Ganwyd 18 Tachwedd 1827, yn ail ferch Thomas Lewis Lloyd o Nantgwyllt (y plasty yng Nhwm Elan lle bu Shelley yn aros yn 1812 ond a foddwyd wrth greu cronfa'r Caban Coch) a'i wraig Anna Eliza Davies, merch Treforgan ger Aberteifi. Ar ôl gadael cartref, bu Emmeline yn ffermio a magu merlod mynydd yn Llandyfaelog Fach ger Aberhonddu. Gyda'i sêl am bysgota, hela'r dyfrgi a chrwydro'r bryniau, ystyrid hi yn dipyn o gymeriad ac yr oedd wrth ei bodd yn adrodd hanes ei theithiau a'i gorchestion. Ei hynodrwydd pennaf yw iddi fynd i'r Alpau i ddringo mynyddoedd yn gyson yn ystod yr 1860au a'r 1870au. Rhyw hanner dwsin o ferched yn unig a ddringai yn y cyfnod hwn ac ar wahân, efallai, i Lucy Walker o Lerpwl (1835 - 1916) y mae'n amheus a ymroddodd yr un ohonynt i ddringo o'i blaen hi. Dringai Lucy Walker yn ddieithriad gyda'i thad a'i brawd, ond merch arall, Isabella Straton, oedd cydymaith arferol Emmeline. Bu hefyd yn dringo gyda'i chwaer ieuengaf, Bessie, a briododd William Williams, ficer Llandyfaelog. Treuliodd ei thywysydd arferol, Jean Charlet o Argentière, flwyddyn yn wastrawd yn Nantgwyllt : flynyddoedd wedyn priododd Isabella. Ychydig o fanylion ynghylch esgyniadau Emmeline sydd ar gael ond hyhi oedd yr wythfed ferch i ddringo'r Mont Blanc ac ar 22 Medi 1871, hyhi (yn 44 oed) gydag Isabella a'r tywysydd Joseph Simond a gyflawnodd esgyniad cyntaf yr Aiguille du Moine (3412 m. neu 11,194 tr.) ger Chamonix. Yr un flwyddyn dringodd y ddwy ferch Monte Viso gyda Jean Charlet. Rhoddodd y ddwy gynnig aflwyddiannus ar y Matterhorn mor gynnar ag 1869, 4 blynedd ar ôl yr esgyniad cyntaf alaethus. Bu farw 22 Medi 1913, yn Hampstead Hill Gardens, Llundain, a'i chladdu yn Llansanffraid Cwmteuddwr, lle mae cofeb iddi yn yr eglwys.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.