Ganwyd yn 1870 yn Llwyn-teg, Llan-non, Caerfyrddin, yn fab i Thomas Williams, gweinidog (A), a'i briod Mary. Addysgwyd ef yn ysgol Bryn-du, ac ysgol gwaith copr Llanelli. Yn 1880 derbyniodd ei dad alwad i Gapel Soar, Cwm Clydach, y Rhondda, a chafodd y mab ei ddewis yn ddisgybl-athro i Thomas Williams ('Glynfab'), prifathro 'r ysgol leol. Aeth i Goleg y Brifysgol, Caerdydd (1892-94), ac yna fe'i penodwyd yn athro yn ysgol uwchradd Ferndale. Dychwelodd, calan 1896, i Gwm Clydach i fod yn brifathro ei hen ysgol, ac yno ar 11 Mawrth 1910 cyflawnodd gryn wrhydri wrth achub llawer o blant ei ysgol rhag boddi yn yr iard pan dorrodd dŵr o hen lefel lo oedd wedi'i chau ym mhen ucha'r cwm. Er hynny collwyd pump o blant. Dyfarnwyd iddo Fedal Albert am hyn, ac yn fuan wedyn aeth yn brifathro ysgol Llwynypia cyn cael ei ddyrchafu'n Arolygwr Ysgolion Cwm Rhondda, ac yn y swydd honno enillodd gryn glod am lwyddiant ei gynllun ar gyfer ysgolion nos a fynychid yn flynyddol gan 20,000 o fyfyrwyr. Yn 1915 dewisiwyd ef yn is-gyfarwyddwr Addysg Cwm Rhondda ac ar ôl Rhyfel Byd I bu'n hynod egnïol o blaid sefydlu'r Gymraeg fel cyfrwng addysg.
Yn 1921, ar ei gymhelliad, dynodwyd pum ysgol gynradd yn rhai dwyieithog. Cyhoeddodd y Pwyllgor Addysg Report by R. R. Williams on the teaching of Welsh in the bilingual schools of the Authority (1925) ac argymhellwyd dysgu'r Gymraeg yn ysgolion y babanod; bod yr ysgolion hŷn yn mabwysiadu'r cynllun dwyieithog; a bod y Gymraeg i'w chynnwys ar amserlen yr ysgolion uwchradd fel pwnc ac fel cyfrwng dysgu rhai testunau eraill. Cyhoeddwyd cynllun cynhwysfawr ar gyfer athrawon di-Gymraeg a disgyblion (1926), a rhoddwyd sêl bendith y Pwyllgor Addysg ar ei bolisi iaith chwyldroadol wrth ei benodi'n Gyfarwyddwr Addysg y Rhondda yn 1927. Yn anffodus trethodd ei nerth yn ormodol ac yn 1931 gorfu iddo ymddeol cyn i'w gynlluniau gael cyfle i aeddfedu. Erbyn canol y 1930au oerodd brwdfrydedd y Pwyllgor Addysg, dilewyd y cynllun, a chollodd y Cyngor gyfle unigryw i ddiogelu etifeddiaeth plant Cymraeg y Cwm ac i arwain y wlad ym maes addysg ddwyieithog. O ganlyniad cafwyd hollt tanbaid ar aelwydydd Cymry Cymraeg gyda'r plant iau a fagwyd yn y 1930au yn colli'u mamiaith. Rhai o'r plant hynny, hanner canrif yn ddiweddarach, yw cefnogwyr mwyaf brwd dros addysg Gymraeg.
Yr oedd R. R. Williams yn Gymrawd o'r Gymdeithas Ddaearegol (F.G.S.), derbyniodd yr O.B.E. (1932), a gradd M.A. er anrhydedd gan Brifysgol Cymru (1933). Bu'n swyddog gweithgar nifer o gymdeithasau diwylliannol. Priododd (1) yng Nghaerdydd, 7 Rhagfyr 1892, ag Esther John o Marian Street, Clydach, merch Benjamin John glöwr, a bu iddynt ddwy ferch a mab. Ar ôl ysgaru priododd (2) â Rachel Anne Jones, Tonpentre (bu farw 27 Gorffennaf 1970). Ymddeolodd i Lwyn-teg, Llan-non, a bu farw 26 Gorffennaf 1948 a'i gladdu ym mynwent Llwyn-teg (A).
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.