Ganed Griffith Richard Maethlu Lloyd yng Nghaergybi ar 25 Ionawr 1902, yr hynaf o ddau fab David Lloyd, gweinidog gyda'r Bedyddwyr, a'i briod, Elizabeth, merch Griffith Williams, Hensiop, Llanfaethlu. Fe'i codwyd yng nghartref ei dad-cu. Enw ei frawd oedd David. Addysgwyd Griffith Lloyd yn ysgol gynradd Ffrwd Win, Llanfaethlu, cyn symud i ysgol breswyl enwog Taunton. Ar 3 Awst 1913, yn 11 oed, fe'i bedyddiwyd gan ei dad yn Hebron, Caergybi, a'i ollwng yn aelod i Soar, Llanfaethlu ar 7 Hydref 1913. Yno codwyd ef i bregethu dan weinidogaeth John Lewis. Aeth i Goleg y Brifysgol Bangor yn 1919, yn nyddiau arloesol yr adran Amaethyddiaeth ac ennill Diploma mewn Amaethyddiaeth ar ddiwedd dwy flynedd. Meddai hefyd grefft saer, crefft a ddysgodd yng ngweithdy ei dad-cu yn Hensiop.
Derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr a Choleg y Brifysgol, Bangor, yn 1925. Enillodd radd anrhydedd mewn Hebraeg yn 1929 a bu'n cynorthwyo yn Adran Hebraeg Coleg y Brifysgol, gan astudio am dymor yn Leipzig. Dilynodd gwrs B.D. ym Mangor rhwng 1930 a 1933 a graddio gyda rhagoriaeth yn Hebraeg. Ei brif bwnc arall oedd Groeg y Testament Newydd. Aeth i Rydychen am ddwy flynedd a derbyn gradd B.Litt. am draethawd ar agweddau ar Lyfr Sechareia. Bu'n un o'r cynrychiolwyr o Gymru yng nghynadleddau Cynghrair Bedyddwyr y Byd yn Toronto yn 1928 a Berlin yn 1934.
Yn 1932 priododd â Fay (Tryphena) Jones, Rhianfa, Amlwch, o gyff Bedyddwyr cyntaf Môn, cyd-fyfyriwr iddo ym Mangor, a bu iddynt ddau fab, Dafydd ac Iwan.
Ordeiniwyd ef ym Mhenuel, Rhymni, yn 1935, a gweinidogaethodd yno am ugain mlynedd. Cynhaliai ddosbarth allanol y Brifysgol yno am flynyddoedd. Sefydlwyd ef ym Mhenuel, Bangor, yn 1955. Yn 1959, fe'i dewiswyd yn diwtor Groeg a Llenyddiaeth y Testament Newydd yng Ngholeg y Bedyddwyr, Bangor. Ef hefyd a ddysgai Hanes ac Egwyddorion y Bedyddwyr. Bu'n Brifathro'r coleg rhwng 1967 a 1971 ac yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith y coleg am ddeng mlynedd wedi ymddeol.
Cyflawnai ei waith mewn eglwys a choleg gyda graen ac enillodd ymddiriedaeth ei enwad yn ddiymdrech. Bu'n llywydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon yn 1962-63, a chael gwahoddiad arbennig i fod yn gadeirydd Cymanfa Môn (1985-86), y Gymanfa a'i cododd, er nad oedd mwyach yn aelod ohoni. Ef oedd Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1973-74. Bu'n lladmerydd cryf a di-ildio i egwyddorion traddodiadol Bedyddwyr Cymru ar hyd ei oes. Roedd ganddo wybodaeth helaeth am fywyd a hanes y Bedyddwyr Cymreig, ac yn y trafodaethau ynghylch undeb eglwysig yn chwedegau'r ugeinfed ganrif, dadleuodd yn gryf o blaid cadw egwyddorion a chyfundrefn ei enwad.
Prin oedd ei gyhoeddiadau, ar wahân i ambell anerchiad ac ysgrif yn Seren Gomer, ond maent yn dystiolaeth i braffter ei feddwl a'i wybodaeth helaeth.
Goroesodd ei wraig o ddwy flynedd, a bu yntau farw ar 6 Mawrth 1995. Claddwyd ef ym mynwent capel Pencarneddi ym Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 2010-02-15
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.