Ganwyd ef yn 39 Stryd John, Abercwmboi, Aberdâr, yn fwyaf tebygol (neu'n swyddogol) ar 8 neu 9 Tachwedd 1886. Yn ôl rhai ffynonellau ganwyd ef ym 1883 neu hyd yn oed cyn hynny. Yn ôl Cyfrifiad 1891, roedd yn naw mlwydd oed ar y pryd. S. O. oedd y pedwerydd o chwech o blant a anwyd i Thomas Davies, gweithiwr fferm, glöwr a swyddog undeb llafur (bu yntau farw ym 1909), gŵr a gafodd ei ddiarddel o gapel Soar, Aberpennar ym 1904, ac Esther Owen, gweithwraig mewn siop leol, ac unigolyn arbennig o benderfynol a dyfeisgar. Addysgwyd S. O. Davies yn ysgol leol Cap Coch, Abercwmboi, a dechreuodd weithio ym mhwll glo Cwmpennar (lle'r oedd ei frodyr hefyd yn gweithio) pan nad oedd ond yn ddeuddeg oed. Astudiodd beirianneg fwyngloddio mewn dosbarthiadau nos, ac ym 1908, ac yntau wedi ei noddi gan Goleg Coffa Aberhonddu, dechreuodd fynychu Coleg y Brifysgol, Caerdydd, er mwyn astudio ar gyfer gradd BA. Ei fwriad ar y pryd oedd dod yn weinidog anghydffurfiol, ond, ar ôl i Davies wamalu rywfaint ynghylch union natur ei gredoau crefyddol, collodd y cymorthdaliadau ariannol a dderbyniodd gynt gan Goleg Aberhonddu. Eto llwyddodd Davies i raddio ym 1913. (Flynyddoedd yn ddiweddarach daeth yn un o lywodraethwyr Coleg y Brifysgol, Caerdydd.) Astudiodd hefyd yn y Coleg Gwyddoniaeth Brenhinol Llundain. Yn ei fywyd cynnar dylanwadwyd yn drwm arno gan ddiwinyddiaeth R. J. Campbell. Fel myfyriwr, safodd S. O. yn ymgeisydd ar ran y Blaid Lafur Annibynnol ar gyfer Bwrdd Gwarchodwyr Dinas Caerdydd.
Yn syth ar ôl graddio, gweithiodd S. O. Davies fel glöwr yn y Tymbl a gweithiodd hefyd fel atalbwyswr ym 1913. Yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Byd Cyntaf mabwysiadwyd ef yn ymgeisydd ar ran y Blaid Lafur Annibynnol ar gyfer etholaeth Llanelli. Treuliodd yntau ei ieuenctid ym maes glo De Cymru a ddaeth o dan ddylanwad hynod o bwerus polisïau Sosialaidd a milwriaeth yr undebau llafur. Yn hydref 1918, yn fuan cyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, penodwyd ef yn asiant llawn-amser i ardal Dowlais Ffederasiwn Glowyr De Cymru, gan barhau yn y swydd tan 1934. Gweithiodd mewn cysylltiad agos â Noah Ablett, asiant ardal Merthyr Tudful. Roedd hefyd yn gyfaill mynwesol i W. H. Mainwaring. Yn fuan daeth Davies yn enwog am ei weithgareddau milwriaethus. Daeth i wrthwynebu'n chwyrn y galwadau ar ôl y rhyfel am genedlaetholi'r diwydiant glo ym Mhrydain. Bu'n ymweld â Rwsia ym 1922 a daeth i edmygu'n fawr y gyfundrefn Sofietaidd drwy gydol ei oes. Eto parhaodd yn deyrngar i'r Blaid Lafur - er iddo gael ei ddenu yn fawr gan apêl y Blaid Gomiwnyddol. Ym 1924 penodwyd ef yn Brif Drefnydd ac yn Ymgynghorwr Cyfreithiol i Ffederasiwn Glowyr De Cymru, a daeth yn Is-Lywydd arni yn yr un flwyddyn. Gwasanaethodd hefyd ar bwyllgor gwaith Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr, 1924-34, fel cynrychiolydd glowyr De Cymru, ac etholwyd ef yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful ym 1931. Yn ddiweddarach daeth yn henadur o'r Cyngor a gwasanaethodd fel Maer Merthyr Tudful ym 1945-46. Daliodd yn aelod o'r cyngor tan 1949.
Mewn is-etholiad ym 1934 etholwyd S. O. Davies yn AS Llafur dros etholaeth Merthyr Tudful yn olynydd i Richard C. Wallhead a oedd wedi cynrychioli'r etholaeth fel AS y Blaid Lafur Annibynnol ers 1922. Dros y blynyddoedd bu Davies yn mwynhau mwyafrifoedd sylweddol ym mhob etholiad cyffredinol. Drwy gydol ei yrfa seneddol, roedd bob amser yn barod i ddilyn ei lwybr ei hun, yn fythol barod ar adegau i ymosod ar weithgareddau hyd yn oed llywodraeth Lafur. Fel canlyniad, ar dri achlysur gwahanol rhwng 1953 a 1961 cafodd ei amddifadu o chwip y blaid Lafur ar faterion yn ymdrin â gorsafoedd yr Americanwyr ym Mhrydain, ailarfogi yng Ngorllewin yr Almaen, a gwrthwynebiad i raglen y llong danfor Polaris. Roedd byth a beunydd yn barod i ymosod ar lywodraethau Wilson y cyfnod 1964-70 oherwydd iddo anghydweld â'u polisïau gwariant cyhoeddus, eu rheolaeth ar gyflogau a deddfwriaeth yn ymdrin â'r undebau llafur. Bu hefyd yn gyson frwd ei gefnogaeth i hunanlywodraeth dros Gymru - yn hollol groes i safbwynt swyddogol ei blaid ar y pwnc. Cefnogodd yn frwdfrydig fudiad taer Senedd i Gymru'r cyfnod 1950-56. Ym 1955, gan weithredu'n hollol ar ei liwt ei hun, a heb hyd yn oed ymgynghori â'i gydweithwyr o fewn mudiad Senedd i Gymru, cyflwynodd fesur Llywodraeth Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin. Yn unol â'r disgwyl, methiant llwyr fu'r mesur. Gwasanaethodd Davies hefyd yn un o lywodraethwyr yr Amgueddfa Genedlaethol, y Llyfrgell Genedlaethol a Phrifysgol Cymru. Cyflwynodd dystiolaeth o flaen nifer fawr o ymchwiliadau cyhoeddus y llywodraeth.
Fel y gellid disgwyl, ni ddaliodd S. O. Davies erioed swydd yn y llywodraeth. Eto profodd ei hun yn AS etholaethol ardderchog, yn fythol sensitif i anghenion a dyheadau pobl Merthyr Tudful. Roedd yn teimlo'n agos iawn at bobl y dref. Ei ddiddordebau gwleidyddol pennaf oedd diwygio cyfraith yswiriant cenedlaethol ym 1967 a'r angen i ddyfarnu iawndaliadau uwch i gyn-lowyr a ddioddefai oddi wrth glefydau'n ymwneud â llwch. Yn llawn embaras, cyfaddefodd i dribiwnlys trychineb Aberfan ym 1967 iddo gael amheuon mawr ynghylch diogelwch y pyllau glo yn yr ardal, ond iddo gadw'n dawel rhag i'w ymyrraeth arwain at gau pyllau glo lleol ac yna creu diweithdra ar raddfa fawr yn yr ardal. Yn aml iawn nid oedd Davies yn cyd-fynd â safbwynt ei blaid. Yn dilyn trychineb Aberfan, daeth yn hallt ei feirniadaeth ar y ffordd y cyflwynodd y llywodraeth iawndaliadau i deuluoedd y rhai a fu farw. Yn etholiad cyffredinol 1970 cafodd S. O. Davies ei ddad-ddewis gan y blaid Lafur lleol oherwydd ei odran (roedd yn 84 mlwydd oed o leiaf), ond, ac yntau'n hollol amharod i dderbyn fod ei yrfa wleidyddol bellach ar ben, safodd fel ymgeisydd Llafur annibynnol ac etholwyd ef i'r senedd gyda mwyafrif o 7,467 o bleidleisiau dros Tal Lloyd, yr ymgeisydd Llafur swyddogol. Yna cafodd Davies ei ddiarddel o'r Blaid Lafur. Roedd y canlyniad yn dyst huawdl i barch pobl Merthyr Tudful tuag at ei haelod seneddol. Yn y Senedd ar ôl hynny cadwodd mewn cysylltiad â'r Blaid Lafur Seneddol mewn ffordd ddirgel, a derbyniodd gopïau o chwip y Blaid Lafur, er mai aelod Annibynnol ydoedd yn swyddogol. Yn fuan ar ôl hynny, gwrthododd dderbyn rhyddid bwrdeistref Merthyr Tudful, gan ddatgan yn llawn balchder fod ei ailethol gan bobl Merthyr yn anrhydedd digonol iddo. Yn ei osgo personol, roedd Davies ymhell o fod yn chwyldroadol. Yn dal, gyda phersonoliaeth bleserus a dymunol, roedd ganddo ymagweddiad tawel yn allanol.
Yn Awst 1919 ymbriododd S. O. Davies â Margaret Eley (fe'i hadweinid fel Madge ar adegau), merch o Gaerdydd. Bu iddynt dair o ferched. Bu hithau farw o gancr ym 1932. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ailbriododd â Sephora Davies, merch o Wauncaegurwen, Sir Gaerfyrddin, ac athrawes. Bu iddynt hwy ddau fab. Roedd y briodas yn berthynas hapus gyda'r ddau yn gefnogol i'w gilydd. Eu cartref oedd Gwynfryn Park Terrace, Merthyr Tudful. Diddordebau hamdden Davies oedd cerdded a nofio. Bu farw yn ysbyty cyffredinol Merthyr Tudful ar 25 Chwefror 1972 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent gyhoeddus Aberpennar o fewn Cwm Cynon, bro ei febyd. Gwerth ei ystâd oedd £1,945. Yn yr is-etholiad a ddilynodd farwolaeth Davies, ailgipiwyd y sedd gan Ted Rowlands ar ran y Blaid Lafur, ond gwelwyd symudiad sylweddol iawn i gyfeiriad Plaid Cymru yn yr etholaeth. Mae papurau cynnar S. O. Davies sy'n tarddu o'r cyfnod pan oedd yn asiant y glowyr yng ngofal Gwasanaeth Archifau Morgannwg yng Nghaerdydd, tra mae ei bapurau gwleidyddol mwy diweddar ym meddiant Archif Maes Glo De Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.