BERTIL, Y DYWYSOGES LILIAN, DUGES HALLAND (1915-2013)

Enw: Lilian Bertil
Dyddiad geni: 1915
Dyddiad marw: 2013
Rhyw: Benyw
Maes gweithgaredd: Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: Brynley Francis Roberts

Ganed y Dywysoges Lilian, priod y Tywysog Bertil o Sweden, yn Lillian May Davies yn nhy ei mamgu a'i thadcu 3 Garden Street, Abertawe, 30 Awst 1915, fis neu ddau wedi priodas ei rhieni. Ei thad oedd William John Davies, (1893-1956), York Street, Abertawe, a Gladys Mary (Curran), (c.1895-1942) oedd ei mam, merch William Curran, labrwr yn y gwaith olew, a'i wraig Jane. Gwasanaethodd W. J. Davies ym mataliwn Abertawe yn y gatrawd Gymreig yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac ymwahanodd ef a'i wraig yn y 1920au gan ysgaru yn 1939. Gladys oedd yr hynaf o'r pedwar plentyn yn 3 Garden Street yn 1911. Ailbriododd tad Lillian yn 1941 a chafodd ef a'i wraig ddwy ferch.

Cafodd Lillian waith amrywiol wedi gadael yr ysgol yn 14 oed, yn forwyn weini, yn gweithio mewn siop ac mewn lle golchi dillad. Yn 16 oed ymfudodd gyda dwy ffrind i Lundain ac yno cyfarfu ag Ivan Craig, actor (ambell ffilm a llwyfan) a'i briodi yn 1940. Yr oedd hi erbyn hyn wedi dechreu creu gyrfa iddi ei hun yn fodel (weddol lwyddiannus), dawnswraig a chantores, ac adeg yr Ail Ryfel Byd bu'n gweithio mewn ffatri gwneud offer trydan ac mewn ysbyty. Yr oedd hi'n troi ymhlith set selebs soffistigedic ieuanc Llundain (dyna pryd y gollyngodd un 'l' o'i henw gan dybio fod 'Lilian' yn ymddangos yn fwy proffesiynol) ac mewn parti i ddathlu ei phen-blwydd yn 28 oed yn ei fflat yn Bayswater cyfarfu â'r Tywysog Bertil a oedd ar staff llysgenhadaeth Sweden yn Llundain. Yn ôl un hanes, yr oedd ef eisoes wedi'i gweld mewn clwb gamblo lle'r oedd yn 'westywraig'. (Yr oedd, mae'n wir, yn drawiadol debyg i Marlene Dietrich). Datblygodd perthynas, ac yna garwriaeth, rhyngddynt yn fuan. Pan ddychwelodd Ivan Craig o'r fyddin yr oedd yn dymuno cael ei ryddhau o'i briodas er mwyn ailbriodi ac ysgarwyd ef a Lilian heb unrhyw ddrwg deimlad.

Ni chaniateid i'r tywysog, ail fab y brenin Gustaf VI Adolf ac yn un a allai felly fod yn etifedd y goron, briodi merch heb fod o dras uchelwrol, ac felly, yn hytrach na chreu helynt cyfansoddiadol, bu Lilian a Bertil yn cyd-fyw o 1946 ymlaen yn eu ty yn Sainte-Maxime yn ne Ffrainc, heb alw mwy na mwy o sylw atynt eu hunain ond heb encilio ychwaith gan fwynhau bywyd cymdeithasol rhyngwladol a chyffrous, a'u lluniau'n ymddangos yn aml yn y cylchgronau cleber. Dychwelodd y pâr i Sweden i fyw gyda'i gilydd yn gyhoeddus yn 1957. Ni chafodd Lilian ei derbyn yn wresog gan bawb yn y llys. Yn raddol gwellodd yr awyrgylch ond yr oedd yn 1972 cyn iddi ymddangos mewn achlysur 'swyddogol' gyda'r tywysog. Yr oedd y brenin Carl XVI Gustaf, nai Bertil, a ddaeth i'r orsedd yn 1973, ei hunan wedi priodi merch nad oedd o deulu uchelwrol a rhoddodd ef ganiatâd i Bertil a Lilian i briodi ar ôl dros 30 o flynyddoedd o gyd-fyw. Priodwyd hwy yn eglwys palas Drotingholm, ym mhresenoldeb y brenin a'r frenhines, 7 Rhagfyr 1976. Aethant i Kenya ar eu mis mêl.

Dros y blynyddoedd daethai eu carwriaeth ffyddlon yn fwyfwy adnabyddus ac ar ôl y briodas chwaraeai'r Dywysoges Lilian ran amlwg a thra derbyniol yn y bywyd cyhoeddus yn Sweden. Enillodd le yng nghalon pobl gyffredin. Yr oedd yn hoffus a bwrlwm o hiwmor naturiol a sbort o'i chwmpas er y dywedid ei bod yn edrych yn fwy brenhinol ac aristocrataidd na llawer aelod o'r teulu. Bu farw Bertil 5 Ionawr 1997 ond daliodd y Dywysoges i gynrychioli'r teulu brenhinol ar achlysuron cyhoeddus ac yn noddwraig weithredol amryw o sefydliadau nes i'w hiechyd hithau ddirywio. Bu farw yn Stockholm 10 Mawrth 2013 yn 97 oed, a chynhaliwyd yr angladd gyda llawer o deuluoedd brenhinol gwledydd Scandinafia yn bresenol, ar 16 Mawrth. Er dywedir fod y Dywysoges Lilian bob amser yn arddel ei thras yn Abertawe, nid yw'n ymddangos iddi gadw cyswllt â'i theulu yno na'i hanner chwiorydd.

Cyhoeddodd y Dywysoges ei hatgofion Mitt liv med prins Bertil yn Swedeg yn 2000.

Daliodd hanes carwriaeth ramantaidd y tywysog a'r ferch o un o strydoedd teras canol Abertawe ddychymyg y wasg a chafwyd adroddiadau teg yn y mwyafrif o'r papurau newydd. Ceir lliaws o ffotograffau yn yr adroddiadau hyn ac ar y we, ond yn fwyaf arbennig y ffotograff Lilian Craig (née Davis), Princess Lilian of Sweden; Prince Bertil, Duke of Halland gan Anthony Buckley (1953) yn yr Oriel Borteadau Genedlaethol yn Llundain.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2014-01-07

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.