Ganwyd yn ardal Glandŵr ger Abertawe 17 Awst 1863. Ar ôl cwrs yn ysgol baratoi Coleg Arnold, Abertawe, o dan Edwin Williams, ymunodd â'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin. Er ei fagu gyda'r MC, o'i gariad at ryddid ymaelododd yn eglwys (A) Heol y Prior, ac fel aelod o'r eglwys honno y derbyniwyd ef i'r coleg yn 1881. Ymadawodd â'r coleg yn 1884 a threuliodd beth amser yng ngholeg sir Gaerhirfryn ym Manceinion. Erbyn 1887 yr oedd yn ôl drachefn yng Nghaerfyrddin y tro hwn fel athro gyda J. C. Thomas yn ysgol Parcfelfed. Yn 1888 ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys (A) Saesneg Mount Pleasant, Hirwaun. Ymddeolodd o'r ofalaeth yn 1892, pan enillodd ysgoloriaeth mewn gwyddoniaeth o dan Goleg y Brifysgol yng Nghaerdydd. Ymddengys iddo fynd gyda J. C. Thomas i Weston yn 1894, ond yn 1895 yr oedd yn ôl eto yng Nghaerfyrddin yn ymuno â W. Roberts a T. Wedros Jones i barhau Ysgol yr Hen Goleg yno. Bu'n brifathro 'r ysgol o 1895 hyd 1913 a rhoes genedlaethau o fechgyn ieuainc ar ben y ffordd i'r weinidogaeth a'r proffesiynau. Derbyniodd alwad i eglwys Salem (A), Llanymddyfri yn 1913 a bu yno nes ei orfodi i ymddeol ar gyngor meddygol yn 1922. Collai ei lais bob gwanwyn ac wedi ymddeol aeth i fyw at ei ferch a'i phriod, Dan Davies, ym Mansfield Road, Ilford. Buasai'n fawr ei barch yn Llanymddyfri fel yng Nghaerfyrddin cyn hynny. Ar ei ymadawiad â Llanymddyfri cyflwynwyd set o'r Encyclopaedia Britannica yn rhodd iddo. Cymerasai ran flaenllaw ym mywyd cyhoeddus bwrdeistref Caerfyrddin, a bu'n aelod o'r cyngor ac yn ynad heddwch. Wedi symud i Lundain bu'n gofalu am eglwys (A) Thames Ditton o 1925 hyd i ddiffyg iechyd ei rwystro yn 1930.
Wedi ymddeol i Loegr ei brif bleser oedd llenydda. Buasai'n cystadlu mewn eisteddfodau 'n gynnar yn y ganrif a dadleuodd lawer ar faterion orgraff y Gymraeg ar dudalennau'r Tyst. Enillodd gadeiriau a choronau yn eisteddfodau Meirion, Llundain, Powys a Birkenhead. Bu'n cystadlu'n bur gyson am y gadair a'r bryddest yn yr Eisteddfod Genedlaethol Ffrwyth cystadlu yw rhai o'i gyhoeddiadau, e.e. Orgraff y Gymraeg: llawlyfr i blant ysgol (1925); Anfarwoldeb, pryddest y Goron yn Eisteddfod Powys, 1925; Priod-ddulliau'r Gymraeg (1927, a enillodd yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1926; ac Elfennau beirniadaeth lenorol (a ddaeth yn ailorau i draethawd D. J. Davies, Treorci, yn Eisteddfod Genedlaethol Treorci yn 1928, ond traethawd Harry a ddewisodd Cwmni Foyle i'w gyhoeddi yn 1929). Cafodd y wobr am gyfieithu tair telyneg o'r Almaeneg i'r Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl yn 1924, a rhoes Cynan ganmoliaeth i'w delynegion yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau yn 1949.
Treuliodd y blynyddoedd rhwng 1940 ac 1949 yn Llandrindod ond erbyn 1950 yr oedd yn ôl yn Llundain. Bu farw ar wyliau yn Westcliffe-on-Sea, 23 Mehefin 1950, a chladdwyd ef yn Surbiton.
Yr oedd yn bregethwr sylweddol ond fel athro a hyfforddwr ieuenctid y disgleiriodd. Yr oedd ganddo bersonoliaeth ddeniadol, yn gyfuniad naturiol o ysgolheictod, amynedd a digrifwch.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.