Ganwyd Robert Thomas, mab John a Mary Thomas, yn Rhandregynwen, Llanymynech, sir Drefalwdwyn, 16 Tachwedd 1782. (Fferm sylweddol oedd, ac ydyw, Rhandregynwen - amrywia'r sillafu - ar lannau afon Fyrnwy: map OS Sir Drefaldwyn 118, SJ 2819). Priododd Mary Harris o Southampton yn eglwys Holy Rood, 8 Ionawr 1818, a chawsant ddau fab (William Kyffin a Robert George) a thair merch (Helen, Mary, a Frances). Daeth Robert Thomas yn argraffydd a chyhoeddwr llwyddiannus yn Stryd y Fflyd, Llundain, ac yn ddiweddarach yn Adelaide, Awstralia. Cyhoeddodd Thomas's Daily Register: Complete Remembrancer with an Almanack for the year of our Lord 1836 yn Llundain.
Hwyliodd y teulu i Awstralia ar yr Africaine 28 Mehefin 1836 a glanio 11 Tachwedd 1836 yn Ynys Kangaroo a chodi gwersyll yn Glenelg, Adelaide. Yr oeddynt felly ymhlith ymsefydlwyr cynharaf oll De Awstralia. Codasant gartref, swyddfa argraffu a siop yn fuan ar Stryd Hindley lle y rhoesant yr enw Rhantregwnwyn Cottage ar eu tŷ. Cynhyrchodd Thomas, Argraffydd y Llywodraeth, Ddatganiad Talaith De Awstralia a ddarllenwyd yn ffurfiol gan y Llywodraethwr Hindmarsh yn Glenelg 28 Rhagfyr 1836. Argraffodd a chyhoeddodd rifyn nesaf The Register yn Adelaide 3 Mehefin 1837, hynny yw lai na blwyddyn ar ôl gadael Prydain. Daeth Robert Thomas & Co. yn dŷ argraffu a chyhoeddi teuluol llewyrchus iawn yn Adelaide a daeth The Register yn bapur dyddiol ym mherchnogaeth aelodau o deulu Thomas.
Bu farw Robert Thomas 1 Gorffennaf 1860 a'i wraig Mary 19 Chwefror 1875, ill dau yn Adelaide. Golygwyd a chyhoeddwyd ei dyddiadur hi o'u mordaith i Awstralia ynghyd â detholiad o lythyrau dan y teitl The dairy and letters of Mary Thomas (1836-1866) being a record of the early days of South Australia (tri argraffiad, cyhoeddwyd y trydydd, wedi'i olygu gan Evan Kyffin Thomas, gan W.K. Thomas & Co., yn Adelaide yn 1925).
Dyddiad cyhoeddi: 2010-09-20
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.