JONES, JOSEPH (1799 - 1871), offeiriad Catholig

Enw: Joseph Jones
Dyddiad geni: 1799
Dyddiad marw: 1871
Rhiant: Rachel Jones
Rhiant: Thomas Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Catholig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Eric Edwards

Ag Ysgeifiog y cysylltir enw Joseph Jones. Yno, mae'n debyg, y ganwyd ef yn 1799 ac yno, neu heb fod ymhell oddi yno, y bu'n byw am ran o'i oes wedi dod i oedran dyn. Fel eraill o ardaloedd y mwyngloddiau yn Sir y Fflint, symudodd Joseph Jones hefyd, yn laslanc, i'r Mwynglawdd (Minera) i weithio yn y gweithydd plwm am fod yno, bryd hynny, well cyfle gwaith i fwynwyr. Yn y Mwynglawdd ymaelododd â'r Methodistiaid Wesleaidd, yn eglwys Pen-y-bryn, un o'u heglwysi cyntaf. Dewiswyd Joseph Jones yn flaenor yn yr eglwys. Ni wyddys ai yr amser hwnnw y dechreuodd bregethu ond dywedir iddo ddechrau pregethu 'yn dra ieuanc'.

Mewn cyfarfod taleithiol yn Amlwch, 13 Mai 1824, derbyniwyd Joseph Jones, yn ôl arfer a threfn yr EF, i'r weinidogaeth deithiol er nad aeth i gylchdaith ar unwaith. Y flwyddyn ddilynol penodwyd ef i gylchdaith Caernarfon eithr cyn diwedd y flwyddyn gyfundebol yr oedd wedi encilio o'r weinidogaeth.

Aeth yn ôl i Ysgeifiog a'i gysylltu ei hun â chylchdaith Wesleaidd Treffynnon. Bu'n 'cadw ysgol yma a thraw', praw o'r hyn a ddywedwyd amdano, ei fod yn 'ddyn o gryn allu, ac yn fardd gwych'. 'Caradog' oedd ei enw barddol ac y mae hanes amdano'n cyfarch eisteddfod yng Nghaernarfon gyda chyfres o englynion.

Mewn cyfarfod chwarter, cylchdaith Treffynnon, cwynid yn ei erbyn ei fod yn 'ochri at Babyddiaeth ' ac er i Joseph Jones fod yn daer i wadu'r cyhuddiad mae'n siwr nad oedd yn gwbl ddi-sail oherwydd yn fuan wedyn ymunodd, yn gyntaf, â'r eglwys sefydledig cyn iddo, yn ddiweddarach, ymaelodi â'r Catholigion.

Bu am beth amser 'o dan olygiad offeiriad Jesuitaidd Holywell … ac anfonwyd ef dros dymor i goleg yn Ffrainc.' Dywed y Catholic Directory, Almanack and Ecclesiastical Register am 1846 i Joseph Jones gael ei benodi'n genhadwr i'w gydwladwyr yng Nghymru, y cenhadwr Cymraeg cyntaf o blith offeiriaid yr eglwys Gatholig. Yn 1847 penodwyd ef i Abergele i weithio, dros dro, ymhlith gweithwyr o'r Iwerddon a oedd wrthi'n agor y rheilffordd o Gaer i Fangor. Wedyn, symudwyd ef i Wrecsam a'r Wyddgrug (i fyw yn Wrecsam). Yn 1851 yr oedd Joseph Jones yn Aberhonddu, yr amser y codwyd yno addoldy newydd. Bu am dymor ym Mangor ac yn fawr ei barch, 'braidd yn cael ei addoli yno gan y Pabyddion Gwyddelig yn gweithio ar reilffordd Caergybi '. Symudodd o Fangor i Dukinfield, sir Gaer lle y bu o 1860 i 1863, yna aeth i Gaergybi am flwyddyn cyn mynd i Bant Asaph yn 1866. Ar ôl tymor byr yn Seacombe yn 1870 symudwyd ef i'r Trallwm ac yno y bu farw 2 Rhagfyr 1871. Claddwyd ef ym Mhant Asaph. Ceir marwgoffa iddo yn The Tablet dyddiedig 23 Rhagfyr 1871. Yn ei ewyllys (o dan yr enw James Jones) ceir cyfeiriad at frodyr, William a Robert, a chwiorydd, Mary a Sarah. Gadawodd Joseph Jones arian i'r Catholic Orphanage yn Fflint (? Holywell) ac i drysorfa offeiriaid Pabyddol yn esgobaeth Amwythig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.