LLOYD, HENRY ('Ap Hefin '; 1870 - 1946), bardd ac argraffydd

Enw: Henry Lloyd
Ffugenw: ap Hefin
Dyddiad geni: 1870
Dyddiad marw: 1946
Priod: Sarah Ann Lloyd (née Gravell)
Rhiant: Margaret Lloyd
Rhiant: David Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac argraffydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Gwilym Richard Tilsley

Ganwyd 23 Mehefin 1870 yn Nhyddyn Ifan, Islaw'r Dref, Dolgellau, Meirionnydd, i David a Margaret Lloyd. Derbyniodd beth addysg yn ysgol Arthog, ond mwy, medd ef, trwy gymdeithasau llenyddol yr eglwysi a'r Temlwyr Da. Symudodd i Gwm Bwlch-coch, Dolgellau, yn 1878. Ar ôl ei brentisio'n argraffydd yn swyddfa'r Dydd aeth i Aberdâr yn 1891 yn gysodydd i swyddfa'r Darian. Symudodd i Ferthyr yn 1893 i swyddfa'r Tyst ac yn 1902 dychwelodd i Aberdâr i swyddfa'r Darian a'r Aberdare Leader. Yn ddiweddarach sefydlodd ei fusnes argraffu ei hun a pharhau ynddi nes ymddeol yn 1940. Bu'n is-olygydd Y Tyst am dros ddeng mlynedd ac yn olygydd Y Darian am beth amser. Golygodd golofn farddol Y Darian am ugain mlynedd; bu'n athro cerdd dafod, yn gefn cyson i bob mudiad Cymraeg a llenyddol yn ei ardal, yn bregethwr cynorthwyol (EF) am dros hanner canrif ac yn ddarlithydd poblogaidd. Yr oedd yn fardd a chynganeddwr medrus iawn, yn enillydd nifer o gadeiriau eisteddfodol a channoedd o wobrwyon. Cyhoeddodd ddeunaw o lyfrau - cofiannau, pregethau, storïau, ond yn bennaf ei gerddi ei hun. Daeth ei englyn i ' Liwiau'r Hydref ' yn adnabyddus, a rhai o'i emynau, megis ' Arhosaf yng nghysgod fy Nuw ' ac ' I bob un sy'n ffyddlon '. Priododd yn 1896 â Sarah Ann Gravell a chawsant bedwar o blant. Bu farw 14 Medi 1946 a'i gladdu ym mynwent Aberdâr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.