HUGHES, OWEN ('Glasgoed '; 1879 - 1947); swyddog rheilffordd, masnachwr a bardd

Enw: Owen Hughes
Ffugenw: Glasgoed
Dyddiad geni: 1879
Dyddiad marw: 1947
Priod: Kate Hughes (née Elliss)
Rhiant: Mary Hughes
Rhiant: William Hughes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: swyddog rheilffordd, masnachwr a bardd
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Evan David Jones

Ganwyd yn y Glasgoed, Cwm Prysor, Meirionnydd, yn un o 10 plentyn William a Mary Hughes. Cafodd ychydig addysg yn ysgol Ty Nant a Maentwrog Uchaf, ond bu raid iddo fynd allan i weithio yn 9 oed. Symudodd i weithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda yn 1900. Bu yno am tua 6 blynedd gan ddod o dan ddylanwad Diwygiad 1904-05 fel y dengys ei emynau. Dychwelodd i'w hen ardal yn 1906, a'r flwyddyn honno enillodd gadair eisteddfod Rhosesmor.

Ymfudodd i Winnipeg wedyn, ac yno y bu am 20 mlynedd yn weithgar yn yr eglwys Gymraeg a chyda Chymdeithas Dewi Sant. Bu'n swyddog gyda Rheilffordd Genedlaethol Canada, ac yna sefydlodd fasnach lwyddiannus. Symudodd i Galiffornia a thrachefn i Vancouver. Enwogodd ei hun ar feysydd chwarae gan ennill cwpanau a gwobrau. Medrai siarad a darllen 8 iaith. Mabwysiadodd yr enw barddol 'Glasgoed' oddi wrth ei gartref ym Meirion. Enillodd fwy o gadeiriau ac awdlau rhwng 1923 ac 1940 na neb arall yn America. Yr oedd yn fardd meddylgar ac yn gynganeddwr gwych.

Priododd Kate Elliss o Gaernarfon a fu farw yn 1941. Bu yntau farw 29 Awst 1947, a chladdwyd ef yn Vancouver.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.