Ganwyd ef Ebrill 21, 1906 yn fab hynaf i Thomas a Sophia Jones Roberts, fferm Tŷ Brith, Pen-y-cae ger Wrecsam. Wedi ei addysg gynnar yn ysgol gynradd Pen-y-cae ac ysgol ramadeg Rhiwabon, aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor i baratoi ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Cymreig. Yno graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Hebraeg, yn B.D. gyda chlod dwbl, yn Hebraeg yr Hen Destament a Groeg y Testament Newydd, ac yn M.A. gyda rhagoriaeth am draethawd ar 'The Agricultural Impliments of the Old Testament'. Bu am ddwy flynedd ym Mhrifysgol Leipzig, ond cyn iddo orffen ei waith yno cafodd anhwylder ar ei gylla a bu'n rhaid iddo gael triniaeth lawfeddygol arw; dioddefodd o sgil effeithiau hynny weddill ei oes. Yn 1934 fe'i penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol mewn Hebraeg ym Mhrifysgol Manceinion, ond yn 1936 dychwelodd i swydd debyg yn ei hen adran ym Mangor. Ymhen y flwyddyn derbyniodd wahoddiad i fynd yn Athro Iaith a Llên yr Hen Destament yn y Coleg Diwinyddol Unedig yn Aberystwyth. Yn ddiweddarach yn y flwyddyn 1937 fe'i hordeiniwyd yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Priododd yn 1943 gyda Dr Miriam Davies, meddyg teulu yn Llanbedr Pont Steffan a merch i'r Parch. a Mrs. John Davies, Aberystwyth, ei thad yn weinidog eglwys Salem yn y dref. Dychwelodd i Fangor unwaith eto yn 1948 yn Ddarlithydd Arbennig ar Hanes a Llên y Beibl ac yn gyfrifol yn benodol am gyrsiau i ddarpar athrawon ysgolion eilradd mewn ymateb i Ddeddf Addysg 1944. Daeth yn Uwchddarlithydd yn 1948 ac yn Athro a Phennaeth yr Adran Hebraeg ac Efrydiau Beiblaidd yn 1953.
Cyhoeddodd ei waith mawr yn 1951, sef The Old Testament Text and Versions, gwaith a ddaeth yn fuan ar ôl darganfod Sgroliau'r Môr Marw yn 1947 a lle caed ymdrech i bwyso a mesur arwyddocâd y sgroliau i astudiaethau o destun yr Hen Destament Hebraeg. Sefydlodd y llyfr ef yn awdurdod cydnabyddedig bydeang ar destun yr Hen Destament. O'r herwydd ef a wahoddid am rai degawdau wedyn i gyfrannu ar y pwnc mewn cyfrolau cyfansawdd ysgolheigaidd ar y Beibl, megis The Bible Today (1951), Die Religion in Geschichte und Gegenwart (1958, 1961) Peake's Commentary on the Bible (1962), Companion to the Bible (1963), Chambers's Encyclopaedia (1966), The Cambridge History of the Bible (1969), Encyclopaedia Judaica (1971).
Y gyfrol ddiwethaf hon, gyda rhai gweithiau eraill llai swmpus, a gyflwynodd i ystyriaeth y Brifysgol am radd uwch a dyfarnwyd D.D. iddo yn 1953; ef oedd un o'r rhai cyntaf i ennill y radd hon ym Mhrifysgol Cymru trwy gyflwyno gwaith ysgolheigaidd wedi ei gyhoeddi i'w arholi gan y Brifysgol. Fe'i dewiswyd hefyd yn Llywydd y gymdeithas Brydeinig, The Society for Old Testament Study.
Fel awdurdod ar destun yr Hen Destament naturiol oedd iddo gael ei wahodd i ymuno â'r tîm o ysgolheigion Prydeinig a oedd yn paratoi cyfieithiad newydd o'r Hen Destament ar gyfer y New English Bible, a bu wrth y gwaith hwnnw am ugain mlynedd. Yn gwbl naturiol eto ef a ddaeth yn Gyfarwyddwr y gwaith o baratoi'r cyfieithiad newydd o'r Beibl i'r Gymraeg, a gyhoeddwyd yn y man fel Y Beibl Cymraeg Newydd. Manteisiodd ar ei brofiad gyda'r cyfieithiad Saesneg i benderfynu ar natur wahanol y cyfieithiad Cymraeg ac i bennu patrwm gwaith y panelau cyfieithu.
Gwnaeth gyfraniad arloesol i astudiaethau academaidd o'i bwnc yn Gymraeg. Yn ychwanegol at gyhoeddi nifer o gyfrolau ar y Beibl, megis Patrymau Llenyddol y Beibl (1950), Sgroliau'r Môr Marw (1956), Sôn am Achub (Darlith Pantyfedwen) (1965), Proffwyd Gofidiau (1967) a nifer helaeth o erthyglau mewn gwahanol gyfrolau a chyfnodolion, datblygodd gyrsiau gradd yn y pwnc trwy gyfrwng y Gymraeg, a'i Adran ef oedd y gyntaf trwy Brifysgol Cymru (ac eithrio'r Adrannau Cymraeg, wrth gwrs) i gynnig cwrs gradd anrhydedd cyflawn yn cael ei ddysgu a'i arholi trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bu farw yn ysbyty Bangor Awst 11, 1977 yn 71 oed. Bu ei angladd yn amlosgfa Bangor 15 Awst a chladdwyd ei lwch ym medd y teulu yn Aberystwyth 9 Medi 1977.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-12-04
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.