REES, WALTER ENOCH (1863 - 1949), contractiwr ac ysgrifennydd hiroesog Undeb Rygbi Cymru

Enw: Walter Enoch Rees
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1949
Priod: Lizzie Leith Rees (née Peters)
Rhiant: Joseph Cook Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: contractiwr ac ysgrifennydd hiroesog Undeb Rygbi Cymru
Maes gweithgaredd: Diwydiant a Busnes; Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Gareth W. Williams

Ganwyd 13 Ebrill 1863 yng Nghastell-nedd, Morgannwg, yn fab i Joseph Cook Rees, adeiladydd a chontractiwr. Addysgwyd ef yng Nghastell-nedd a Barnstaple. Dechreuodd ei yrfa hirfaith fel gweinyddwr rygbi yn 1888 pan ddaeth yn ysgrifennydd clwb Castell-nedd. Etholwyd ef i bwyllgor Undeb Rygbi Cymru yn 1889, ac yn 1896 olynodd William Henry Gwynn (Abertawe) fel ysgrifennydd yr Undeb. Ni roes neb wasanaeth hwy i U.R.C. nag ef. Yr oedd ei ddylanwad a'i awdurdod yn ddihareb, yn arbennig yn ne Cymru. Etholwyd ef i gyngor tref Castell-nedd yn 1900, ac yn faer yn 1905. Penodwyd ef yn gyd-reolwr tîm rygbi Prydain i Dde Affrica yn 1910. Rhoddwyd iddo'r teitl ' Capten ' gan y Swyddfa Ryfel er cydnabyddiaeth o'i waith fel swyddog recriwtio yng ngorllewin Morgannwg yn 1916. Ar ôl gwasanaeth yn ymestyn dros hanner canrif, ymddeolodd o fod yn ysgrifennydd U.R.C. yn 1948. Priododd, 8 Medi 1898, Lizzie Leith Peters o Aberdeen, a bu iddynt o leiaf un mab ac un ferch. Bu farw 6 Mehefin 1949 ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.