ROWLANDS, Syr HUGH (1828 - 1909), cadfridog, a'r Cymro cyntaf i ennill Croes Victoria

Enw: Hugh Rowlands
Dyddiad geni: 1828
Dyddiad marw: 1909
Priod: Isabella Jane Rowlands (née Barrow)
Plentyn: Hugh Barrow Rowlands
Rhiant: Elizabeth Rowlands
Rhiant: John Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cadfridog, a'r Cymro cyntaf i ennill Croes Victoria
Maes gweithgaredd: Milwrol
Awdur: William Alister Williams

Ganwyd 6 Mai 1828 yn ail fab John Rowlands, Plastirion, Llan-rug, uchel siryf sir Gaernarfon yn 1832, ac Elizabeth ei wraig (gweler J. E. Griffith, Pedigrees … 289 am achau'r teulu Rowlands). Cafodd Hugh ei addysg yn ysgol ramadeg Biwmares, a phan oedd yn 21 oed prynodd gomisiwn yn y 41st Foot, sef y Gatrawd Gymreig. Bu'n gwasanaethu yn Iwerddon, ynysoedd Ionia (Groeg) a Malta cyn mynd yn 1854 i Dwrci. Fel capten yn y Grenadier Company yr oedd yn y cyrch ar y Crimea a chymerodd ran ym mrwydr yr Alma, ond yn Inkerman ar Dach. 5 y daeth ei enw i'r amlwg. Fe'i clwyfwyd yn ddifrifol yn ei fraich a dyfarnwyd Croes Victoria iddo yn 1857. Enwyd ef drachefn am yr un anrhydedd yn yr ymosodiad cyntaf ar y Redan, ond ni chaniateid rhoi'r Groes yr eilwaith y pryd hwnnw. Ar derfyn y rhyfel dyrchafwyd ef i reng uchgapten brifed (Brevet Major) am ei wasanaeth. Apwyntiwyd ef yn brif swyddog garsiwn tref Sebastopol ac ar ôl hynny'n uchgapten i'r ail frigâd yn ail Adran y fyddin. Gwnaethpwyd ef yn farchog y Légion d'honneur gan y Ffrancod ac yn farchog urdd y Medjidie gan y Tyrciaid. Cafodd hefyd fedal y Crimea gyda 3 chlasb a Medal Crimea Twrci. Enwyd ef droeon mewn cadlythyrau yn ystod y rhyfel, ac ym marn un swyddog y gofynnwyd iddo enwi'r person a wnaeth fwy na neb arall yn ystod y rhyfel, Hugh Rowlands oedd hwnnw. Cafodd groeso dinesig gan drefwyr Caernarfon pan ddychwelodd o'r Crimea, a chyflwynwyd cledd anrhydedd hardd iddo yn y castell.

Bu'n gwasanaethu yn India'r Gorllewin, Lloegr, yr Alban, ac Iwerddon cyn mynd i'r India lle y cafodd ofal y gatrawd Gymreig yn 1865. Yn 1875 dychwelodd i Brydain a chael gofal y 34th Foot neu gatrawd y Goror a dychwelyd i'r India. Yno y bu nes ei ddanfon yn 1878 yn swyddog gwasanaeth arbennig i drefedigaeth y Penrhyn yn Affrica. Bu'n gadweinydd i'r Cadfridog Frederic Augustus Thesiger (yr Arglwydd Chelmsford wedyn), ac ar ôl hynny penodwyd ef yn arolygydd y lluoedd yn y Transvaal. Ym mis Gorffennaf penodwyd ef yn gomander y Transvaal ac arweiniodd gyrch aflwyddiannus yn erbyn y Pennaeth Sekukuni. Yn ystod y cyrch daeth i wrthdarawiad â Redvers Buller ac Evelyn Wood. Yn 1879 cafodd ofal tref Pretoria a'i chadw'n ddiogel yn wyneb ymosodiad gan filoedd o Foeriaid. Dyrchafwyd ef yn frigadydd ar frigâd yng ngwlad y Zulu ac ar derfyn y rhyfel hwnnw dychwelodd i Brydain a chael croeso mawr eto yng Nhaernarfon. Rhoddwyd iddo amryw swyddi (Aldershot a Peshawar) cyn cael gofal adran Bangalore o fyddin Madras yn 1884 - yr oedd yn is-gadfridog ers 1881. Gadawodd yr India yn 1889. Penodwyd ef yn lifftenant Tŵr Llundain gan y Frenhines Victoria yn 1893, a'r flwyddyn ganlynol gwnaethpwyd ef yn brif gadfridog adran yr Alban. Ymddeolodd yn 1896 gyda rheng Cadfridog gan ddychwelyd i Blastirion. Anrhydeddwyd ef â'r K.C.B. (adran filwrol) yn 1898. Gwnaethpwyd ef yn ddirprwy-raglaw ac ustus heddwch yn Sir Gaernarfon (buasai'n ustus heddwch yn y Transvaal).

Priododd Isabella Jane Barrow, ŵyres i William Glynne Griffith, Rhos-fawr a Bodegroes, Pwllheli, yn 1867. Bu iddynt fab a merch. Lladdwyd y mab Hugh Barrow Rowlands, mewn brwydr yn Somaliland yn 1903. Bu farw Syr Hugh Rowlands ar 1 Awst 1909.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.