WILLIAMS, JOHN ELLIS CAERWYN (1912-1999), ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd

Enw: John Ellis Caerwyn Williams
Dyddiad geni: 1912
Dyddiad marw: 1999
Rhiant: Maria Williams (née Price)
Rhiant: John R. Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Cymraeg a Cheltaidd
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Robert Geraint Gruffydd

Ganwyd ar 17 Ionawr 1912 yng Ngwauncaegurwen, Morgannwg. Enw ei dad oedd John R. Williams ac enw ei fam cyn priodi oedd Maria Price; heblaw Caerwyn ganed iddynt fab, Keri, a merch, Morfudd. Glowr oedd ei dad a symudasai i'r De o'r Groeslon, Sir Gaernarfon, i chwilio am waith, deuai ei fam o Rydaman, Sir Gaerfyrddin; ymfalchïai Caerwyn yn ei gyswllt â'r Gogledd yn ogystal â'r De. Priododd Gwen Watkins o Abertridwr, Sir Forgannwg, athrawes ysgol, yn 1946, a bu'r ddau'n gynhaliaeth i'w gilydd weddill eu hoes; ni bu plant o'r briodas. Cafodd Caerwyn addysg uwchradd ragorol yn Ysgol Sir Ystalyfera lle y canolbwyntiodd ar Gymraeg a Lladin ac ennill y marciau uchaf oll drwy Gymru yn ei arholiad Cymraeg ar gyfer ei Dystysgrif Addysg Uwch yn 1930. Ymunodd â Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle y graddiodd yn BA gydag Anrhydedd IIi mewn Lladin yn 1933 a chydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg yn 1934; enillodd radd MA am draethawd ar ddau destun crefyddol Cymraeg Canol, y ddau'n gyfieithiadau o'r Lladin, yn 1936. Wedi tair blynedd yn Gynorthwyydd Dysgu ac Ymchwil yr Adran Gymraeg Bangor, enillodd un o Gymrodoriaethau'r Brifysgol a'i galluogodd i dreulio dwy flynedd yn Nulyn, lle y gosododd seiliau ei ddysg Wyddeleg ddofn. Dychwelodd i Gymru yn 1941 gan ymroi i astudio ar gyfer y weinidogaeth yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru a threulio tair blynedd yng Ngholeg Diwinyddol yr enwad yn Aberystwyth lle y graddiodd yn BD gyda Rhagoriaeth yn Hanes yr Eglwys a Groeg y Testament Newydd yn 1944; dilynwyd hyn gan flwyddyn o gwrs bugeiliol yng Ngholeg Diwinyddol y Bala. Yn hytrach na mynd i'r weinidogaeth fugeiliol yn 1945, fodd bynnag - er iddo bregethu'n gynorthwyol gydag argyhoeddiad dwfn drwy gydol ei oes - fe'i perswadiwyd i ymuno ag Adran Gymraeg Coleg Bangor fel Darlithydd; fe'i dyrchafwyd yn Ddarlithydd Hynaf yn 1951 ac yn Athro a Phennaeth yr Adran yn 1953. Yn 1965 fe'i gwahoddwyd i lenwi Cadair newydd y Wyddeleg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yno y bu nes ymddeol yn 1979. Treuliodd ddau gyfnod sabothol yn Nulyn a Los Angeles. Cyn ymddeol ymgymerasai â chyfarwyddo Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd newydd Prifysgol Cymru, a bu ei ofal dros y sefydliad hwnnw, fel Cyfarwyddwr i ddechrau (hyd 1985) ac wedyn fel Golygydd Ymgynghorol, yn allweddol i'w lwyddiant. Dyfarnwyd iddo raddau DLitt. er Anrhydedd Prifysgol Genedlaethol Iwerddon yn 1967 a Phrifysgol Cymru yn 1983. Etholwyd ef yn Gadeirydd yr Academi Gymreig 1966-75, yn Gymrawd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn 1975, yn Gymrawd yr Academi Brydeinig yn 1978 (enillodd hefyd wobr Derek Allen yr Academi yn 1985) ac yn Aelod Anrhydeddus o Academi Frenhinol Iwerddon yn 1990. Cyflwynwyd dwy gyfrol deyrnged iddo (yr ail i'w goffadwriaeth): Bardos, gol. R. Geraint Gruffydd (1982), a Cyfoeth y Testun, gol. I. Daniel et al. (2003).

Yr oedd Caerwyn yn ddiamau yn un o ysgolheigion Celtaidd pennaf y byd yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif. Yr oedd yn feistr ar yr holl ieithoedd Celtaidd a'u llenyddiaethau, a chyhoeddodd yn helaeth ar bron bob un ohonynt. Y mae'r llyfryddiaethau o'i weithiau a baratowyd gan Mr Gareth O. Watts (yn Bardos, 1982) a Dr Huw Walters (yn Y Traethodydd, CLIV, 1999) yn rhestru ymhell dros bum cant o eitemau. Yma noder yn unig y cyfrolau canlynol: Traddodiad llenyddol Iwerddon, 1958 (fersiwn Gwyddeleg, 1978; fersiwn Saesneg, 1992); Edward Jones Maes-y-plwm, 1963; Poems of Taliesin, 1968; The court poet in medieval Ireland, 1972; Y storïwr Gwyddeleg a'i chwedlau, 1972; The Poets of the Welsh princes, 1978, 1994 (fersiwn diwygiedig yn dwyn y teitl The Court Poet in Medieval Wales, 1997); Geiriadurwyr y Gymraeg yng nghyfnod y Dadeni, 1983; Diwylliant a Dysg, gol. Brynley F. Roberts, 1996. Yr oedd hefyd yn olygydd cyfnodolion a chyfresi nodedig: golygydd Y Traethodydd, 1965-99; Ysgrifau beirniadol, 1965-99; Studia Celtica, 1966-99; cyfres 'Llên y Llenor', 35 cyfrol, 1983-2000; ond efallai mai ei gampau golygyddol mwyaf arhosol oedd fel Golygydd Ymgynghorol Geiriadur Prifysgol Cymru, 1970-99, a 'Chyfres Beirdd y Tywysogion' y Ganolfan Uwchefrydiau, 8 cyfrol, 1991-6: Caerwyn, ynghyd â'r Athro Peredur Lynch, a olygodd y gyntaf o'r cyfrolau hyn: Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion, 1994. Cafodd hefyd weld cychwyn 'Cyfres Beirdd yr Uchelwyr' yr un Ganolfan, 15 cyfrol, 1994-2000.

Yr oedd Caerwyn a Gwen yn bâr golygus a thrwsiadus bob amser, a'u gwedd allanol rywfodd yn adlewyrchu eu harmoni mewnol. Yr oeddynt yn dra chroesawgar, a chanddynt ddiddordeb di-ben-draw mewn pobl eraill, yn enwedig cydweithwyr Caerwyn a'i fyfyrwyr. Bu Caerwyn farw o'r cancr yn ysbyty Bronglais, Aberystwyth 8 Mehefin 1999 ac amlosgwyd ei gorff 12 Mehefin 1999 yn Amlosgfa Aberystwyth lle y claddwyd ei lwch. Bu Gwen farw 19 Tachwedd 1999, ychydig yn hwy na phum mis ar ôl ei gwr. Mae ffotograff o J.E. Caerwyn Williams yn y gyfrol Bardos a phortread ohono gan Ifor Davies yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-08-01

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.