Ganwyd yn Spencer House, Llanboidy, Caerfyrddin, 29 Tachwedd 1895, yn fab i Rhys Morgan a Margaret (ganwyd Jones) Thomas. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, 1920-22, ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol, 1923-26. Daeth yn A.R.C.M. fel cyfeilydd ym mis Medi 1924, ac yn A.R.C.O. ym mis Gorffennaf 1926. Pasiodd yr arholiad theori yn 1927 ond cyn cwblhau ei gwrs F.R.C.O. collodd ei iechyd. Bu'n arwain cerddorfa Rhydaman a'r cylch o 1914 i 1922. Gweithredodd fel cyfeilydd Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman, 1922, ac fel telynor yng nghôr telynau'r Fonesig Brittain ('Telynores y Golomen Wen') yng nghyngerdd yr Eisteddfod. Yn ystod ei arhosiad yn Llundain bu'n organydd capel MC Charing Cross, ac yn cyfeilio ac arwain Côr Meibion Cymry Llundain. Wedi dychwelyd i Gymru bu'n organydd yng nghapel Bethani, Rhydaman. Bu'n arwain cymanfaoedd ac yn darlithio a chyfansoddodd unawdau ac emyn-donau. Bu farw 31 Rhagfyr 1941 a chladdwyd ef yng nghladdfa hen gapel y Betws ar 3 Ionawr 1942.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.