WEST, DANIEL GRANVILLE, Barwn Granville-West o Bontypwl (1904-1984), gwleidydd Llafur

Enw: Daniel Granville West
Dyddiad geni: 1904
Dyddiad marw: 1984
Priod: Vera West (née Hopkins)
Rhiant: Elizabeth West (née Bridges)
Rhiant: John West
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef yn Nhrecelyn, sir Fynwy, ar 17 Mawrth 1904, yn fab i John West ac Elizabeth Bridges. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Trecelyn a Choleg Prifysgol Cymru, Caerdydd lle yr astudiodd y gyfraith ac enillodd y wobr gyntaf yn ei adran. Daeth West yn gyfreithiwr ym 1929. Gwasanaethodd yn yr Awyrlu Brenhinol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth yn awyr-lifftenant yn yr Awyrlu Brenhinol Gwirfoddol Wrth-gefn (Royal Air Force Volunteer Reserve). Gwasanaethodd yn aelod o Gyngor Dinesig Abercarn, 1934-38, a Chyngor Sir Fynwy, 1936-47. Etholwyd ef yn AS Llafur dros etholaeth Pontypŵl mewn is-etholiad yng Ngorffennaf 1946, gan barhau i wasanaethu yno nes iddo gael ei ddyrchafu yn Farwn Granville-West o Bontypŵl ym 1958. Ei olynydd fel AS Llafur dros Bontypŵl oedd Leo Abse. Gwasanaethodd West fel llywydd cangen De Cymru a Mynwy o Gymdeithas y Swyddogion Prawf, ac roedd yn ysgrifennydd preifat seneddol, 1950-51, i J. Chuter Ede, yr Ysgrifennydd Cartref, ac ef oedd cadeirydd y Cyngor Yngynghorol ar Awyrennu Sifil yng Nghymru. Roedd yn bartner hŷn yn y cwmni D. Granville West, Chivers and Morgan, cyfreithwyr, busnes a'i ganolfan yn Nhrecelyn a Phontypŵl. Priododd ar 12 Ionawr 1937, Vera, merch J. Hopkins, Pontypŵl. Bu iddynt un mab ac un ferch, a gwnaethant eu cartref ym Mrynderwen, Abersychan, Pontypŵl. Bu farw'r Arglwydd Granville-West ar 23 Medi 1984 a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Panteg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2009-07-27

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.