Ganwyd ym Mlaendewi, Llanddewibrefi, Ceredigion, 23 Medi 1884, yn ail blentyn a mab hynaf Rhys Morgan, gweinidog eglwys Bethesda (MC), yn y pentre, a Mary ei wraig (ganwyd Jenkins). Ar ddydd olaf Awst 1887 derbyniwyd ef i'r ysgol fwrdd leol, chwe diwrnod ar ôl ei chwaer a oedd 14 mis yn hŷn nag ef, a bu yno hyd 14 Mai 1897. Agorwyd ysgol sir Tregaron yn neuadd y dre dridiau'n ddiweddarach. Yr oedd ei fam yn un o lywodraethwyr yr ysgol newydd, a dechreuodd yntau yno ar y diwrnod cyntaf. O Dregaron aeth i'r coleg yn Aberystwyth. Penodwyd ef yn athro gwyddoniaeth yn ei hen ysgol ond dychwelodd i'r coleg i ddilyn cwrs mewn amaethyddiaeth a graddiodd yn B.Sc. yn 1907. Penodwyd ef wedyn yn swyddog amaeth dros Geredigion, swydd a lanwodd dros a rhwng y ddau ryfel byd. Yn ystod ei gyfnod fel athro yn Nhregaron bu'n cydweithio â Samuel Morris Powell i sgrifennu, cynhyrchu, ac actio dramâu gwaith cartre ar hanes yr ardal, ac ef y rhan amlaf a chwaraeai ran yr arwr. Wedi ei benodi i'r swydd amaethyddol ymsefydlodd yn Llanbedr Pont Steffan ac oddi yno y bu'n teithio i gyrrau Ceredigion, gan ymgydnabod â'i hanes a'i thraddodiadau a threiddio'n ddwfn i serch ac ymddiriedaeth y ffermwyr. Daeth ei fodur tair olwyn Morgan yn gynefin â phriffyrdd a chefnffyrdd mwyaf anghysbell y sir. Bu ei ddylanwad ar amaethyddiaeth y sir yn enfawr. Y mae ei ysgrifau wythnosol o dan y pennawd ' Pant a bryn ' yn y Welsh Gazette at ei gilydd yn ffynhonnell werthfawr ar ddatblygiad amaethyddiaeth a bywyd cymdeithasol yng Ngheredigion dros ran helaeth o hanner cynta'r 20fed ganrif, a'r cyfan wedi ei ysgrifennu mewn arddull hapus garlamus. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn Pant a bryn (1953).
Priododd, 7 Gorffennaf 1915, Annie, merch John a Jane Jones, Tŷ-llwyd, Bryn-mawr (yn wreiddiol o Swyddffynnon). Bu farw yn sydyn ar 18 Mai 1949 yn ysbyty Charing Cross, Llundain. Amlosgwyd ei gorff yn Golders Green a dychwelwyd ei lwch i Landdewibrefi i'w gladdu yno.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.