GOWER, HERBERT RAYMOND (1916-1989), gwleidydd Ceidwadol

Enw: Herbert Raymond Gower
Dyddiad geni: 1916
Dyddiad marw: 1989
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Ceidwadol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Llansawel ar 15 Awst 1916, yn fab i Lawford R. Gower FRIBA, pensaer a gyflogid gan Gyngor Sir Morgannwg ac a oedd yn byw ym Mhenylanen. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd, Ysgol Uwchradd Caerdydd, Coleg Prifysgol Cymru, Caerdydd ac Ysgol y Gyfraith, Caerdydd. Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ar ôl iddo fethu archwiliad meddygol, daeth Gower yn swyddog cadetiaid yn y fyddin gyda'r Corfflu Gwylwyr Brenhinol, Corfflu Cadetiaid y Fyddin, ac yn ddiweddarach o fewn Amddiffyn Milwrol. Enillodd gymwysterau fel cyfreithiwr ym 1944, a sefydlodd ei bartneriaeth ei hun ym 1948, gan barhau i gynnal y cwmni tan 1963. Ym 1964 daeth yn bartner o fewn Cwmni S. R. Freed, cyfreithwyr yn Harewood Place, Llundain W1. Daeth hefyd yn newyddiadurwr ac yn ddarlledwr. O'i ieuenctid roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth, ac ym 1946 etholwyd Raymond Gower yn ysgrifennydd anrhydeddus Cymdeithas Ceidwadwyr ac Undebwyr Dwyrain Caerdydd. Safodd yn aflwyddiannus fel ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Ogwr yn etholiad cyffredinol 1950, gan ennill y bleidlais Geidwadol uchaf allan o holl seddau maes glo de Cymru. Yna cafodd ei ethol i'r Senedd fel AS Ceidwadol etholaeth y Barri yn etholiad cyffredinol Hydref 1951. Rhwng adeg ei enwebiad hyd at ddiwrnod yr etholiad ym 1951 bu'n ymweld yn bersonol â mwy na 8,000 o dai ac anerchodd fwy na dau gant o gyfarfodydd gwleidyddol o fewn yr etholaeth. Hefyd lluniodd lythyrau di-rif i'r wasg leol. Ei wobr oedd cynnydd o bron i bum mil o bleidleisiau ym mhôl y Ceidwadwyr a mwyafrif o 1,649 o bleidleisiau. Ailetholwyd ef i'r senedd ym mhob etholiad cyffredinol a ddilynodd, gan gynnwys ym 1983 a 1987 ar gyfer etholaeth newydd Bro Morgannwg. Y farn gyffredinol oedd bod adrefnu ffiniau'r etholaethau ym 1983 wedi rhoi i Raymond Gower sedd fwy diogel i'r Ceidwadwyr. Roedd wedi colli Penarth, ond wedi ennill pentrefi arfordirol a'r ardal wledig o amgylch Pen-y-bont-faen, darnau oedd yn hollol ddiogel i'r Torïaid. Roedd wedi ystyried o ddifrif ymddeol o'r senedd ym 1987, ond perswadiwyd ef i sefyll eto oherwydd pryderon bod ganddo bleidlais bersonol sylweddol o fewn yr etholaeth ac efallai na fyddai ymgeisydd newydd yn llwyddo i ddal ei afael ar etholaeth oedd yn weddol o ymylol i'r Ceidwadwyr. (Fel mae'n digwydd, yn yr is-etholiad agos dros ben a ddilynodd ym mis Mai 1991 ar ôl marwolaeth Raymond Gower llwyddodd John Smith a'r Blaid Lafur i gipio'r sedd.) Roedd Gower yn parhau i eistedd fel AS Bro Morgannwg adeg ei farwolaeth. Erbyn hynny ef oedd yr AS Cymreig â'r gwasanaeth hwyaf yn y Senedd. Roedd yn uchel ei barch fel Aelod Seneddol cydwybodol ac effeithiol ar y meinciau cefn ac fel aelod hollol ymroddedig i'w etholwyr.

Lluniodd Raymond Gower golofnau cyson i'r Western Mail, 1951-64, a bu'n gadeirydd ar Wasg Penray ac ar y Barry Herald, 1955-64. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr nifer fawr o gwmnïau masnachol. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd preifat seneddol, 1952-60, i nifer o weinidogion, gan gynnwys R. Maudling, J. Profumo, J. G. Braithwaite ac H. Molson. Roedd yn aelod o lysoedd llywodraethwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yr Amgueddfa Genedlaethol, Coleg y Brifysgol, Caerdydd, a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Roedd yn ysgrifennydd anrhydeddus i Gymdeithas Cyfeillion Cymru. Ymhlith ystod eang o ymrwymiadau eraill roedd aelodaeth o bwyllgor gwaith Cymreig a chyngor Cymdeithas y Cenhedloedd Unedig. Gwasanaethodd hefyd yn gadeirydd Grŵp yr Aelodau Seneddol Ceidwadol Cymreig, a daeth yn drysorydd ar y Grŵp Seneddol Cymreig ym 1966. Daeth yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Wariant ym 1970 a gwasanaethodd ar Gynhadledd y Llefarydd ar Ddiwygio Etholiadol, 1967-69 a 1971-73. Daeth yn Gymrawd o Sefydliad y Cyfarwyddwyr ym 1958. Ni roddwyd iddo swydd uchel yn San Steffan erioed. Ar ôl etholiad cyffredinol Mehefin 1970, soniwyd am Gower fel Ysgrifennydd Gwladol posibl dros Gymru, y Ceidwadwr cyntaf i ddal y swydd hon, ond yn ei le dewisodd Edward Heath Peter Thomas, yr AS dros De Hendon. Fel gwobr gysur, urddwyd Gower yn farchog ym 1974. Gwnaethpwyd ef yn Rhyddfreiniwyr dros Fwrdeistref Bro Morgannwg ym 1978.

Roedd cartref Raymond Gower yn Sully ger Caerdydd. Priododd ym 1973 Cynthia, merch James Hobbs. Ni fu iddynt blant. Bu farw ar 23 Chwefror 1989 ar ôl treulio'r diwrnod yn canfasio yn is-etholiad Pontypridd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.