PERRY, STANLEY HOWARD HEDLEY (1911-1995), athro diwinyddol

Enw: Stanley Howard Hedley Perry
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1995
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro diwinyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Tudno Williams

Ganwyd 1911 yng Nghasnewydd. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Technegol, Casnewydd, ac yna wedi rhoi ei fryd ar y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd aeth i Goleg Trefeca i ddilyn cwrs rhagbaratoawl cyn mynd i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Hebraeg yn 1935 ac yna gydag anrhydedd mewn Groeg yn 1936. Oddi yno aeth i Goleg Westminster, Caergrawnt, gan ymaelodi yn Fitzwilliam House er mwyn dilyn Rhan II y Tripos ym maes yr Hen Destament. Enillodd radd yn y dosbarth cyntaf yn 1938 a dyfarnwyd iddo Wobr Hebraeg y Brifysgol.

Dilynodd gwrs i ymbaratoi ar gyfer y weinidogaeth yng Ngholeg y Bala yn 1939-40, ac fe'i ordeiniwyd yn weinidog wedi iddo dderbyn galwad i'r eglwys Saesneg yn Nhrefaldwyn. Bu yno hyd 1945 pan aeth i ddysgu Saesneg yn Ysgol Ramadeg Blackpool. Fe'i apwyntiwyd i gadair yr Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth yn 1947, lle bu hyd 1961. Ef oedd Deon Cyfadran Ddiwinyddiaeth Prifysgol Cymru 1958-61. Yn 1961 fe'i etholwyd i fod y cyntaf i lenwi cadair Astudiaethau Crefyddol Prifysgol Nsukka, Nigeria, a oedd newydd ei sefydlu. Byr fu ei arhosiad yno gan i'r gwres tanbaid effeithio'n ddrwg ar ei olygon a bu'n rhaid iddo ddychwelyd ar ôl blwyddyn i Brydain. Cafodd swydd darlithydd mewn coleg hyfforddi athrawon yng Nghaeredin, ac yna yn 1963 fe'i apwyntiwyd yn ddarlithydd mewn Addysg Grefyddol yn y Coleg Normal, Bangor ac yn Warden ar y George Hostel. Ar ôl ymddeol dychwelodd i fyw i'w hen gartref yng Nghasnewydd.

Roedd yn ieithydd heb ei ail, yn hyddysg mewn nifer o ieithoedd modern yn ogystal â ieithoedd yr hen fyd, a meistrolodd y Gymraeg yn arbennig o wych. Ei brif faes ymchwil oedd gweithiau'r tad eglwysig Syriaidd cyntaf, Aphrahat, ond ni chyhoeddodd ddim o'i waith arno. Yn wir, ychydig iawn a gyhoeddodd: dim ond ychydig o bregethau ac o adolygiadau mewn cylchgronau.

Priododd â Mary Elizabeth Jones, Blaenplwyf, ger Aberystwyth, ond bu hi farw'n ifanc ar 22 Mawrth, 1953. Pwysodd y brofedigaeth hon yn drwm arno weddill ei fywyd. Bu yntau farw 30 Tachwedd, 1995, yng Nghasnewydd a chladdwyd ei lwch ym medd ei briod ym mynwent tref Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-28

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.