Ganwyd ef ar 10 Mehefin 1925, yn fab i Thomas Roger Thomas a Catherine Delahaye. Addysgwyd ef yn Ysgol Bryntirion, Pen-y-bont ar Ogwr, Ysgol Rygbi, Prifysgol Llundain (graddiodd yn B.Sc.), a'r Coleg Milfeddygol Brenhinol. Daeth yn gymrawd anrhydeddus o Goleg Brenhinol y Milfeddygon a Chymdeithas Filfeddygol Brydeinig. Galwyd ef i'r bar o'r Deml Fewnol. Roedd hefyd yn ffermwr ac yn gyfarwyddwr cwmnïau. Gwasanaethodd yn gadeirydd cangen Caerfyrddin o Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, yn aelod o Gyngor y Ffermwyr a Chyngor Cymreig y Ffermwyr, 1963-70.
Roedd Thomas yn aelod o Gyngor Bwrdeistref Caerfyrddin, 1961-64. Safodd yn ymgeisydd Ceidwadol dros Aberafan yn etholiad cyffredinol 1964, a thros Geredigion ym 1966. Ef oedd AS Ceidwadol Mynwy o 1970 hyd at ei farwolaeth. Erbyn 1987 llwyddodd i adeiladu ei fwyafrif cychwynnol pitw i 9,350 o bleidleisiau. Pur anaml y siaradai yn y Tŷ Cyffredin, ond roedd parch mawr iddo fel aelod gwych o Banel Cadeiryddion y Llefarydd, yn cadeirio pwyllgorau gyda fflach a hiwmor iach di-ffael. Gwasanaethodd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar y Rhestr Sifil, 1970-71. Roedd yn chwip cynorthwyol y llywodraeth, Tachwedd 1971-Hydref 1973. Bu'n Arglwydd Gomisiynydd y Trysorlys, Hydref 1973-Mawrth 1974, chwip yr wrthblaid, 1974-79, a Thrysorydd y Frenhines a dirprwy brif chwip y llywodraeth, 1979-83. Dyma'r cyfnod mwyaf dedwydd a'r mwyaf llwyddiannus yn ei yrfa wleidyddol. Roedd hefyd yn aelod o'r Pwyllgor Dethol ar Fasnach a Diwydiant, 1979-83, ac o Bwyllgor Gwasanaethau'r Tŷ Cyffredin, 1979-83. Bu hefyd yn weinidog gwladol dros Gymru, 1983-85, wedi cytuno braidd yn anfodlon i dderbyn y swydd ar ôl marwolaeth ddisyfyd Michael Roberts AS yn Chwefror 1983. Cyfaddefodd o'i wirfodd ar ôl hynny iddo weld eisiau swyddfa'r chwip yn ddirfawr. Ym 1985 penderfynodd Nicholas Edwards, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, roi swydd i Mark Robinson (Gorllewin Casnewydd) yn y Swyddfa Gymreig i gymryd lle Stradling Thomas. Roedd Thomas yn aelod o'r Bow Group, ac etholwyd ef yn llywydd Ffederasiwn y Clybiau Ceidwadol ym 1984. Roedd yn aelod o Gyngor Ymgynghorol Cyffredinol y BBC, ac yn un o ymddiriedolwyr y Gronfa Bensiwn Seneddol. Dioddefodd Stradling Thomas gwymp difrifol iawn ym 1987; bu bron â marw ac ar ôl hynny gwelwyd lleihad sylweddol yn ei allu a'i egni. Yn ystod blynyddoedd olaf ei fywyd bu rhywfaint o anfodlonrwydd yn yr etholaeth oherwydd y dirywiad amlwg yng galluoedd yr Aelod Seneddol a'i segurdod cynyddol o fewn y senedd. Roedd ei absenoldeb amlwg o ddadl seneddol ar ddollau ar Bont Hafren yn destun dicter i'w blaid etholaethol. Penderfynwyd gwrthod ail-enwebu Stradling Thomas fel ymgeisydd. Yn syth cyhoeddodd yntau y byddai'n ymladd yn erbyn y penderfyniad, ond yna, ar ôl ailystyried, datganodd y byddai'n ymddeol o'r senedd adeg yr etholiad cyffredinol nesaf. Priododd Thomas ym 1951 Freda, merch Rhys Evans, a bu iddynt un mab a dwy ferch. Diddymwyd y briodas ym 1982. Urddwyd Stradling Thomas yn farchog ym 1985. Bu farw yn Llundain ar 29 Mawrth 1991.
Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.