Ganwyd 10 Tachwedd 1884 ail fab Dr William Edwards, Arolygwr Ysgolion ei Fawrhydi, ac yna Prif Arolygwr y Bwrdd Canol, ym Merthyr Tudful, Morgannwg. Addysgwyd ef yn ysgol Clifton a Choleg Hertford, Rhydychen, lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y 'Moderations' Mathemateg ac yn yr ysgol 'Greats' terfynol. Oherwydd ei ddiddordeb byw yn y celfyddydau gweledol, ac mewn pensernïaeth yn arbennig, erthyglwyd ef gyda Syr Reginald Blomfield, R.A., yn 1907 ac yn 1911 ymunodd ag Adran Gynllunio Dinesig Prifysgol Lerpwl. Ymunodd â'r llynges fel morwr cyffredin yn 1915, 'dros gyfnod y brwydro yn unig', a chafodd y profiad hwn gryn ddylanwad ar ei natur sensitif a grymus fel y dengys ei gyfrol o atgofion, Three rows of tapes:a social history of the lower deck (1929, a fersiynau newydd yn 1940, 1972). Cafodd gymaint o flas ar fywyd y môr nes peri iddo dreulio 12 mlynedd o gyfnod heddwch fel morwr cyffredin yn yr R.N.V.R. gan gyfrif ei brofiad yn y llynges yn un o brif ddylanwadau diwylliannol ei fywyd.
Pan ddarfu'r Rhyfel Mawr yn 1918 ymunodd â'r Weinyddiaeth Iechyd a oedd yn gyfrifol, yr adeg honno, ymhlith pethau eraill am bolisi tai, a bu yna am 6 mlynedd. Yr oedd gan yr Arglwydd Greenwood atgof byw ohono'n cyrraedd y Weinyddiaeth yn iwnifform llongwr i gynnig ei wasanaeth i Syr Raymond Unwin. Yn 1924 cyhoeddodd Good and Bad Manners in Architecture (ailgyhoeddwyd ef yn 1948, 1972), gan annog penseiri i barchu'r amgylchfyd y cynllunid eu hadeiladau ynddo. Yr oedd o flaen ei oes hefyd wrth sefydlu yn 1933 The Hundred New Towns Association, ond ni allai hyd yn oed ei frwydro egnïol a chyffrous ef wneud llawer o argraff nes i'r Comisiwn Brenhinol ar Leoliad Daearyddol y Boblogaeth Ddiwydiannol, y Pwyllgor Defnyddio Tir, y Pwyllgor ar Drefi Newydd a'r Comisiwn Brenhinol ar y Boblogaeth ddangos fod y farn swyddogol yn symud, o'r diwedd, i gyfeiriad ei safbwynt ef. Rhoes dystiolaeth gerbron yr holl bwyllgorau hyn a dengys eu hadroddiadau gymaint yr oedd ei syniadau'n dechrau dwyn dylanwad. Paratôdd gynlluniau arbennig o werthfawr i helaethu palas San Steffan ar draws Bridge Street gyda'i deras to hardd a'r ychydig lleiaf o ddifrodi ac i godi ffordd osgoi yn Rhydychen ymhen uchaf dôl Christchurch y gellid fod wedi elwa lawer arnynt. Yn 1925 dyfarnodd Ymddiriedolwyr Chadwick £250 iddo i wneud gwaith ymchwil ar gwestiwn dwysedd tai yn y trefi mawrion a chyhoeddodd ei adroddiad Modern Terrace Housing yn 1946. Cafodd ei farnu gan lawer, fodd bynnag, am fod estyniad ei ddwysedd yn rhy uchel. Yn 1953 cyhoeddodd A new map of the world: the Trystan Edwards projection, ymgais i ddatrys problem bwrw arwynebedd sfferig y bydysawd ar arwynebedd gwastad, problem na ellir, yn ei hanfod, ei datrys yn foddhaol, a'i ddilyn yn 1972 â The science of cartography: a new presentation. Ymhlith ei lyfrau eraill y mae The things which are seen: a philosophy of beauty (1921, 1948, 1972), Architectural style (1925, 1935, How to observe buildings, 1972), Sir William Chambers (1926), The second battle of Hastings, 1939-45 (1970)
Wedi iddo ymddeol i Gymru ac i fro ei febyd cyfrannodd yn helaeth i'r astudiaethau rhanbarthol a gyhoeddwyd gan Robert Hale gyda phapurau ar Merthyr Tudful, a Rhondda a'r Cymoedd; ymddangosodd Merthyr-Rhondda, the Prince and Wales of the future yn 1972. Yn 1968 troes yn ôl at bersaernïaeth a chyhoeddi Tomorrow's architecture: the triple approach. Daliodd ati i ysgrifennu ymhell i'w henoed a chyhoeddodd yn 1972 Second-Best Boy: the autobiography of a non-speaker, Fourth of the visual arts: architecture re-examined.
Yr oedd ei gorff yn fyr, a'i anian bywiog, ei bresenoldeb hynaws a'i ffraethineb gyflym yn ddihareb, yn rhan o'i gynhysgaeth Gymreig. Yr oedd ei gyd-benseiri'n uchel eu clod iddo, yn arloeswr cynllunio trefi ac yn ŵr a ysbrydolodd ddatblygiadau cymdeithasol ym Mhrydain a enynnodd edmygedd y byd. Yr oedd yn FRIBA, FRTPI, FRGS.
Priododd yn 1947 â Margaret Meredyth, merch y Canon F.C. Smith. Bu hi farw yn 1967 ac yntau, yn ysbyty'r Santes Tydfil, Merthyr Tudful 29 Ionawr 1973 yn 88 oed.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-09-17
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.