WILLIAMS, DAVID JAMES (1897-1972), gwleidydd Llafur

Enw: David James Williams
Dyddiad geni: 1897
Dyddiad marw: 1972
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd Llafur
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: John Graham Jones

Ganwyd ef ar Wauncaegurwen ar 3 Chwefror 1897, yn fab i Morgan Williams, glöwr, a Margaretta Jones. Addysgwyd ef yn ysgol elfennol Gwauncaegurwen, dechreuodd weithio mewn pwll glo ym 1911, a bu wedyn yn fyfyriwr yn y Coleg Llafur Canolog yn Llundain, sefydliad Marcsaidd, 1919-21. Bu yn ddi-waith am gyfnod cyn treulio'r flwyddyn 1922-23 yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen. Cyhoeddodd y gyfrol bwysig Capitalist Combination in the Coal Industry (1924). Bu wedyn yn ddarlithydd yn y Coleg Llafur Albanaidd rhwng 1924 a 1931. Dychwelodd i weithio mewn pwll glo ym 1931 a daeth yn atalbwyswr ac yn ysgrifennydd ei gyfrinfa ar Wauncaegurwen, 1931-45.

Ymunodd D. J. Williams â'r Blaid Lafur ym 1917 a'r Blaid Lafur Annibynnol ym 1922. Gwasanaethodd yn ysgrifennydd propaganda cangen Rhydychen o'r Blaid Lafur Annibynnol. Roedd yn aelod Llafur o Gyngor Gwledig Pontardawe, 1931-45, gan wasanaethu yn gadeirydd ym 1938-39. Williams oedd AS Llafur Castell-nedd o is-etholiad Mai 1945 nes iddo ymddeol o'r senedd adeg etholiad cyffredinol Hydref 1964. Olynwyd ef gan Donald Coleman. Roedd yn aelod o ddirprwyaeth y glowyr i Rwsia. Bu hefyd yn aelod o'r Bwrdd Gwarcheidwaid lleol. Gwasanaethodd yn ysgrifennydd Grŵp yr Aelodau Seneddol Llafur Cymreig. Priododd ym 1939 Janet Scott, merch James Alexander. Eu cartref oedd Delfryn, Penscynor, Castell-nedd. Bu farw ar 12 Medi 1972. Mae ei bapurau yng ngofal Archif Glowyr De Cymru, Abertawe.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2008-07-30

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.