WALLACE, ALFRED RUSSEL (1823-1913), naturiaethwr a hyrwyddwr diwygiadau cymdeithasol.

Enw: Alfred Russel Wallace
Dyddiad geni: 1823
Dyddiad marw: 1913
Priod: Annie Wallace (née Mitten)
Rhiant: Mary Anne Wallace (née Greenell)
Rhiant: Thomas Vere Wallace
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: naturiaethwr a hyrwyddwr diwygiadau cymdeithasol.
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Richard Elwyn Hughes

Ganwyd 8 Ionawr 1823, Kensington Cottage, Bryn Buga, Gwent yn fab i Thomas Vere Wallace a Mary Anne (Greenell). Bu'n byw ym Mryn Buga am ryw dair blynedd cyn i'r teulu ymadael am Loegr. Cafodd beth ysgol yn Hertford ond gadawodd pan oedd yn 13 oed a symud at ei frawd John yn Llundain. Aeth wedyn i gynorthwyo ei frawd arall, William, gyda'r bwriad o ymgymhwyso'n dirfesurydd. Erbyn 1839 roedd y gwaith tirfesurol wedi mynd â'r ddau frawd i Faesyfed. Tra bu yno lluniodd Wallace ei ysgrif gyntaf — ‘On the best method of conducting the Kington Mechanics' Institution’ a gyhoeddwyd wedyn yn History of Kington (Richard Parry, 1845). Bu'r ddau frawd yn gweithio yn ardal Rhaeadr cyn symud am gyfnod byr i Frycheiniog ac wedi hynny, yn 1841, i Gastell-nedd ym Morgannwg. Dechreuodd Wallace ddysgu Cymraeg, gan fynychu gwasanaethau yn y capeli lleol a phob amser yn lletya gyda theuluoedd Cymraeg eu hiaith.

Yn ystod ei gyfnod yng Nghastell-nedd dechreuodd Wallace ymddiddori o ddifrif ym myd natur. Dechreuodd astudio botaneg, fe'i penodwyd yn gyd-guradur yr amgueddfa leol, a phan ffurfiwyd Sefydliad Mecanegwyr yn y dref yn 1843, ymgymerodd Wallace â thraddodi yno ddarlithiau ar ffiseg elfennol. Mynychai gyfarfodydd yn Sefydliad Brenhinol Abertawe hefyd lle bu grwpiau trafod yn ymdrin â phynciau megis The vestiges of creation Robert Chambers. Roedd ei gyfnod yng Nghastell-nedd yn ffurfiadol-bwysig yn natblygiad Wallace fel naturiaethwr ac yn 1847 cyhoeddodd yn y Zoologist ei ‘bapur’ gwyddonol cyntaf — nodyn i'r perwyl ei fod wedi dod o hyd i sbesimen o chwilen brin yn ardal Castell-nedd.

Yn 1848 cychwynnodd ar daith i Dde America a'i gyfaill o gyd-naturiaethwr, Henry Walter Bates, yn gydymaith iddo. Ffrwyth ei gyfnod o bedair blynedd yno oedd Palm Trees of the Amazon and their uses (1853) — erbyn heddiw ei lyfr prinnaf o dipyn — ac A narrative of travels on the Amazon and Rio Negro (1853). Rhwng 1854 a 1862 bu yn y Dwyrain Pell, yn Archipelago Maleia a thra bu yno lluniodd ei ddamcaniaeth esblygiad, yn gyfamserol ag eiddo Charles Darwin ond yn annibynnol arni. I sicrhau na fyddai Darwin yn dod yn ail yn y ‘ras’ esblygiadol, trefnodd dau o'i gyfeillion (Hooker a Lyell) i'r ddau fersiwn o'r ddamcaniaeth gael eu cyflwyno yn yr un cyfarfod o'r Gymdeithas Lineaidd ar Orffennaf 1af 1858.

Cyfraniad mawr arall Wallace oedd ei waith bioddaearyddol a grynhowyd yn ei ddau lyfr The geographical distribution of animals (1876) ac Island life (1880). Sonnir amdano weithiau fel ‘Tad Bioddaearyddiaeth’ ac er teyrnged iddo yn y maes hwn fe gyfeirir o hyd at ‘Wallace Line’ yn nwyrain Asia — y llinell ddychmygol a ddynodwyd gan Wallace i wahaniaethu rhwng rhywogaethau ‘Awstralaidd’ a rhai ‘Asiaidd’.

Yn ail hanner ei oes tueddai diddordebau Wallace mewn materion cymdeithasol ac arallfydol i ddisodli ei naturiaetheg. Er syndod i'w gyd-wyddonwyr bu'n ymhel â nifer o weithgareddau a oedd yn annerbyniol, os nad yn wrthun, yng ngolwg gwyddoniaeth sefydliadol ei gyfnod — sosialaeth, ffrenoleg, ysbrydegaeth, gwrth-fuchfrechiad (antivaccination), heddychaeth ac eraill. Y wedd amlycaf ar ei sosialaeth oedd ei gefnogaeth i'r gymdeithas gwladoli'r tir y bu'n llywydd arno am gyfnod. At hyn oll daeth Wallace i gredu fod rhyw ‘Law Guddiedig’ y tu ôl i'r broses esblygiadol, cred a achosodd beth anghytundeb rhyngddo a Darwin.

Yn ysgrifennwr proliffig, bu'n awdur 22 o lyfrau ynghyd â thros 700 o gyhoeddiadau eraill yn y wasg gyfnodol a dyddiol. Er ei holl gampweithiau ni lwyddodd Wallace ar hyd ei oes i fachu unrhyw swydd o werth. Bu raid iddo ddibynnu am incwm ar weithgareddau megis gwerthu sbesimenau, darlithio a marcio papurau arholiad. Ar hyd ei oes bu gan Darwin gryn barch at alluoedd Wallace fel naturiaethwr ac ef fu'n bennaf gyfrifol am ddwyn perswad ar y Llywodraeth i ddyfarnu pensiwn bach i Wallace. Tebyg mai ei ymwneud â chynifer o fudiadau a chredoau anuniongred fu un o'r rhesymau paham na chafodd Wallace ei ethol yn FRS tan 1893. Ond nid oedd anrhydeddau o'r fath yn golygu ryw lawer iddo ac o 1889 ymlaen (pan ddyfarnwyd gradd DCL Rhydychen iddo — cawsai LlD Lerpwl yn 1882), gwrthododd dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth gan brifysgolion — gan gynnwys cynnig o radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Ond derbyniodd amryw fedalau gan gymdeithasau dysgedig rhwng 1868 a 1908 a bodlonodd dderbyn yr OM yn 1910; ei sylw ar y pryd oedd mai peth rhyfedd ac annealladwy oedd gweld ‘y fath radical penboeth, gwladolwr tir, sosialydd a gwrth-filitarydd’ yn derbyn anrhydedd o'r fath.

Yn ei hunangofiant (My life), a gyhoeddwyd gyntaf yn 1905, rhoes Wallace gryn bwyslais ar ei gyfnod cynnar yng Nghymru. Bu'n canmol rhinweddau'r diwylliant Cymraeg, gan ddyfynnu talpiau o'r Beibl Cymraeg; datganodd ei gefnogaeth i hunanlywodraeth i Gymru ac yr oedd o'r farn y dylid dysgu gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ychydig wythnosau cyn ei farw, ac yntau mewn cyflwr o gryn lesgedd, bu'n llythyru â theulu Bryn Coch, Castell-nedd (y fferm lle bu'n lletya saith deg o flynyddoedd ynghynt) gyda chais am samplau o'r bwydydd traddodiadol Cymreig (sucan blawd a bara maen) yn y gobaith y byddent yn ei adfer i'w iechyd arferol.

Priododd yn 1866 ag Annie Mitten, merch ifanc ei gyfaill William Mitten y mwsoglegwr; bu iddynt dri o blant. Bu farw ar 7 Tachwedd 1913 yn Broadstone, swydd Dorset. Cyfeiriodd y cylchgrawn gwyddonol Nature at ‘farwolaeth un o fiolegwyr enwocaf y ganrif’ — dyfarniad y byddai barn heddiw yn ei gadarnhau yn llwyr. Fe'i claddwyd ym mynwent Broadstone yn hytrach nag yn Abaty Westminster a hyn, yn ôl ei weddw, yn unol â dymuniadau Wallace ei hunan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/