Ganwyd 24 Mai 1871 yn fab i Thomas Saunders ac Ann (ganwyd Thomas), 5 John St., Aberdâr, Morgannwg, ond symudodd y teulu'n fuan wedi hynny i bentref cyfagos Abercwmboi lle'r oedd ei dad-cu o du ei fam yn aelod blaenllaw gyda'r Bedyddwyr, ac yno y bedyddiwd ef yn 1883. Symudodd y teulu eilwaith yn 1887 i Ynys-y-bŵl ac yno y dechreuodd William Saunders bregethu yn 1890. Addysgwyd ef yn Academi Pontypridd, ac yn 1892 aeth i goleg y Bedyddwyr yn Hwlffordd ac Aberystwyth cyn mynd yn weinidog ar Eglwys Jeriwsalem, Rhymni (1895-99), Carmel (Saesneg), Tredegar Newydd (1899-1901), a Noddfa, Pontycymer, lle y bu am 44 blynedd. Daeth yn boblogaidd ar unwaith, gan ddangos yn gynnar ei allu i gymodi carfannau gwrthwynebus. Yr oedd nid yn unig yn bregethwr huawdl a nerthol, yn gymdeithaswr difyr a chynadleddwr dihafal, ond bu'n weithgar tuhwnt gydag amryw fudiadau crefyddol a lleyg. Bu'n ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sul Mynwy, Undeb Bedyddwyr Ieuainc Cymru, a Chymanfa Bedyddwyr Neilltuol Morgannwg am dros 15 mlynedd. Bu ar gyngor Sir Morgannwg am flynyddoedd maith (1908-50) gan ddod yn gadeirydd y Cyngor am ddwy fl. a chadeirydd pwyllgor addysg elfennol y sir. Am ei wasanaeth i addysg cyflwynodd Prifysgol Cymru iddo radd LL.D. er anrhydedd yn 1946. Bu iddo ef a'i wraig Jane ferch a oedd yn feddyg yn Llundain. Bu farw 2 Mai 1950 a chladdwyd ef ym mynwent Pontycymer.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.