Ganwyd 7 Mawrth 1929, yn fab i Robert Griffiths, Treuddyn, ger Yr Wyddgrug, Sir y Fflint, a'i wraig. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Yr Wyddgrug a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Wedi dychwelyd i Sir y Fflint yn 1951 ar ôl graddio, cafodd waith fel cemegydd diwydiannol, yn gyntaf yng ngweithfeydd dur John Summers yn Shotton ac yn ddiweddarach yng Nghaerffili a gweithfeydd Dalzell yn yr Alban. Wedi ei ethol i Gyngor Sir y Fflint ym 1964, bu, fel ei dad, yn Gynghorwr dros y Blaid Lafur. Yr oedd ganddo, er hynny, uchelgais gwleidyddol eangach, ond trydydd safle gwael a gafodd pan safodd yn etholaeth seneddol Dinbych ym 1966. Daeth cyfle arall i'w ran ym 1968 pan safodd mewn isetholiad dros etholaeth Sheffield Brightside ar 13 Mehefin. Etholwyd Griffiths, gyda mwyafrif o 5,248 pleidlais, lleihad sylweddol oherwydd amhoblogrwydd y Llywodraeth Llafur ar y pryd.
Yn ei araith gyntaf yn ystod dadl ynglyn â'r diwydiant dur ar 12 Gorffennaf 1968, soniodd Griffiths am ei benodiad yn un o'r deuddeg cyfarwyddwr rhan-amser ar y Gorfforaeth Ddur Prydeinig. Bu rhaid iddo ymddiswyddo'n anfoddog oherwydd yr isetholiad, cyn cael cyfle i bresenoli'i hun mewn un cyfarfod o'r bwrdd. Er i'w sylwadau ar y diwydiant dur fod yn ddigon derbyniol, yr oedd ei gyfeiriad Beiblaidd yn yr araith yn llai derbyniol. Yn Etholiad Cyffredinol 1970 cododd ei fwyafrif i 15,369 pleidlais. Yr oedd yn llai selog ei bresenoldeb yn y Tŷ wedi 1970. Priodolwyd hyn i'r ffaith i rywun ymosod arno'n gorfforol wrth ymadael â Thy'r Cyffredin gyda'r hwyr ryw noson. Serch hynny, parhaodd yn Aelod Seneddol ac fe'i hail-etholwyd ym mis Chwefror 1974, gan godi ei fwyafrif i 20,567 pleidlais. Yr oedd ei gyfraniadau i'r dadleuon yn Nhy'r Cyffredin wedi'u cyfyngu, ar y cyfan, i'r diwydiant dur. Yn ei araith olaf ym mis Chwefror 1973, er mawr siom i'w gydaelodau ar y meinciau Llafur, cefnogodd gynlluniau'r llywodraeth Geidwadol ar gyfer y diwydiant dur.
Ar gais Ernle Money, yr aelod Ceidwadol dros Ipswich, cytunodd Griffiths i bregethu mewn cyfarfod diolchgarwch am y cynhaeaf yn swydd Suffolk tua diwedd mis Awst 1974. Ac yntau'n gefnogwr brwd i'r gêm pêl droed aeth Griffiths yng nghwmni Money i'r gêm rhwng Ipswich Town a Sheffield United; aeth y ddau i gyfarfod dinesig arall y noson honno. Aeth y cefnogwyr pêl droed â'r newydd am Griffiths yn cymdeithasu â Cheidwadwr yn ôl i Sheffield a bu hynny'n ddeunydd er ymosod arno yn nwylo gweithwyr ar yr aden chwith ym mhlaid etholaeth Brightside. Y rhesymau arwynebol dros ddad-ddewis Griffiths fel cynrychiolydd ei blaid yn yr Etholiad Cyffredinol a ddilynodd oedd nad oedd wedi symud i fyw yn yr etholaeth, ei gyfraniadau anfynych yn Nhy'r Cyffredin a'i gefnogaeth i'r mudiad Ewropeaidd. Yr oedd gwleidyddiaeth y blaid yn yr etholaeth wedi symud i gyfeiriad yr aden chwith tra oedd Griffiths drwy'r amser ar yr aden dde. Yr oedd cryn ddrwg deimlad rhwng Griffiths ac arweinydd y blaid leol. Gwnaeth Griffiths gamgymeriad drwg wrth beidio â chadw addewid, a fynegwyd ganddo'n fwy nag unwaith, i symud ei gartref o Shotton i Sheffield. Nid oedd a wnelai â gweithgarwch yr etholaeth ac ni roddodd ddigon o bwys ar y pethau bychain bychain a fuasai wedi'i gynorthwyho i greu cyfeillion yn y blaid leol. Rhwng y ddau gyfarfod a'i dad-ddewisodd, symudodd ei gartref i dy nid nepell o'r etholaeth, ond yr oedd hyn yn rhy hwyr i'w achub. Dad-ddewiswyd Griffiths, gan osod Joan Maynard, gwleidydd o'r aden chwith, yn ei le. Yn yr Etholaeth Gyffredinol ym mis Hydref 1974 safodd fel ymgeisydd Llafur Annibynnol, gan gasglu 10,182 pleidlais, cyfrif parchus a dorrodd fwyafrif Maynard yn sylweddol. Arhosodd Griffiths yn Sheffield, gan weithio yn y diwydiant dur. Ymunodd â'r Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol.
Yr oedd argoelion da am yrfa Griffiths yn y Blaid Lafur pan aeth yn gyntaf i Dy'r Cyffredin. Mab i löwr gda chefndir dosbarth gweithiol ydoedd ac fe greodd argraff dda pan gafodd ei ddewis y tro cyntaf. Ond yn y Tŷ, cyfyngwyd ei gyfraniadau i'r diwydiant dur, gan weld y problemau trwy lygaid un yn y diwydiant, yn hytrach na thrwy lygaid gwleidydd. Wedi colli ei sedd, mynegodd ei farn yn hallt ar duedd y Llywodraeth i ymyrryd â rhedeg y diwydiant.
Dyn tal ydoedd nad oedd yn ei chael yn hawdd gwneud cyfeillion, yn y Senedd nac yn ei etholaeth. Ei natur ddi-ddweud sy'n eglur pam y cyfrannodd fanylion moel yn unig ar gyfer y nodyn arno yn Who's Who. Dyn o argyhoeddiadau Cristnogol cadarn ydoedd a wasanaethodd yn rheolaidd fel pregethwr cynorthwyol. Ymddeoliad byr a gafodd. Dychwelodd i Dreuddyn gan ddilyn ei ddiddordebau mewn hanes lleol a chwilio achau. Priododd ym 1954 ag Ella Constance, merch William Leigh Griffiths o Shotton. Ganwyd iddynt fab a merch. Bu farw ar 18 Hydref 1995 wedi trawiad wrth wella mewn uned gofal dwys, ar ôl llawfeddygaeth. Gadawodd stad o £145,000 ar ei ôl.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-10-13
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.