Ganed Tom Pugh Williams yn 1912 yn Nhrawsfynydd lle roedd ei rieni, Edward a Jane (née Jones) Williams yn amaethu ar fferm Dolwen. Pan gafodd llyn Trawsfynydd ei greu, fe ddiflanodd y fferm o dan y dwr. Yr oedd y teulu wedi symud o Drawfynydd i Bantgwyn, Ysceifiog, Holywell a mynychodd Tom Pugh Williams yr Ysgol Sir i Fechgyn yn nhref Dinbych. Yn 1929 dechreuodd astudio yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, lle y graddiodd gydag Anrhydedd (Dosbarth Cyntaf) mewn Ffrangeg yn 1932 ac mewn Almaeneg (Dosbarth Cyntaf) yn 1933. Ar ôl dilyn Cwrs Addysg (1933-34) bu'n fyfyriwr ymchwil yn yr Adran Almaeneg gan dreulio'r rhan fwyaf o'r amser yn yr Almaen ym mhrifysgolion Bonn a Munich. Yn 1936 enillodd radd M.A. am ei draethawd ar y testun 'Germany's relations to France in drama and criticism between 1870 and 1890'. Cafodd ei benodi yn ddarlithydd yn yr Adran Almaeneg yn Aberystwyth yn 1936. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu Tom Pugh Williams yn gwasanaethu yn yr Intelligence Corps. Cafodd ei ryddhau o'r fyddin ym mis Hydref 1946, ac fe ailgydiodd yn ei yrfa academaidd yn Aberystwyth. Yn 1948 fe'i penodwyd yn 'Ddarlithydd Annibynnol', sef, pennaeth yr Adran Almaeneg yng Nghaerdydd. Yn 1952 cafodd ei ddyrchafu yn Athro ac yno y bu nes iddo ymddeol yn 1977. Yn 1950 fe'i priodwyd â Catherine Mary (Molly) Macnab a oedd ar y pryd yn fetron yn Neuadd Carpenter, Aberystwyth. Ni fu plant iddynt.
Perthynai Tom Pugh Williams i genhedlaeth o ysgolheigion a ystyriai eu dyletswyddau i'r myfyrwyr yn bwysicach na'u hymroddiad personol i ymchwil a chyhoeddi. Roedd yn hynod o boblogaidd gyda'r myfyrwyr - cyfeiriai pawb ato fel 'T.P.' gyda rhyw hoffter parchus. Pan ymddeolodd, daeth nifer fawr o'i gyn-fyfyrwyr yn ôl i Gaerdydd i ddathlu'r achlysur. Yn 1948 cyhoeddodd gasgliad o ddarnau o ryddiaith Almaeneg i'w cyfieithu i'r Saesneg, Advanced Modern German Unseens, ac yn 1957 ef oedd cyd-olygydd gyda'r Athro August Closs (Bryste) y flodeugerdd gynhwysfawr, The Harrap Anthology of German Poetry. Cyhoeddwyd ail argraffiad o'r flodeugerdd boblogaidd hon yn 1969. Yn 1954 fe gyhoeddwyd ei gyfieithiad Cymraeg o'r stori fer-hir, Romeo a Jwlia'r Pentre (Romeo und Julia auf dem Dorfe) gan y llenor o'r Swistir, Gottfried Keller (1819-1890). Ymhlith ei ddiddordebau roedd yr iaith Swedeg ac fe gynigiai gwrs arbennig ar yr iaith honno fel rhan o'r radd Almaeneg yng Nghaerdydd. Dyn tawel, hoffus, ysgolheigaidd oedd Tom Pugh Williams; fe roes yn helaeth iawn o'i amser a'i allu i'r myfyrwyr o dan ei ofal. Bu farw yng Nghaerdydd ddiwedd Gorffennaf 1985; amlosgwyd ei weddillion yno ar ddiwrnod ei angladd, Awst 1af, 1985.
Dyddiad cyhoeddi: 2009-04-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.