Fe wnaethoch chi chwilio am 1942

Canlyniadau

JAMES, FRANK TREHARNE (1861 - 1942), cyfreithiwr, beirniad celfyddydol

Enw: Frank Treharne James
Dyddiad geni: 1861
Dyddiad marw: 1942
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, beirniad celfyddydol
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Cyfraith
Awdur: Archibald Henry Lee

Ganwyd ym Merthyr Tydful. Derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1884, a bu'n Clerc Bwrdd Gwarcheidwaid Merthyr am ddeugain mlynedd. Daeth yn aelod o Gyngor Tref Merthyr yn 1904, gan barhau'n aelod hyd ei farwolaeth; ef oedd y maer am y flwyddyn 1907-08. Cafodd gomisiwn yn 3ydd Volunteer Battalion y Welch Regiment yn 1890, ond trosglwyddodd i'r Territorials yn 1907 gan ymddeol yn 1910 yn uchgapten. Bu'n gadeirydd Bwrdd Dŵr Taf Fechan yn 1925, 1926, 1941 ac 1942. Cymerodd ddiddordeb dwfn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel llywodraethwr ac aelod o'r Cyngor. Yn ogystal â bod yn llywodraethwr ac aelod o Gyngor Amgueddfa Genedlaethol Cymru bu'n Gadeirydd ei Phwyllgor Celf ac Archaeoleg. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Amgueddfa Merthyr. Anrhydeddwyd ef yn M.B.E. yn 1919. Bu farw 15 Chwefror 1942. Y mae penddelw efydd ohono gan Syr William Goscombe John yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Canlyniadau

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.