BROOKE, Dâm BARBARA MURIEL, Barwnes Brooke o Ystradfellte (1908-2000), gwleidydd

Enw: Barbara Muriel Brooke
Dyddiad geni: 1908
Dyddiad marw: 2000
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd Barbara Brooke ar y 14 Ionawr 1908 yn Great Milton, Llan-wern, sir Fynwy, yr ieuengaf o bum plentyn y Parchg. Alfred Augustus Matthews (7 Chwefror 1864 - 13 Awst 1946), ficer eglwys Sant Paul, Casnewydd, a chyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru, ac Ethel Frances (bu farw 1951), merch Dr Edward Beynon Evans, o Abertawe. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol y Frenhines Anne, Caversham, ac yn y Coleg Hyfforddi Gwyddor Tŷ, Caerloyw. Am gyfnod byr, dysgodd mewn ysgol uwchradd yn Dagenham, swydd Essex a derbyniodd hefyd hyfforddiant fel nyrs yn Ysbyty Sant Thomas, Llundain. Cyfarfu â Henry Brooke mewn parti a roddwyd gan ei hunig frawd yng Ngholeg Balliol, Rhydychen ac fe'u priodwyd ar 22 Ebrill 1933.

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Geidwadol Barbara Brooke pan enillodd sedd ar Gyngor Bwrdeistrefol Hampstead dros ward dosbarth gweithiol Kilburn ym 1948, gan drechu'r Blaid Lafur. Yr oedd ei phriod eisoes yn aelod o'r Cyngor hwnnw a bu'n Aelod Seneddol dros Lewisham rhwng 1938 a 1945. Yr oedd Barbara Brooke yn alluog iawn wrth bwyllgora, lle y cyfunai ymddygiad dymunol ac ystyriol â chryn benderfyniad. Cyfrannodd ei llwyddiant fel cynghorwr lleol yn fawr i lwyddiant Henry Brooke yn ei gais am yr enwebiad dros sedd Hampstead, a enillwyd ganddo yn Etholiad Cyffredinol 1950. Ym 1954, dewiswyd Barbara Brooke gan yr Arglwydd Woolton, Cadeirydd y Blaid Geidwadol, yn olynydd i'r Fonesig Kilmuir fel un o'i ddau Is-gadeirydd. Sylweddolodd yn fuan fod y Blaid Geidwadol yn dibynnu ar fenywod yn wirfoddolwyr yn yr etholaethau ac ar y cynghorau lleol ond mai ychydig o fenywod a enwebid yn ymgeiswyr Ceidwadol ar gyfer etholiadau seneddol.

Er gwaethaf ei hymdrechion cadarn i gymell ei phlaid yn yr etholaethau i gyfweld o leiaf un fenyw wrth ddewis ymgeiswyr, ni ddaeth llawer o lwyddiant i'w rhan. Ar ei hymddiswyddiad fel Is-gadeirydd ym 1964, dim ond un ar ddeg o Aelodau Seneddol Ceidwadol oedd yn fenywod. Gwerthfawrogwyd ei thalentau fel siaradwraig dda ac effeithiol ac fe gyfrannodd i ddarllediad ar ran y Blaid Geidwadol ym 1959. Gwelwyd ei dylanwad mawr ar fenywod Ceidwadol wrth iddi ymddangos heb het yng Nghynhadledd Menywod Ceidwadol ym 1962. Aeth si cyfeiliornus ar led ei bod hi'n tawel argymell y dylai menywod Ceidwadol ymddiosg â'u hetiau a oedd yn achos bri ac anfri iddynt. Fe'i hetholwyd yn Llywydd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Ceidwadol ym 1969.

Cyfunodd Barbara Brooke ei gwaith gwleidyddol â gwasanaeth i nyrsio ac ysbytai. Am dros hanner can mlynedd gwasanaethodd y Sefydliad Brenhinol dros Nyrsio Cymunedol, gan godi i fod yn Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith rhwng 1961 a 1971 a dyfarnwyd medal aur y Sefydliad iddi. Yn aelod, ac yn ddiweddarach yn Gadeirydd Bwrdd Rhanbarthol Gogledd Orllewin Prifddinesig yr Ysbytai, ymwelai yn gyson â wardiau mewn ysbytai noswyl y Nadolig. Yr oedd hefyd yn aelod o Bwyllgor Rheoli Cronfa Ysbyty'r Brenin Edward dros Lundain o 1961-1971. Mewn cydnabyddiaeth o'r fath wasanaeth ac am ei gwasanaeth gwleidyddol fe apwyntiwyd Barbara Brooke yn DBE ym 1960. Dyrchafwyd hi yn Farwnes Brooke o Ystradfellte, yn Sir Frycheiniog yn rhestr anrhydeddau diddymol Syr Alec Douglas-Home ym mis Rhagfyr 1964.

Yn Nhy'r Arglwyddi siaradai Barbara Brooke ar faterion iechyd, lles ac addysg. Crëwyd Henry Brooke hefyd yn Arglwydd am Oes ym 1966 gyda'r teitl yr Arglwydd Brooke o Cumnor. Am gyfnod byr, felly, yr oedd y gwr a'r wraig, ill dau, yn gweithredu yn llefaryddion dros yr Wrthblaid ar y fainc flaen yn y Tŷ. Yr oedd hi'n gyfrifol am les ond yn cynorthwyo hefyd ar faterion iechyd ac addysg. Ym 1970 dewiswyd hi i eilio'r bleidlais o ddiolch wedi araith y Frenhines. Yn ei haraith disgrifiodd ei hun fel Cymraes, gan ategu bod Cymru yn fwy na rhanbarth; cenedl ydoedd: “Gwlad o fynyddoedd a chymoedd ydyw, o haul a chysgod, ac yn fynych y mae cysgod hir, tywyll diweithdra wedi gyrru'r llawenydd ymaith.” [Hansard yr Arglwyddi, 2 Gorffennaf 1970]

Cododd yr ymgyrch olaf a arweiniwyd gan Barbara Brooke allan o'i swydd fel cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Godolphin a Latymer yn Hammersmith. Gwrthododd y llywodraethwyr benderfyniad Awdurdod Addysg Ganol Llundain i uno'r ysgol ag ysgol gyfagos i greu ysgol gyfun newydd. Dan arweiniad Barbara Brooke, penderfynodd y llywodraethwyrwyr fynd â'r ysgol i'r sector addysg breifat. Yr oedd hi'n flaenllaw yn yr ymgyrch i godi'r arian angenrheidiol i gynnal yr ysgol wrth iddi fynd yn annibynnol ym 1977.

Yr oedd yn briodol mai cyfraniad olaf Barbara Brooke yn Nhy'r Arglwyddi ar 12 Gorffennaf 1979, oedd yn ystod trafodaeth am ddyfodol Ysbyty Elizabeth Garrett Anderson i Fenywod. Yr oedd Henry Brooke yn dioddef o glefyd Parkinson ac yr oedd ei wraig wedi gadael bywyd cyhoeddus i ofalu amdano. Yr oeddent wedi symud o Hampstead i Glebe House, Mildenhall, swydd Wiltshire, lle bu farw Henry Brooke ar 29 Mawrth 1984. Yr oeddent yn ffyddlon i'w gilydd ac wedi'u huno gan ffydd Gristnogol ddofn iawn. Arhosodd Barbara Brooke yn Mildenhall, gan symud i dy o'r enw Romans Halt. Yr oedd ganddi un ymgyrch bach arall i'w gwblhau a hwnnw oedd sicrhau neuadd pentref i Mildenhall. Bu farw yng nghartref preswyl Highfield ym Marlborough, swydd Wiltshire ar 1 Medi 2000 gan adael stad o £473,318. Ganwyd i Henry a Barbara Brooke ddau fab a dwy ferch: y mab hynaf oedd Peter Brooke (ganwyd 1934). Bu'n Ysgrifennydd Gwladol Gogledd Iwerddon 1989-92; Ysgrifennydd Gwladol Treftadaeth Genedlaethol 1992-94; ac Arglwydd am Oes yn 2001 yn dal y teitl Barwn Brooke o Sutton Mandeville; bu'r mab ieuengaf, Syr Henry Brooke (ganwyd 1936) yn Arglwydd Ustus Apêl, 1996-2006.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-05

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.