HOWELLS, REES (1879 - 1950), cenhadwr a sefydlydd y Coleg Beiblaidd yn Abertawe

Enw: Rees Howells
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1950
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cenhadwr a sefydlydd y Coleg Beiblaidd yn Abertawe
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: Huw Walters

Ganwyd ym Mrynaman, Caerfyrddin, 10 Hydref 1879 yn chweched plentyn Thomas a Margaret Howells. Ychydig o fanteision addysg a gafodd a gadawodd ysgol elfennol Brynaman pan oedd yn 12 oed gan ddechrau gweithio ym melin gwaith alcan y pentref. Ymfudodd i'r America yn 1901 gan weithio mewn gweithfeydd alcan yn Pittsburgh a Connellsville, Pennsylvania, lle daeth dan ddylanwad efengylydd o Iddew o'r enw Maurice Reuben. Dychwelodd i Frynaman yn 1904 a bu'n gweithio fel glöwr yn yr ardal gan fynychu cynadleddau efengylaidd yn Llandrindod a Keswick. Yn fuan wedi priodi Elizabeth Hannah Jones o Frynaman ar 21 Rhagfyr 1910 aeth i'r Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin gan fwriadu mynd i'r weinidogaeth Annibynnol, eithr drylliwyd ei gynlluniau pan dderbyniodd wahoddiad i fynd i'r maes cenhadol. Hyfforddwyd ef a'i wraig mewn colegau yng Nghaeredin a Llundain ac yng Ngorffennaf 1915 ymunodd y ddau â Chenhadaeth Gyffredinol De Affrica gyda chyfrifoldeb arbennig am orsaf genhadol Rusitu. Treuliasant bum mlynedd yno gan ddychwelyd i Gymru yn 1920. Yn dilyn taith efengylu yn America yn 1922 penderfynodd sefydlu Coleg Beiblaidd yng Nghymru, a hynny ar batrwm Sefydliad Beiblaidd Moody yn Chicago, gyda'r bwriad o hyfforddi gweithwyr ar gyfer y maes cenhadol. Er nad oedd ganddo'r cyfalaf angenrheidiol - yn wir, dywedir mai un swllt ar bymtheg yn unig a feddai ar y pryd - prynodd ystad Glynderwen yn Abertawe ac agorwyd y coleg yn swyddogol ar ddydd Llun y Sulgwyn 1924. Honnai iddo dalu am y fenter drwy ffydd a gweddi am gyfraniadau ariannol, ac yn ystod y 1930au prynodd stadau eraill yn ardal Abertawe, megis Sceti Isaf a Derwen Fawr gan addasu'r adeiladau yn ysbyty ac yn ysgol breswyl i blant cenhadon. Daeth ystad John Dillwyn-Llewelyn yn Mhenlle'rgaer i'w feddiant yn niwedd y 1930au, a'i fwriad oedd addasu'r adeilad yn ysgol ar gyfer noddedigion Iddewig, ond rhwystrwyd y cynllun hwn gan y rhyfel. Treuliodd Haile Selassie, Ymherodr Abyssinia fel yr oedd bryd hynny, gyfnod ym Mhenlle'r-gaer ar wahoddiad Rees Howells yn 1939 pan alltudiwyd ef o'i wlad gan Benito Mussolini. Yn 1940 cyhoeddodd Howells ei God Challenges the Dictators, cyfrol yn proffwydo diwedd y rhyfel a thynged Adolf Hitler. Ehangodd ei weithgarwch fel Cyfarwyddwr y Coleg Beiblaidd yn ystod y blynyddoedd wedi'r rhyfel, a sefydlwyd canghennau ym Mharis, Palesteina ac India. Y mae hanes ei yrfa ryfedd, ei bwyslais cyson ar nerth gweddi, a'r modd y llwyddodd i osod sylfeini cadarn i'r Coleg Beiblaidd yn wyneb anawsterau ariannol a diffyg cyfalaf yn brawf nad gŵr cyffredin mohono. Bu farw 13 Chwefror 1950, a dilynwyd ef fel Cyfarwyddwr y Coleg gan ei fab, Samuel Rees Howells.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.