EVANS, WILLIAM GARETH (1941-2000), hanesydd a darlithydd prifysgol mewn Addysg

Enw: William Gareth Evans
Dyddiad geni: 1941
Dyddiad marw: 2000
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hanesydd a darlithydd prifysgol mewn Addysg
Maes gweithgaredd: Addysg; Hanes a Diwylliant
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yng Nghynwyd, ger Corwen ar 14 Rhagfyr 1941, yn fab i William a Mary Evans. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Cynwyd, ac Ysgol Tŷ Tan Domen (Ysgol Ramadeg y Bechgyn yn y Bala), ysgol nodedig a fu'n feithrinfa i nifer o haneswyr blaenllaw gan gynnwys Yr Athro Syr Rees Davies (1938-2005). Aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn Hydref 1960 a graddiodd gydag anrhydedd uchel o fewn y dosbarth IIi yn hanes yno ym Mehefin 1963. Yna gwnaeth gwrs o hyfforddiant i ddilyn gyrfa fel athro ysgol, a threuliodd gyfnodau byr yn dysgu yng Nghaerffili, Penarlâg, Sir y Fflint a Llanymddyfri. Penodwyd ef i swydd darlithydd yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin ym Mehefin 1971. Ym 1972 dyfarnwyd iddo radd M.Ed Prifysgol Cymru am draethawd ar hanes Coleg Llanymddyfri. Cyhoeddwyd fersiwn ohono yn gyfrol gan Ymddiriedolwyr Coleg Llanymddyfri ym 1981.

Yn y cyfamser, yn Hydref 1977, roedd Gareth Evans wedi derbyn swydd fel darlithydd o fewn Cyfadran Addysg, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. O'r cychwyn cyntaf roedd yn ddarlithydd llwyddiannus, yn arddangos y gofal mwyaf dros ei fyfyrwyr, a chwaraeodd ran lawn yng ngwaith gweinyddol ei adran. Ym 1981 daeth yn aelod o weithgor Bwrdd y Cydbwyllgor Addysg Gymreig ar y Dystysgrif Gyffredinol ar Addysg, corff a sefydlwyd i osod seiliau fesul pwnc ar gyfer cyfundrefn gyffredin o arholi plant 16 oed. Roedd ganddo frwdfrydedd heintus dros hanes fel disgyblaeth academaidd, hefyd dros hyfforddi ac ysbrydoli athrawon y dyfodol yn y pwnc, a sicrhau cyflenwad digonol o ddefnyddiau dysgu yn yr iaith Gymraeg. Hyn sy'n esbonio'r llif o gyhoeddiadau a luniodd ar gyfer y Ganolfan Adnoddau Addysg o fewn ei adran, a'r gefnogaeth ddiflino a roddodd i'r cynllun gradd allanol drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg a sefydlwyd gan ei brifysgol ar ddechrau'r 1980au.

Ar yr un pryd parhaodd Gareth Evans gyda'i ymchwil academaidd gydag arddeliad, a dyfarnwyd iddo radd MA Prifysgol Cymru ym 1981 a gradd Ph.D. ym 1987. Cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig o'r traethawd doethuriaeth gan Wasg Prifysgol Cymru o dan y teitl Education and Female Emancipation: the Welsh Experience, 1847-1914 yn haf 1990, ymdriniaeth a gafodd groeso brwdfrydig. Roedd galw mawr am ei wasanaeth hefyd fel darlithydd cyhoeddus a ddenodd gynulleidfaoedd niferus pa le bynnag yr âi. Cyhoeddodd Evans yn helaeth ar ysgolion unigol ac addysgwyr o tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen, a denwyd ei sylw yn arbennig gan hanes addysg merched, pwnc nad oedd cyn hynny wedi derbyn ond ychydig iawn o sylw gan ymchwilwyr. Roedd wedi cyfrannu'n helaeth mewn cynifer o feysydd, a dyrchafwyd ef o'r diwedd yn uwch-ddarlithydd, penodiad tra haeddiannol, ym 1991, ac o fewn tair blynedd dyrchafwyd ef i raddfa darllenydd prifysgol. Nid oes amheuaeth, petai Gareth Evans wedi cael byw, na fyddai Prifysgol Cymru wedi dyfarnu iddo gadair bersonol.

Priododd ar 15 Hydref 1966 Kathleen Thomas, a bu iddynt ddau o feibion. Eu cartref yn Aberystwyth oedd 'Berwyn', 37 Cefn Esgair, Llanbadarn Fawr. Yr ail fab, Rhys Evans, yw awdur y gyfrol uchel ei bri Gwynfor: Rhag Pob Brad a gyhoeddwyd gan Wasg y Lolfa yn 2005. Bu farw Gareth Evans yn ei gartref ar 28 Mawrth 2000 ar ôl brwydro'n hir a dewr yn erbyn y cancr ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.