HUGHES, ROYSTON JOHN, 'ROY', BARWN ISLWYN (1925-2003), gwleidydd

Enw: Royston John Hughes
Dyddiad geni: 1925
Dyddiad marw: 2003
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
Awdur: David Lewis Jones

Ganwyd ef ar y 9fed o Fehefin 1925 yn Pontllan-fraith, Sir Fynwy, yn fab i John Hughes, glöwr, a Florence Tucker. Yn ystod ei beichiogrwydd nesaf, clafychodd Florence Hughes, a chymerwyd Roy, a oedd tua blwydd oed ar y pryd, at rieni ei dad. Cymerodd Elizabeth Hughes, ei fodryb, ofal ohono, ac arhosodd gyda hi drwy gydol ei blentyndod. Addysgwyd ef yn Ysgol Gynradd Pontllanfraith, ac ysgol uwchradd Pontllanfraith, ac er iddo adael yr ysgol yn bymtheg oed, cofiai am yr ysgolion yma gydag anwyldeb, a thalodd deyrnged i ddylanwad Edgar Phillips (Trefin), un o'i athrawon yn yr ysgol uwchradd. Câi ei swydd gyntaf yn swyddfa'r lofa'n anniddorol, a symudodd Hughes i weithio tan ddaear fel glöwr tan iddo gael ei alw i'r fyddin yn 1944. Gwasanaethodd fel milwr cyffredin mewn catrawd Gymreig, yn gyntaf yn yr India, ac yna yn Burma.

Yn dilyn ei ryddhau o'r fyddin, dychwelodd Hughes i lofa'r 'Nine Mile Point', ac ymunodd â'r Blaid Lafur. Drwy ei waith i'r blaid, enillodd Hughes le ar gwrs diploma dwy flynedd mewn economeg a gwleidyddiaeth yng Ngholeg Ruskin yn 1954-56. Wedi cwblhau ei astudiaethau, cafodd waith fel clerc cofnodion gyda'r 'Standard Motor Company', gwneuthurwyr y tractor 'Ferguson', yng Nghofentri. Rhwng 1959 a 1966, daeth yn swyddog y 'Transport and General Workers' Union' a changen bwrdeistref Cofentri o'r Blaid Lafur, ac yn gynghorydd ar Gyngor Dinas Cofentri. Yr oedd ar adain chwith y blaid; cyflwynodd gynnig gerbron cynhadledd y blaid yn Scarborough yn 1963 yn galw am wladoli'r diwydiant adeiladu, y diwydiant cyflenwi adeiladau, a thir.

Yr oedd gan Hughes uchelgeisiau gwleidyddol tipyn yn fwy, a daeth ei gyfle pan enwebwyd ef, gyda chefnogaeth ei undeb, i etholaeth Casnewydd yn 1966. Enillodd y sedd mewn brwydr rhyngddo ef a Peter Temple Morris, yr ymgeisydd Ceidwadol, gyda mwyafrif o dros 10,000 o bleidleisiau. Yn Nhŷ'r Cyffredin, gwrthwynebodd Hughes yn chwyrn ymdrechion llywodraeth Wilson i gyflwyno rheolaeth cyflog a diwygio'r undebau llafur. Yn siaradwr huawdl, medrai gythruddo ei gyd-aelodau, gan wahodd bloeddiadau o'r meinciau Torïaidd megis 'Too Long' neu 'Reading'. Pan geisiodd gynnig mesur aelod preifat yng Ngorffennaf 1972 i ddiddymu'r 'Industrial Relations Act 1971', bu'n rhaid i Selwyn Lloyd, y Llefarydd, ofyn iddo deirgwaith i ddiweddu ei sylwadau ac i symud ymlaen i'r cynnig. Gwrthwynebai Hughes y Farchnad Gyffredin, ac yr oedd lawn mor nerthol ei gefnogaeth i hawliau'r Palestiniaid, gan deithio gyda phum aelod arall i ymweld â Yasser Arafat yn 1975.

Yr unig swydd weinidogaethol a ddaliwyd gan Hughes oedd swydd Ysgrifennydd Seneddol Preifat i'w gyfaill, Fred Mulley, yn gyntaf yn y Weinyddiaeth Gludiant, ac yna yn y Weinyddiaeth Amddiffyn o 1974-75. Mae'n syndod na chafodd ei ddiswyddo o'r ail swydd pan bleidleisiodd, ar yr 8fed o Fai 1975, yn erbyn polisi amddiffyn y llywodraeth. Yr oedd yn arbennig o weithredol yng ngrwpiau seneddol y blaid, gan ddal swyddi yn y canlynol: Diwydiant Moduro; Astudiaeth Ffyrdd; Prydeinig-Bwlgaraidd; Prydeinig-Libanaidd; Prydeinig-Nigeriaidd; Prydeinig Malta; Prydeinig-Eifftaidd; Prydeinig Syriaidd; Prydeinig Rwmanaidd; a Phrydeinig Hwngaraidd. Golygai ei aelodaeth o'r grwpiau hyn dipyn o deithio tramor, fel y gwnâi ei le ar adran weithredol yr Undeb Cyd-Seneddol. Cymerodd fantais o gynhadledd yr Undeb yn 1990 yn Uruguay i fynychu 125ain penblwydd y wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Am saith mlynedd olaf ei yrfa yn Nhŷ'r Cyffredin yr oedd yn gynrychiolydd ar Gyngor Ewrop.

Cryfder Hughes fel Aelod Seneddol, gan iddo gael ei eni a'i fagu yn ei etholaeth, oedd ei amddiffyniad gafaelgar o fuddiannau Casnewydd. Yr oedd yn bendant ei gefnogaeth i waith dur mawr Llanwern, a gwasanaethodd fel cadeirydd Grwp Dur Seneddol y Blaid Lafur o 1976. Ymddiswyddodd o'r Pwyllgor Dethol ar Ddiwydiant Gwladoledig pan fu bygwth cau melinau dur Cymru yn 1973. Mater lleol arall yr ymrôdd Hughes lawer o'i amser a'i ymdrech iddi oedd Pont Hafren, gan fod yn barod bob amser i godi unrhyw fater yn ymwneud â chyflwr a gweithrediad y bont, ac yn ei gefnogaeth gynnar i'r ail groesiad. Gan iddo arwain yr ymgyrch am ail bont, galwodd nifer ar ôl ei farwolaeth am enwi'r bont ar ei ôl. O ran Cymru gyfan, yr oedd yn lled gefnogol i'r cynnig datganoli, er y priodolwyd hyn i'w anghytundebau ag Alan Williams, aelod Gorllewin Abertawe, a oedd yn gwrthwynebu datganoli. Apwyntiwyd ef yn ddirprwy lefarydd am Gymru ym Mawrth 1984, ond ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf 1988 am na allai ymddiried yn y prif lefarydd, Alan Williams. Ei eiliad balchaf fel Aelod Seneddol oedd pan fu'n llwyddiannus yn noddi mesur aelod preifat, y 'Badgers Act 1991', i amddiffyn setiau moch daear.

Tybiwyd yn gyffredinol y bwriadai Hughes sefyll eto yn etholiad 1997. Yn 1983, yr oedd y Comisiwn Ffiniau wedi rhannu etholaeth Casnewydd ar hyd llinell yr afon Wysg, gan ychwanegu rhannau gwledig o Sir Fynwy i'r ddwy etholaeth newydd. Dewisodd Hughes sefyll yn etholaeth Dwyrain Casnewydd, a gynhwysai waith dur Llanwern, ac a oedd yn sedd ddiogel i Lafur yn etholiadau 1983 a 1997. Ar y rhaglen radio 'Today' yn 2001, disgrifiodd Hughes sut y bu iddo, ychydig cyn etholiad 1997, ddatgelu wrth berson a oedd yn agos i arweinwyr y Blaid Lafur, y byddai'n barod i dynnu'n ôl pe bai'n cael cynnig arglwyddiaeth am oes. Derbyniwyd y cynnig yn ddiymdroi, gan nad oedd llawer o amser cyn yr etholiad, a byddai'n rhaid i'r blaid ddewis ymgeisydd ar frys. Etholwyd Alan Howarth, Aelod Seneddol Torïaidd Stratford-upon-Avon a oedd wedi ymuno a'r Blaid Lafur i sedd Ddwyrain Casnewydd.

Yr oedd nifer o'r arglwyddi wedi dewis 'Hughes' fel teitl, felly dewisodd Roy Hughes gael ei adnabod fel 'Barwn Islwyn o Gasnewydd yn Sir Gwent' er gwrogaeth i Fynyddislwyn a edrychai dros gartref ei blentyndod. Yr oedd yn un o'r ychydig arglwyddi a gafodd arfbais; arflun o ddraig goch yn cynnal lamp glöwr gyda'i ddwy droed, dau fochyn daear yn aros yn unionsyth y naill ochr, a'r arwyddair 'Chwarae Teg'. Siaradai yn ei ddull blaen arferol yn Nhŷ'r Arglwyddi, ar y diwydiant dur, hawliau glowyr wedi ymddeol, hawliau gweithwyr a oedd mewn perygl o golli eu pensiynau, a nifer o destunau tebyg.

Rhuthrwyd yr Arglwydd Islwyn i Ysbyty Caerdydd yn 2001, lle cafodd lawfeddygaeth ddargyfeiriol ar ei galon, a dioddefodd strôc yn ystod y llawdriniaeth. Treuliodd bedwar mis yn yr ysbyty, a naw mis adref yn gwella cyn dychwelyd i Dŷ'r Arglwyddi. Yn 2003 cyhoeddodd gofiant byr yn dwyn y teitl, Seek fairer skies/Cais Loywach Nen, sef arwyddair Ysgol Uwchradd Pontllanfraith.

Yr oedd Hughes yn wr corfforol o daldra cymedrol, gyda gên drwm, ac yr oedd yn adnabyddus yn Nhŷ'r Cyffredin am fod yn berson tanbaid.

Priododd Florence Marion Appleyard, a adweinid fel Marion, yn Eglwys Sant Luc, Scarborough yn 1957, ac fe anwyd tair merch iddynt. Yn 1955, symudodd y teulu o Gofentri i Gas-gwent, ac oddi yno yn 1990 i'r Fenni.

Bu farw'r Arglwydd Islwyn yn Ysbyty Nevill Hall, Y Fenni, ar 19eg o Ragfyr 2003; am fod ei eglwys blwyf, Eglwys Sant Teilo, yn rhy fach, cynhaliwyd ei angladd yn Eglwys Briordy'r Santes Fair, Y Fenni, ar y 5ed o Ionawr 2004, ac amlosgwyd ei weddillion yn amlosgfa Croesyceiliog. Gwisgodd nifer o'r gynulleidfa dei Clwb Rygbi Casnewydd i nodi ei gefnogaeth brwd i'r clwb a'i angerdd am y gêm. Gadawodd ystâd o £665,787.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-12-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.