Ganwyd yn Llanfwrog, Môn, yn 1777. Fe fu'n ffodus i gael ychydig addysg mewn ysgol gyda gŵr eglwysig yn ei fro enedigol. Bu ef a dau o'i frodyr, sef Rice Jones o Ben-clawdd, Morgannwg, a Robert Jones, gweinidog (A) yng Nghorwen, yn bregethwyr yr efengyl. Yn 1803 aeth ef a'i briod, Margaret, i fyw i Dy'n-yr-efail, Llanynghenedl, a ganed iddynt o leiaf wyth o blant. Dewiswyd ef yn flaenor yn Nghaergeiliog a dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid yn 1808. Erbyn 1816 yr oedd wedi symud i fyw i Ben-yr-allt, Bodedern, ac oddi yno'n ddiweddarach i Lainllwyd, ger Amlwch, lle y diweddodd ei oes. Fe gadwai ysgol yn Amlwch ac yno fe gyhoeddodd lyfr ar rifyddeg, sef Rhifiadur (1827), ac ef a ddilynodd David Griffiths fel athro i ofalu am ysgol yr anghydffurfwyr. Yn ystod ugain mlynedd olaf ei oes aeth ati i gyfieithu nifer o weithiau Saesneg ac yn eu mysg gyfrolau gwyddonol i'r darllenydd uniaith Cymraeg. Yn 1842 cyhoeddwyd Yr Anianydd Cristionogol gan Thomas Dick; Traethawd ar Ddaearyddiaeth yn 1844 a chyfrolau diwinyddol fel Scot ar y Prophwydi a Hanes gwaith y Prynedigaeth yn 1829.
Bu farw 6 Gorffennaf 1847 yn 70 oed, wedi bod yn pregethu am 39 o flynyddoedd, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfwrog, ei blwyf genedigol.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.