (1931).

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.