Ganwyd ef ar 17 Tachwedd 1920, yn fab i Tom Jones, Mynyddcynffig, Penybont-ar-Ogwr, cyn löwr a ddaeth wedyn yn asiant yswiriant. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Mynyddcynffig, Ysgol Ramadeg Penybont-ar-Ogwr a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Graddiodd gyda gradd BA gydag anrhydedd mewn economeg a diploma mewn addysg. Tra oedd yn fyfyriwr yn Aberystwyth daeth yn gadeirydd Pwyllgor Cyllid y Myfyrwyr a chan fod ganddo ddiddordeb ysol mewn pob math o chwaraeon, daeth yn gapten ar dimau hoci'r coleg, y brifysgol a'r sir. Daeth yn bennaeth ar adran astudiaethau busnes Ysgol Ramadeg Yale, yn ddiweddarach Ysgol Dechnegol Wrecsam, a dewiswyd ef yn reffari rygbi. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol, lle daeth yn awyr-rhingyll (llyw-wr). Ymunodd â'r Blaid Lafur ym 1940 tra oedd yn fyfyriwr ac ymaelodi yn Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol. Safodd yn aflwyddiannus yn etholaeth Caer yn is-etholiad 1956 ac yn etholiad cyffredinol 1959. Etholwyd ef yn AS Llafur dros etholaeth Eccles, swydd Gaerhirfryn yn etholiad cyffredinol 1964 ac ailetholwyd ef yno yn gyson nes iddo ymddeol o'r Senedd adeg etholiad cyffredinol 1987. Ei olynydd fel AS Llafur yn yr etholaeth oedd Joan Lestor. Mabwysiadodd y cyfenw Carter-Jones yn lle Jones.
Ei brif ddiddordeb oedd yr anabl, yn enwedig y rhai a anafwyd mewn rhyfel. Ei uchelgais mewn bywyd oedd annog defnydd o dechnoleg fodern i gynorthwyo'r anabl. Datblygodd ddiddordeb arbennig mewn defnyddio technoleg i gynorthwyo'r mwyaf anabl a phobl hen iawn, hyfforddiant diwydiannol a diogelwch diwydiannol. Chwaraeodd rôl ganolog yn sicrhau llwyddiant Mesur y Cleifion Cronig a'r Anabl, Tachwedd 1969. Roedd yn gadeirydd Sefydliad Elusen Possum a Phwyllgor Ymchwil Cymorth i'r Anabl a drefnwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol ar Glefydau Efryddol. Roedd hefyd yn aelod ymgynghorol o'r Gymdeithas Brydeinig ar Bobl Araf a chadeirydd Pwyllgor y Llyfrgell Wrando Genedlaethol. Roedd hefyd yn aelod o nifer fawr o bwyllgorau a chyrff yn ymdrin â'r materion hyn. Roedd gan Carter-Jones hefyd ddiddordebau o ddifrif tu allan i brif faes ei weithgarwch. Am ugain mlynedd ar ôl 1966 roedd yn ysgrifennydd y Grŵp Seneddol Indo-Brydeinig. Datblygodd ddiddordeb oes yn Columbia ar ôl iddo ymweld â'r wlad ar ran yr Undeb Rhyng-seneddol. Daeth ei etholwyr i'w edmygu, yn arbennig oherwydd y cymorth a roddodd i'r diwydiant awyr yn swydd Gaerhirfryn, ond hefyd oherwydd y dyn ag ydoedd - cymeriad da a diffuant. Dyfarnwyd y CBE iddo ym 1995.
Priododd ym 1945 Patricia Hylda, merch Alfred Bastiman, Scarborough, swydd Efrog, a bu iddynt ddwy ferch. Eu cartref oedd 5 Ffordd Gefn, Rhosnesni, Wrecsam. Bu Carter-Jones farw ar 16 Awst 2004.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.