JERMAN, HUGH (1836 - 1895), arlunydd a cherddor

Enw: Hugh Jerman
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1895
Priod: Elizabeth Jerman (née Salter)
Plentyn: Richard Henry Jerman
Rhiant: Mary Jerman
Rhiant: Richard Jerman
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd a cherddor
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth; Cerddoriaeth
Awdur: Edward Ronald Morris

Ganwyd yn Church St., Llanidloes, Trefaldwyn, 28 Medi 1836, yn fab i saer coed, Richard Jerman a'i wraig Mary. Addysgwyd ef yn ysgolion y dref ac yn yr ysgol genedlaethol yno cyn mynd yn fyfyriwr i Goleg Battersea a'i hyfforddi'n athro, 1854-55; bu'n dysgu yn swydd Lincoln, Cei Connah, Ceri, a Kirby Fleetham a Well, swydd Efrog. Yn 1877 dychwelodd i Lanidloes ac agor ysgol breifat Severn Grove, lle y bu'n hyfforddi llawer o fechgyn pobl mwyaf cefnog y dref a'r sir hyd tuag 1890.

Yr oedd yn gerddor dawnus ac enillodd nifer o wobrau mewn eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Conwy yn 1861 enillodd y wobr gyntaf am anthem 'Deus misereatur'. Bu'n arweinydd côr medrus yn y dref. Fe'i dysgodd ei hun i chwarae'r ffidil a'r piano. Dysgid llawer o bethau yn ei ysgol, ond fel arlunydd y daeth i'r amlwg, yn fedrus mewn olew a dyfrlliw, ac erys llawer o'i luniau mewn dwylo preifat. Ei waith mwyaf adnabyddus yw 'The Glanyrafon Hunt' a wnaeth i Edward Bennett, brawd Nicholas Bennett, yn 1885. Mae tri o'i ddarluniau yn y Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd yn arlunydd portread effeithiol hefyd.

Priododd, yn 1859, Elizabeth Salter, Ceri, a bu iddynt ddau fab a phum merch. Yr oedd ei fab, Richard Henry Jerman, 1866 - 1951, yn arlunydd dawnus. Brawd-yng-nghyfraith iddo oedd Edward Salter (ganwyd 1831), ysgolfeistr ac arlunydd a thad E.H. Langford Salter, 1870 - 1949, a gychwynnodd fusnes cerddoriaeth a gwneuthur organau yng Nghastell-nedd. Bu farw 8 Mai 1895 a chladdwyd ef ym mynwent plwyf Llanidloes.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.