Ganwyd ef ar 16 Hydref 1920, yn Gohaingaon, Sibsagar, Assam, yr India, yn ail fab i Louis James Donnelly, plannwr te o dras Wyddelig, a Florence Aimée Tucker (a fu farw ym 1968), merch i deulu Saesneg a wasanaethodd yng ngwasanaeth sifil yr India. Aeth mam Donnelly ag ef i Loegr ym 1928 (ac yn ganlyniad collodd gysylltiad â'i dad), derbyniodd ei addysg yn Ysgol Brightlands, Newnham-on-Severn, swydd Gaerloyw, ac Ysgol Bembridge ar Ynys Wyth. Dylanwadwyd yn fawr arno gan syniadau William Morris ac ymunodd â Chyngrair Ieuenctid y Blaid Lafur ac yntau'n dal yn ei arddegau. Gadawodd yr ysgol ym 1938 a gweithiodd mewn swyddfa yn Llundain. Yn ystod ei ieuenctid, roedd hefyd yn chwarae criced a rygbi yn frwd iawn. Daeth yn ysgrifennydd Clwb Rygbi'r London Grasshoppers ar ôl gadael yr ysgol. Yn ddwy-ar-bymtheg oed, sefydlodd y 'British Empire Cricket XI', clwb criced a ddaliodd ati i chwarae drwy gydol yr Ail Ryfel Byd gan gyrraedd safon ardderchog o griced a chodi arian at Groes Goch Dug Caerloyw a chronfa Sant Ioan. Ymunodd Donnelly â'r Blaid Lafur ym 1936.
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd ymunodd Donnelly â'r Awyrlu Brenhinol a gwasanaethodd fel swyddog awyr (Rheolaeth Awyrennau Bomio) ac yn ddiweddarach yn yr Eidal fel lefftenant awyr dros-dro (awyrlu'r anialwch). Ar ôl y rhyfel bu'n darlithio yng Ngholeg Staff yr Awyrlu Brenhinol, 1945-46, ac wedyn cafodd ei benodi'n olygydd cynorthwyol (ac yna'n olygydd) Town and Country Planning. Gwasanaethodd yn ddiweddarach yn gyfarwyddwr y Town and Country Planning Association, 1948-50. Yn etholiad cyffredinol Gorffennaf 1945 safodd yn aflwyddiannus yn ymgeisydd Plaid y Gymanwlad (plaid sosialaidd ddelfrydgar a ystyrid yn gyffredinol ei bod i'r chwith i'r Blaid Lafur) ar gyfer etholaeth Evesham, swydd Gaerwrangon, ac yna ailymunodd â'r Blaid Lafur y mis Medi canlynol. Donnelly oedd yr ymgeisydd Llafur yn is-etholiad County Down yn yr Iwerddon ym 1946 pan ddaeth yn ail da i'r ymgeisydd llwyddiannus Undebwr Ulster, canlyniad calonogol i Donnelly. O'r diwedd, ym mis Chwefror 1950, cipiodd etholaeth sir Benfro o 129 o bleidleisiau'n unig oddi wrth yr AS 'Rhyddfrydol' Gwilym Lloyd-George. Roedd Donnelly wedi llwyddo i fanteisio ar deimladau radicalaidd o fewn yr etholaeth hynod ymylol hon ac ar anghymeradwyaeth Rhyddfrydwyr lleol ynghylch perthynas gor-agos Lloyd-George â'r Blaid Geidwadol. Adeiladodd Donnelly ddilyniant personol sylweddol o fewn yr etholaeth, lle'r oedd amryw yn edmygu ei egni rhyfeddol, ei ddawn fel trefnydd ac arddull bersonol hynaws a enillai gefnogaeth a phleidleisiau fel ei gilydd. Tra oedd yn Aelod Seneddol, parhaodd i weithredu fel ymgynghorwr i gwmni peirianneg David Brown, i Diwydiannau Philips, ac i Hill Samuel, a hynny er mwyn cynyddu ei incwm personol.
O fewn y senedd daeth Donnelly yn un o ddilynwyr Aneurin Bevan o 1951 a bu hefyd yn gyfaill agos i Hugh Dalton. Roedd yn gefnogol i ailarfogi yn yr Almaen a magodd ddiddordeb mawr mewn materion rhyngwladol, gan sefydlu cyfeillgarwch glòs gyda nifer o unigolion blaenllaw fel Willy Brandt ac Ian Smith, Prif Weinidog Rhodesia. Bu ei deithiau i ddwyrain Ewrop a Tsiena yn gyfrifol am gynyddu ei agwedd wrth-Gomiwnyddol a amlygwyd mewn gweithiau fel The March Wind: Explorations behind the Iron Curtain (1959) a Struggle for the World: the Cold War from its Origins in 1917 (1965). Bu hefyd yn gweithio fel colofnydd gwleidyddol i'r Daily Herald, 1959-63, ac fel prif ohebydd gwleidyddol y News of the World, 1967-70. Roedd atgasedd Donnelly at Harold Wilson yn hysbys i bawb, ac, yn unol â'r disgwyl, cefnogodd George Brown yn egnïol yn ystod y gystadleuaeth ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur ym 1963. Bu etholiad Wilson yn gyfrifol am gyfyngu Donnelly i feinciau cefn y Tŷ Cyffredin, lle daeth yn rebel oedd yn fythol barod i greu trafferth o fewn y Blaid Lafur - heb lawer o reswm ar adegau. Ymunodd â rebel arall, yr Aelod Seneddol Woodrow Wyatt, gan wrthwynebu cynlluniau eu plaid i genedlaetholi'r diwydiant dur Prydeinig. O'r diwedd, ac yntau wedi diflasu'n llwyr gan bolisïau tramor ei blaid, ymddiswyddodd Donnelly o chwip y Blaid Lafur ar 18 Ionawr 1968 a diarddelwyd ef o'r blaid naw wythnos yn ddiweddarach ar 9 Mawrth 1968.
Ym mis Mehefin 1969 sefydlodd Desmond Donnelly ei Blaid Ddemocrataidd Unedig (United Democratic Party) ei hun. Ei pholisïau oedd diddymu'r wladwriaeth les, ailgyflwyno gwasanaeth cenedlaethol, dienyddio a fflangelliad. Yn etholiad cyffredinol Mehefin 1970 gorchfygwyd Desmond Donnelly a phedwar ymgeisydd arall ei blaid, er iddo yntau ennill dim llai na 11,824 o bleidleisiau yn sir Benfro, gan ennill iddo'i hun drydydd safle da o fewn yr etholaeth. Nicholas Edwards a gipiodd yr etholaeth ar ran y Blaid Geidwadol. Yn Ebrill y flwyddyn ganlynol, heb roi rhybudd i'w ei gydweithwyr o fewn yr UDP, ymunodd Donnelly â'r Blaid Geidwadol, gan esbonio bod y blaid honno yn adlewyrchu ei syniadau yntau ar ddiwygio'r gyfraith, ar yr undebau llafur a mynediad i'r Farchnad Gyffredin. Yn wir, mynychodd gynhadledd y Blaid Geidwadol ym mis Hydref y flwyddyn honno yn gynrychiolydd dinasoedd Llundain a San Steffan. Ond methu'n llwyr a wnaeth i sicrhau enwebiad fel ymgeisydd y blaid yn is-etholiad Hove ym 1973 neu yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer etholaeth Melton yn etholiad cyffredinol Chwefror 1974. Donnelly oedd cadeirydd Cwmni ICPS, 1972-74, a rheolwr-gyfarwyddwr Practical Europe Ltd, 1973-74. Yn ystod enciliad economaidd 1973 a 1974, bu ei gwmnïau mewn trafferthion ariannol difrifol, a bu hyn, ynghyd â'i fethiant i ddychwelyd i Dŷ'r Cyffredinol fel Ceidwadwr, yn gyfrifol am greu ynddo iselder ysbryd sylweddol. Ac yntau'n dioddef oddi wrth iselder ysbryd clinigol difrifol, o'r diwedd cyflawnodd hunanladdiad mewn ystafell yng ngwesty yn West Drayton ger maes awyr Heathrow ar 4 Ebrill 1974.
Priododd ym 1947 â Rosemary Taggart, merch William John Taggart MD o Belfast. Bu iddynt un mab ac un ferch. Eu cartref o fewn yr etholaeth oedd Pant-y-Beudy, ger Gwdig, Sir Benfro. Eu cartref yn Llundain oedd Flat 16, 88 Portland Place, Llundain. Roedd personoliaeth Donnelly yn ddi-ffael yn lliwgar a bywiog, mwynhaodd fywyd preifat llawn iawn ac roedd yn hynod o wybodus ynghylch criced. Yn y byd gwleidyddol rebel ydoedd ar hyd ei oes, rhyw fath o eliffant drygionus diarhebol. Medrai fod yn hollol eithafol o frwdfrydig â'r gallu ganddo i areithio'n danbaid gan afael yn bwerus yn ei gynulleidfa. Cyhoeddodd yn helaeth, gan gynnwys nifer o gyfrolau, teithiodd yn helaeth fel bod ganddo gylch eang o gyfeillion a chydnabod ar draws y byd. Daeth i'r amlwg oherwydd iddo fudo o'r chwith i'r dde yn y sbectrwm gwleidyddol ac oherwydd ei amharodrwydd i ddilyn trywydd plaid (bu'n aelod o bedair plaid wleidyddol wahanol yn ystod ei yrfa, a symudodd rhwng pleidiau ar bum achlysur).
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.