JONES, JOHN EDWARD, 'IOAN MAESGRUG' (1914-1998), Barnwr Cylch

Enw: John Edward Jones
Ffugenw: Ioan Maesgrug
Dyddiad geni: 1914
Dyddiad marw: 1998
Rhiant: Elizabeth Jane Jones (née Roberts)
Rhiant: Thomas Robert Jones
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Barnwr Cylch
Maes gweithgaredd: Cyfraith
Awdur: Trefor D. Jones

Ganwyd 23 Rhagfyr 1914 yn 35 Mulliner Street, Lerpwl, yn fab i Thomas Robert Jones a'i wraig Elizabeth Jane (Roberts). Bu'n byw mewn amryw o gyfeiriadau gwahanol yn Lerpwl. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor Sefton Park a'r Liverpool Institute High School i fechgyn a bu'n gweithio i gwmni British Engine Boiler and Electrical Insurance, Manceinion o 1933 hyd 1945 gan astudio yn ei amser hamdden gyda'r Metropolitan College, St Albans. Llwyddodd yn arholiad y Northern Universities Matriculation yn 1931, ac ennill ACC, rhan I (1935), ACIS (1938), B.Com. (1942), a Ll.B., Bar Final (1945). Derbyniwyd ef yn fargyfreithwr yn Gray's Inn yn 1945 gan ymuno â Chylchdaith y Gogledd yn 1946. Penodwyd ef yn farnwr cylch yn 1969 (hyd 1984). Ymhlith y swyddi a ddaliodd yr oedd 'Workmen's Compensation (Supplementation) and Pneumoconiosis and Byssinos Benefits Board' (Is-gadeirydd) 1965-69, Ustus Heddwch Lerpwl a Swydd Gaerhirfryn 1966, Is-gadeirydd Sesiwn Chwarter Swydd Gaerhirfryn 1966-69, Is-gadeirydd Cymdeithas Ustusiaid Glannau Merswy 1974-78, cyfarwyddwr Cymdeithas Adeiladu Chatham 1955-59 ac Ymddiriedolaeth Yswiriant y Methodistiaid Calfinaidd Cymraeg 1953-59. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd Cymraeg a chymdeithasol Lerpwl, yn is-lywydd ac yna'n llywydd Cymdeithas Gorawl Lerpwl (1973-87), llywydd cangen Glannau Merswy o'r Groes Goch, aelod o fwrdd llywodraethwyr ysgol gyfun Aigburth Vale (1985-88). Yr oedd yn aelod o Orsedd y Beirdd (gwisg wen) dan yr enw 'Ioan Maesgrug', ac yn gymrawd yn Eisteddfod Glannau Merswy. Yr oedd ganddo ddiddordeb arbennig yn hanes Cymry Lerpwl. Bu'n flaenor yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru Heathfield Road Lerpwl (1947-98) ac yn llywydd henaduriaeth Lerpwl yn 1971. Cyhoeddodd Antur a menter Cymry Lepwl (1987); Cylch y pump ar hugain, ei hanes a'i draddodiadau (1989); Dogfennau'r Gymdeithas - Cymdeithas Genedlaethol Gymraeg Lerpwl (1994); paratôdd Fynegai cofnodion pregethau draddodwyd yng Nghapel Heathfield Road 1942-1991, Bywgraffiadur Cylch y pump ar hugain Lerpwl.

Priododd Katherine Elizabeth Edwards 8 Tachwedd 1945. Bu farw 28 Mehefin 1998.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.