Ganwyd Idris Parry ym Mangor, Sir Gaernarfon, 5 Rhagfyr, 1916, mab i William Parry, postmon, a'i wraig. Wedi mynychu Ysgol Gynradd Caetop, Bangor, aeth yn ei flaen i Ysgol Friars, ac yna i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru yn yr un ddinas. Ym 1939 graddiodd gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Almaeneg. Ym 1940 galwyd ef i'r fyddin ac ar gyfrif ei wybodaeth o Almaeneg cafodd ei anfon i Adran Gudd-wybodaeth Wleidyddol y Swyddfa Dramor. Dychwelodd i'w yrfa academaidd ym 1947, yng Ngholeg Gogledd Cymru, Bangor, ac arhosodd yno fel darlithydd, yna uwch-ddarlithydd, tan 1963, pan gafodd ei apwyntio i un o'r ddwy gadair Almaeneg ym Mhrifysgol Manceinion lle yr arhosodd nes iddo ymddeol ym 1977. Yn ystod ei amser ym Mangor dyfarnwyd iddo radd MA (1951) am astudiaeth feirniadol o Sonette an Orpheus gan Rainer Maria Rilke.
Roedd gan Idris Parry ystod eang o ddiddordebau llenyddol, ond ei gyfraniad pennaf i feirniadaeth lenyddol oedd, mae'n siŵr, ei waith ar Goethe a Kleist, ac ar rai o ffigurau amlycaf moderniaeth Almaeneg, megis Thomas Mann, Rilke, Hugo von Hofmannsthal a Kafka. Roedd yn gyfieithydd talentog: cyhoeddwyd ei gyfieithiad o 'Yr Achos' gan Kafka gan Penguin Books ym 1994 a derbyniodd glod mawr gan y beirniaid. Y mae Philip Pullman, awdur y drioleg His Dark Materials, hefyd wedi cydnabod ei ddyled ddeallusol i gyfieithiad ardderchog Parry o draethawd Kleist, 'On the Marionette Theatre' a gyhoeddwyd gyntaf yn Hand to Mouth and Other Essays ym 1981. Roedd yn darlledu yn aml ar y BBC Third Programme yn y 1960au a'r 1970au, ac fe gyhoeddwyd llawer o'r cyfraniadau yma, e.e. yn Speak Silence, 1988. Roedd yn gyfaill i'r awdur Almaeneg Elias Canetti ac fe chwaraeodd rôl bwysig yn sicrhau fod gwaith Canetti yn cael sylw haeddiannol yn y Deyrnas Unedig. Derbyniodd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen yn 1981 yn werthfawrogiad o'i wasanaeth i lenyddiaeth Almaeneg fodern. Ei brif weithiau yw Animals of Silence: Essays on Art, Nature and Folk-tale (OUP 1972), Hand to Mouth and Other Essays (Gwasg Carcanet 1981), Speak Silence (Gwasg Carcanet 1989), The Trial (cyfieithiad, Penguin 1994).
Yn ystod ei amser yn fyfyriwr ym Mangor cyfarfu ag Eirwen Lloyd Jones o Benmaenmawr (bu farw ym 1992), a phriodasant ym 1941. Roedd ganddynt ddwy ferch. Bu Idris Parry farw yn Frinton-on-Sea, swydd Essex, 15 Ionawr, 2008 ac fe'i hamlosgwyd yn Weeley (Essex).
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.