Ganwyd 16 Mawrth 1857, yn nhafarn yr Ivy Bush, Llandybïe, Caerfyrddin, yr ieuengaf o chwe phlentyn Jacob Rees, saer maen, a'i wraig Margaret, merch y tafarnwr Richard Bowen. Symudodd y teulu i Ystalyfera, Morgannwg, a dechreuodd weithio mewn gefail yn naw oed. Yn 1874, ar ôl clywed anerchiad gan Thomas Morgan Thomas, 'Thomas Affrica', rhoddodd ei fryd ar y genhadaeth. Wedi cyfnod yng Ngholeg y Bala (1880-84), ordeiniwyd ef ym Mhant-teg (A), Ystalyfera, 22 Mai 1884 a'i anfon gan Gymdeithas Genhadol Llundain i Lyn Tanganyika. Yn dilyn cwrs brys yn ysgol feddygol Prifysgol Caeredin, trosglwyddwyd ef i wlad yr Ndebele, gan ymsefydlu yn Inyathi ym Mawrth 1888 : rhwng 1892 ac 1918 Susanna Wesley (Davies gynt) ei wraig (y soprano Llinos Morgannwg, ganwyd Merthyr Tudful 5 Gorffennaf 1863, yn ferch i weithiwr haearn, bu farw Abertawe 9 Ebrill 1933) ac yntau oedd yr unig genhadon yno - hithau hefyd o Ystalyfera ac yn pregethu ar ei chylchdaith E.F. er yn 22 oed. Priodwyd hwy yn Capetown 9 Mawrth 1890 : ganwyd iddynt saith o blant ond collwyd tri yn ifanc yn Inyathi. A'r Brenin Lobengula (a'i olynwyr) wedi arbed eu bywydau wrth i Brydain ymosod ar ei wlad yn 1893, eu heithrio o'r gyflafan ar ddechrau Gwrthryfel 1896, a dal i'w cefnogi wedyn, bu cryn lewyrch ar eu cenhadaeth dros ardal o faint Dyfed. Ceisiodd Bowen Rees amddiffyn yr Ndebele rhag rhaib y British South Africa Co. : rhoddodd wybodaeth i'r Crynwr, John Ellis A.S., aelod o'r Pwyllgor Ymchwil i'r Jameson Raid, a thystiolaeth i'r Aborigine Protection Society ar gyfer achos cyfreithiol a benderfynodd, yn 1918, nad oedd gan y cwmni hawl i dir yr Ndebele. Yr oedd yn nodedig o ryddfrydig ei safbwynt gan alluogi'r Ndebele i dderbyn yr efengyl a'r addysg newydd heb droi cefn yn llwyr ar yr hen draddodiad: priodolir y ffaith fod yr Annibynwyr yn dal yn rym yn eu plith i'w agwedd ef a Susanna, yn ogystal ag i'w gwasanaeth maith. Penodwyd Bowen Rees yn athro yng ngholeg hyfforddi pregethwyr Tiger Kloof ger Vryburg, De Affrica, yn 1918 ond ymddeolodd i Abertawe yn 1922 a bu farw yno ar 7 Mawrth 1929 a'i gladdu yn Ystumllwynarth, Morgannwg.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.