GRIST, IAN (1938-2002), gwleidydd Ceidwadol

Enw: Ian Grist
Dyddiad geni: 1938
Dyddiad marw: 2002
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Ceidwadol
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Southampton ar 5 Rhagfyr 1938, yn fab i Basil William Grist MBE, asiant tir a pherchennog garej, a Leila Helen Grist. Addysgwyd ef yn ysgol barataol Hildersham House yn Broadstairs, yn Ysgol Repton, ac yna enillodd ysgoloriaeth agored mewn hanes i Goleg Iesu, Rhydychen. Tra oedd yn fyfyriwr bu'n ysgrifennydd Cymdeithas Geidwadol Coleg Iesu. Ymunodd â Cheidwadwyr Ifanc Eastleigh ym 1956. Gweithiodd am gyfnod fel athro ysgol tan 1960, wedyn fel swyddog pleidleisiau ar gyfer De'r Cameroons o fewn Swyddfa'r Trefedigaethau, 1960-61, ac yna fel rheolwr storfeydd ar gyfer Cwmni Affrica Unedig, Nigeria, 1961-63. Ym 1963, wedi dod i deimlo na fyddai Affrica yn cynnig iddo yrfa werth chweil ar gyfer y dyfodol, derbyniodd swydd o fewn y Blaid Geidwadol yn Swyddog Ymchwil a Gwybodaeth, 1970-74. Safodd Ian Grist yn ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth Aberafan yn erbyn John Morris yn etholiad cyffredinol Mehefin 1970, ac yna cynrychiolodd Ogledd Caerdydd, 1974-83, ac, yn dilyn ail-ddosbarthu'r ffiniau etholaethol yn sylweddol, bu Grist yn cynrychioli etholaeth lawer mwy ymylol, sef Canol Caerdydd, rhwng 1983 a 1992. Yn etholiad cyffredinol Mehefin 1987 cafodd ei fwyafrif ei haneru gan yr ymgeisydd Llafur. Yn etholiad cyffredinol 1992, yn unol â'r disgwyl hyd yn oed ganddo ef ei hun, collodd y sedd i'r ymgeisydd Llafur John Owen Jones - rhan o grebachu etholiadol y Blaid Geidwadol yng Nghymru.

Roedd Ian Grist yn dal, yn hynaws, ac at ei gilydd yn boblogaidd iawn. Bu'n ysgrifennydd preifat seneddol, 1979-81, i Nicholas Edwards, yr ysgrifennydd gwladol dros Gymru ar y pryd, ond ymddiswyddodd ar ôl dwy flynedd yn y swydd. Bu hefyd yn is-ysgrifennydd gwladol yn y Swyddfa Gymreig o dan Peter Walker, 1987-90, wedi ei benodi, er mawr syndod i bawb, gan Mrs Thatcher er iddo wrthwynebu llawer iawn o'i pholisïau. Yn Rhagfyr 1990 cafodd ei ddiswyddo o'r swydd gan arweinydd newydd ei blaid John Major ar ôl iddo gefnogi Michael Heseltine yn y frwydr ddiweddar ar gyfer arweinyddiaeth y blaid. Ei olynydd yn y Swyddfa Gymreig oedd Nicholas Bennett, yr AS Ceidwadol adain-dde ar gyfer sir Benfro. Ar yr un adeg ymddiswyddodd o Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Faterion Cymreig, ac fel canlyniad roedd yn gyfrifol am ddileu'r mwyafrif o Geidwadwyr oddi ar bwyllgor oedd â chryn ddylanwad yng Nghymru. Cafodd ei ethol wedyn yn gadeirydd ar Grŵp yr Aelodau Seneddol Cymreig ym 1990, ac roedd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Aelodau, 1984-87. Drwy gydol ei yrfa wleidyddol roedd yn arch-elyn i ddatganoli a chreu Cynulliad Cenedlaethol dros Gymru. Roedd Grist o blaid Ewrop ac yn deyrngar bob amser i gytundeb Eingl-America. Roedd ar y blaen i fwyafrif ei gyd-Dorïaid ar faterion cymdeithasol, gwrthwynebodd ailgyflwyno dienyddio a chosb gorfforol mewn ysgolion. Roedd yn un o'r cyntaf i annog gosod gwaharddiad ar hysbysebu sigarennau. Roedd hefyd yn gwrthwynebu rheoli erthylu a daeth yn un o hoelion wyth y Planned Parenthood Federation. Cefnogodd gyffuriau angenrheidiol rhad ar gyfer y Trydydd Byd. Yn wahanol i'w gyd-aelodau Torïaidd, addysgwyd ei blant mewn ysgolion cyfun lleol. Ymosododd ar breifateiddio'r diwydiant dŵr ac roedd yn un o wrthwynebwyr treth y pen. Daliodd nifer o swyddi eraill yn San Steffan ac roedd yn amlwg o fewn bywyd cyhoeddus Cymru. Etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau ym 1984. Ei ddiddordebau oedd darllen a gwrando ar gerddoriaeth. Grist oedd cadeirydd Awdurdod Iechyd De Morgannwg o 1992. Priododd ym 1962 Wendy Anne White, a bu iddynt ddau fab. Bu'n byw yn 18 Tydfil Place, Y Rhath, Caerdydd. Bu Ian Grist farw, yn dilyn strôc, ar 2 Ionawr 2002.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.