JONES, BENJAMIN MAELOR (1894-1982), addysgwr ac awdur

Enw: Benjamin Maelor Jones
Dyddiad geni: 1894
Dyddiad marw: 1982
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: addysgwr ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Arwyn Lloyd Hughes

ganwyd 6 Gorffennaf 1894, yn bumed mab i Edward a Jane Jones, 13 Stryd Iâl, Johnstown, ger Rhosllannerchrugog, Sir Ddinbych. Ganed un ar ddeg o blant iddynt, ond bu farw tri ohonynt yn eu babandod. Hanai ei dad, a oedd yn saer coed yng nglofa'r Hafod, o Lansanffraid Glyndyfrdwy, Meirionnydd, a'i fam o Lansanffraid Glynceiriog, Sir Ddinbych. (Roedd y bardd o Edeirnion, Edward Jones ('Iorwerth Goes Hir'; 1824-1880) yn daid iddo ar ochr ei dad.)

Addysgwyd ef yn yr ysgol elfennol leol, ysgol sir Rhiwabon (1905-12); Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (B.A., 1915 gydag anrhydedd mewn Saesneg; M.A., 1932 'gyda chlod'), prifysgolion Llundain (LL.B., 1925), a Rhydychen (diploma mewn addysg, 1932). Ymaelododd â'r Deml Ganol, a galwyd ef i'r bar yn 1929. Bu'n athro ysgol yn Dronfield (1915-16), Clitheroe (1916-20) a Woking (1920-36) cyn ei benodi yn brifathro ysgol ramadeg y bechgyn, Y Bala, yn 1936. Yn Rhagfyr 1942 penodwyd ef 'gydag unfrydedd mawr', allan o 31 o ymgeiswyr, yn gyfarwyddwr addysg Meirionnydd. Cychwynnodd yn y swydd honno yn Ebrill 1943, ac fe'i daliodd gydag urddas hyd ei ymddeoliad yng Ngorffennaf 1960.

Yn ystod ei gyfnod fel cyfarwyddwr addysg, a thros ugain mlynedd o'i ymddeoliad wedi hynny, rhoddodd wasanaeth clodwiw i nifer o sefydliadau addysgol a chymdeithasau diwylliannol ym Meirionnydd, megis Coleg Harlech (is-lywydd, 1949-82), y Cyngor Gwlad (llywydd, 1953-69) a Chymdeithas Hanes a Chofnodion y sir (ysgrifennydd mygedol, 1948-61; cadeirydd, 1961-82), ac enwi ond ychydig. Fel gyda'r Gymdeithas Hanes a Llyfrgell Meirionnydd, cafodd Archifdy Meirionnydd ei gefnogaeth selog ers ei sefydlu yn 1952. Bu'n aelod o lys (1936-43) ac yn ddiweddarach o gyngor Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Bu hefyd yn un o lywodraethwyr Ysgol Dr Williams ac Ysgol y Gader, Dolgellau, am flynyddoedd. Gwasanaethodd yn is-gadeirydd cyntaf Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn ystod 1965-74. Ef oedd cadeirydd pwyllgor cerdd Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau, 1949. Bu'n ddiacon o 1947, a thrysorydd eglwys Judah (B), Dolgellau, o 1953 ymlaen ac yn athro ysgol Sul poblogaidd yno am dros 35 mlynedd. Etholwyd ef yn llywydd Cymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion am 1951-52 a chyhoeddwyd ei anerchiad llywyddol ar y pwnc 'Addysg Grefyddol' yn Yr Adroddiad am 1952; gweler hefyd ei ysgrif ar 'Addysg Grefyddol yn yr Ysgolion' yn Seren Cymru, 8 a 15 Gorffennaf 1938.

Cyhoeddwyd ei draethawd ymchwil M.A. dan y teitl Henry Fielding: Novelist and Magistrate (1933). Rhoddodd Prifysgol Llundain gymhorthdal tuag at gyhoeddi'r gyfrol ac ysgrifennodd y barnwr enwog, yr Anrhydeddus Mr Ustus Du Parcq ragair iddi. Fe'i hystyrid yn astudiaeth bwysig ar Fielding a chafodd adolygiadau ffafriol iawn ar y pryd.

Bu B. Maelor Jones yn fawr ei barch yn y cylchoedd y gwasanaethodd ynddynt ym Meirionnydd a thu hwnt. Bu'n gyfarwyddwr addysg doeth, effeithiol a phoblogaidd. Roedd yn berson hynaws a mawrfrydig ac yn gwmnïwr a storïwr diddan. Priododd yn 1930 â Magdalen Mary Jones (bu hi farw 11 Mai 1972) o Uwchmynydd, ger Aberdaron, Sir Gaernarfon, a oedd yn nyrs yn Llundain ar y pryd. Ni fu plant o'r briodas. Bu farw ar 13 Ionawr 1982 yn 87 oed yn Hywyn, ei gartref yn Nolgellau, ac amlosgwyd ei weddillion ar 18 Ionawr ym Mhentrebychan, ger Wrecsam, nid nepell o'r fan lle'i ganed. Cynhaliwyd oedfa goffa iddo yn eglwys Judah, Dolgellau, ar 20 Chwefror 1982.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2010-07-12

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.