Ganed Granville Beynon ar 24 Mai 1914, yn Nyfnant, Abertawe, yr ieuengaf o bedwar plentyn William Beynon (gwiriwr pwysau mewn pwll glo) a Mary (ganed Thomas). Aeth i Ysgol Ramadeg Tregwyr, a Choleg y Brifysgol yn Abertawe (1931) lle enillodd radd BSc (Ffiseg, anrhydedd dosbarth 1af, 1934), a'i dilyn â gradd PhD (1939) am ymchwil i amsugnad a gwasgariad pelydrau uwchfioled mewn hylif organig.
Yn ystod 1938-46 daeth yn Uwch-Swyddog Gwyddonol yn Adran Radio'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol yn Ditton Park, Slough. Dyma pryd y dechreuodd gydweithio gydag E. V. Appleton ac astudio'r ïonosffer, sef yr atmosffer ar uchder lle y gwna'r crynhoad o electronau rhydd effeithio ar drosglwyddiad tonnau radio. Bu dwy erthygl a gyhoeddwyd ganddynt ar y cyd yn Proceedings of the Physical Society (1940 a 1947) yn sail i ddull y Deyrnas Unedig (DU) o ragfynegi amodau ymlediad tonnau radio sy'n taro'r ïonosffer ar oleddf.
Dychwelodd i Goleg y Brifysgol, Abertawe (1946-58) yn Ddarlithydd Cynorthwyol (ac yn Uwch-ddarlithydd yn ddiweddarach) mewn Ffiseg. Mewn partneriaeth â'r Dr. Godfrey Martin Brown a grwp o fyfyrwyr dechreuwyd astudiaeth o'r ïonosffer â'r dull arferol (er 1941) o ddefnyddio signal radio curiadol i weithio arno. Yn Athro Ffiseg a Phennaeth yr Adran Ffiseg yng Ngholeg Prifysgol Cymru (CPC), Aberystwyth (1958-81), cyfarwyddodd astudiaeth o ffiseg yr uwch-atmosffer yno. Pan ddaeth rocedi Skylark ar gael, dechreuwyd yn Abertawe yn y 1970au lunio arbrofion i'w cludo ynddynt i'r atmosffer, a daeth hyn yn rhan o'r ymchwil i'r ïonosffer a lywiwyd ganddo yn Aberystwyth i gael mesuriadau yn y fan a'r lle o briodweddau'r plasma (sef y rhan sy'n gyfoethog o electronau rhydd), yn ogystal â thrwy'r defnydd arferol o'r signalau radio. Cyflwynodd hefyd y cylch ymchwilwyr yn Aberystwyth i dechnegau newydd yn defnyddio radar anghysylltus [incoherent], seiliedig ar wasgariad Thomson gan electronau ïonosfferig unigol.
Cymerodd ddiddordeb arbennig mewn cydweithrediad rhyngwladol ym maes ffiseg haul-a-daear. Yn 1948 sefydlodd Cyngor Cydwladol yr Undebau Gwyddonol (The International Council of Scientific Unions) Gomisiwn Cymysg ar yr Ïonosffer (Mixed Commission on the Ionosphere), a bu'n ysgrifennydd i'r comisiwn gydol pedair-blynedd-ar-bymtheg ei fodolaeth. Golygai hyn baratoi rhaglen yr ïonosffer ar gyfer Blwyddyn Ryngwladol Geoffisegol (IGY) (1957-58), a chadeirio pwyllgor bach terfynol y disgwylid iddo, ymhlith pethau eraill, arolygu cyhoeddi'r Annals of the International Geophysical Year (48 cyfrol). Penodwyd ef yn CBE yn 1959 i gydnabod ei gyfraniad i'r prosiect.
Sylweddolodd wrth drefnu'r IGY am 1957-58 y dylai rhai adrannau barhau â'u hymchwiliadau nes bo'r cyfnod ar ei dawelaf yn 1964-65. Parhaodd y gweithgaredd perthnasol mewn grym i gynnwys astudiaeth Gydgenedlaethol o Flwyddyn Dawel yr Haul (International Year of the Quiet Sun). Yn 1973 etholwyd ef yn Gymrawd o Gymdeithas Frenhinol Llundain (FRS) am ei ran yn y cydweithrediad rhyngwladol yn yr astudiaeth o ffiseg haul-a-daear, a'i gyfraniadau gwyddonol i'n gwybodaeth a'n dealltwriaeth o'r ïonosffer. Bu'n olygydd: Proceedings of the Mixed Commission on the Ionosphere (1948-58), Journal of Atmospheric and Terrestrial Physics (1976-89), ac ar y cyd â G. M. Brown, Solar Eclipses and the Ionosphere (1956); hefyd cyhoeddodd lawer o bapurau gydag E. V. Appleton, G. M. Brown ac eraill mewn cylchgronau gwyddonol a fu'n sail i'w radd DSc (Cymru) yn 1951.
Bu'n ddiwyd ym myd addysg. Ef oedd cadeirydd cyntaf (1965-76) Pwyllgor y Cyngor Ysgolion dros Gymru. Bu'n llywydd Adran Addysg y Gymdeithas Brydeinig er Hyrwyddo Gwyddoniaeth, a llywydd neu gadeirydd nifer o bwyllgorau cenedlaethol a rhyngwladol ym maes addysg a ffiseg. Cydnabuwyd gartref a thramor ei ddawn i egluro manylion cymhleth ffiseg yr uwch-atmosffer i gynulleidfa leyg trwy gael ei wahodd, e.e., i draddodi 4edd Ddarlith Goffa Goddard yn y Sefydliad Smithsonian, Washington, yn 1969. Derbyniodd lawer o anrhydeddau gan gynnwys Aelodaeth Anrhydeddus o Gymdeithas Wyddonol Ewrop ar Wasgariad Anghysylltus (The European Incoherent Scatter Scientific Association (EISCAT)), DSc er anrhydedd (Caerlyr, 1981), a'i ddyrchafu'n farchog yn 1976 am ei wasanaeth i addysg a gwyddoniaeth.
Yr oedd hefyd yn weithgar yn lleol. Yn ystod dirwasgiad yr 1930au sefydlodd glwb cymdeithasol a chynorthwyodd i drefnu gwersyll haf i'r rhai di-waith yn ei bentref. Ymhlith ei bleserau hamdden ceid amryw chwaraeon yn ogystal â miwsig corawl a cherddorfaol amatur. Yn ystod y cyfnod pan oedd yn ddarlithydd bu'n gorfeistr yn y capel lleol. Ac yntau wedi bod yn aelod o gerddorfa ieuengctid yn Abertawe, daeth i fod yn fiolinydd campus ac yn gyd-sefydlydd cerddorfa Philomusica yn Aberystwyth yn 1972.
Ymddeolodd yn 1981 yn Athro Emeritws a Chymrawd CPC, Aberystwyth, wedi bod yn Is-Brifathro yn 1972-74. Priododd yn 1942 Megan Medi, merch Arthur a Margaret James, yng Nghapel Annibynnol Ebenezer, Abertawe a bu iddynt ddau fab a merch. Bu farw 11 Mawrth 1996, yn Aberystwyth.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-05-29
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.