ROBERTS, OWEN MADOC (1867 - 1948), gweinidog (EF)

Enw: Owen Madoc Roberts
Dyddiad geni: 1867
Dyddiad marw: 1948
Priod: Margaret Jane Roberts (née Williams)
Rhiant: Elizabeth Roberts
Rhiant: O. Roberts
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog (EF)
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Eric Edwards

Ganwyd yn 1867 yn fab i Gapten O. ac Elizabeth Roberts, Porthmadog, Sir Gaernarfon. Ym Mhorthmadog y treuliodd ei fachgendod ac yno ac yn ysgol ramadeg Porthaethwy y cafodd ei addysg. Dechreuodd bregethu yn ei arddegau ac wedi ei dderbyn yn bregethwr cynorthwyol cyflawn derbyniwyd ef yn 1888 yn ymgeisydd am y weinidogaeth yn yr Eglwys Fethodistaidd. Yng Ngholeg Didsbury, Manceinion, y bu'n ymbaratoi hyd 1891 pan benodwyd ef yn weinidog i gylchdaith Abergele. Ordeiniwyd ef yn 1904, ar derfyn ei dymor prawf, a 'theithiodd' wedyn ar gylchdeithiau Tre-garth, Caernarfon, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangollen, Conwy, Tywyn a Bangor. Yn 1917 etholwyd ef yn oruchwyliwr y Llyfrfa ym Mangor, a bu yno am 21 mlynedd. Cyfrannodd erthyglau 'n gyson i'r Gwyliedydd Newydd, Y Winllan, ac i'r Eurgrawn, y bu am dymor byr yn olygydd iddo. Ysgrifennodd nifer o lyfrau: Llyfr y proffwyd Amos (1924), Pobol Capel Nant y Gro (1914), Cofiant y Parch. Hugh Jones (1934) a Bywyd Iesu Grist i'r ieuanc (1937). Bu'n gyfrifol, ar ran y Wesleaid, i hyrwyddo cyhoeddi Llyfr Emynau y ddau Gyfundeb Methodistaidd yn 1928. Ar wahân i'w oruchwyliaeth yn y Llyfrfa, llanwodd rai swyddi taleithiol hefyd, ac yn 1920 ef oedd llywydd Cymanfa'r Eglwys Wesleaidd, ac yn yr un flwyddyn etholwyd ef yn aelod o gyngor dinas Bangor ac yn henadur am y naw mlynedd olaf o'i gysylltiad â'r cyngor hwnnw. Ef oedd maer y ddinas, 1935-37. Yn uwchrif, parhaodd i fyw ym Mangor, yn fawr ei barch. Priododd Margaret Jane Williams (bu farw 29 Mai 1939) o Gaernarfon, a bu iddynt ddwy ferch a mab. Bu farw 25 Hydref 1948, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.