Ganwyd 1871 yn un o bedwar o blant Thomas (bu farw 1877) a Mary Jones, tafarn Cross Keys, Llanfyllin, Trefaldwyn. Symudodd y fam i Borthmadog (c. 1895) a Phwllheli (c. 1910). Cafodd y mab addysg breifat cyn ymuno â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ond ni ddilynodd y llwybr hwnnw ac ymddiswyddodd o'r fyddin. Magodd ddiddordeb dwfn mewn hen bethau aur ac arian. Dechreuodd ysgrifennu i'r Cymmrodor ac Archaeologia Cambrensis yn 1904 a bu'n gyfrannwr cyson hyd ddiwedd ei oes i gylchgronau fel y Burlington Magazine (e.e. ' Some old silver plate in the possession of Lord Mostyn ', 1907), Connoisseur (e.e. ' Welsh goldsmiths ', 1941), Apollo, Athenaeum ac Art in America. The church plate of the diocese of Bangor (1906) oedd ei gyfrol gyntaf a dilynwyd hon yn fuan gan nifer o gyfrolau a chatalogau yn ymdrin â thrysorau aur a llestri arian eglwysi Lloegr ac Ynys Manaw, a cholegau Caergrawnt a Rhydychen, y casgliad brenhinol yn Nhŵr Llundain, a llawer o gasgliadau preifat. Mynychodd amgueddfeydd a chartrefi ar y Cyfandir, Rwsia a Thaleithiau Unedig America a chyhoeddi ffrwyth ei astudiaeth yn The old English plate of the Emperor of Russia (1909), The old silver of American churches (1909), Old silver of Europe and America, from early times to the nineteenth century (1928) a chyfrolau eraill. Gwnaed ef yn Athro cynorthwyol mewn celfyddyd gain ym Mhrifysgol Iâl, T.U.A. a derbyniodd radd M.A. er anrhydedd gan bedair prifysgol (Cymru; 1918); etholwyd ef yn gymrawd nifer o gymdeithasau ysgolheigaidd; derbyniodd ryddfraint dinas Llundain; a gwnaed ef yn aelod o Orsedd y Beirdd. Bu farw yn Llundain 23 Awst 1943 yn fab gweddw.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.