Ganwyd yn Lerpwl ar 8 Mawrth 1874 yn fab i R. Ceinwenydd Owen, gweinidog (MC), ac Elizabeth Jane (ganwyd Jones). Priododd (1), yn 1899, â Mary Elizabeth (bu farw 1906) merch Capten William Owen, Caernarfon; priododd (2), yn 1908, â Marian Maud, gweddw J. H. Thomas, Caerfyrddin, a merch William Williams Hwlffordd, ond ni fu iddynt blant. Addysgwyd ef yn y Liverpool Institute a chychwynnodd ar ei yrfa yn gweithio gyda Mersey Docks and Harbour Board, Lerpwl. Yn 1904 daeth yn rheolwr ac ysgrifennydd i'r Brodyr Paul, melinwyr blawd yn Lerpwl a Phenbedw, a phenodwyd ef yn rheolwr cynorthwyol Dociau Goole yn 1908, a'i ddyrchafu'n rheolwr yno yn 1915. Ymhen y flwyddyn daeth yn rheolwr cyffredinol ac ysgrifennydd i Gomisynwyr Harbwr Belfast, swydd a gadwodd nes iddo gael ei benodi'n rheolwr cyffredinol Awdurdod Porthladd Llundain yn 1922, a chadwodd y swydd honno hyd 1938. Yn ystod y cyfnod hwn gwasanaethodd nifer o gymdeithasau cenedlaethol ac etholwyd ef yn llywydd y National Confederation of Employers' Organisations. Yr oedd yn aelod o'r Comisiwn Brenhinol ar Hap Chwarae a Betio, 1932-33, a'r Holidays with Pay Committee, 1937, a bu'n gadeirydd Merchant Shipping Reserve Advisory Committee y Bwrdd Masnach yn 1939. Bu hefyd yn gadeirydd Pwyllgor Cyflogau Amaethyddol sir Fôn a Chaernarfon ac yn aelod o'r Pwyllgor Dŵr Ymgynghorol Canolog. Urddwyd ef yn farchog yn 1931. Galluogodd ei gysylltiad hir â phrif borthladdoedd Prydain iddo gyfrannu at ddealltwriaeth o'u hanes trwy ei gyhoeddiadau: A short history of the Port of Belfast (1917), History of Belfast (1921), The Port of London yesterday and today (1927), a The origin and development of the ports of the United Kingdom (1939). Bu farw 17 Mai 1941.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.