Ganwyd 'Bert' Bowden yng Nghaerdydd ar yr 20fed o Ionawr 1905, yr hynaf o un ar ddeg o blant Herbert Henwood Bowden, pobydd o 16 Taf Embankment, a'i wraig Henrietta Gould. Mynychodd yr ysgol gynradd a dilynodd ddosbarthiadau nos tra oedd yn gweithio mewn siop. Yn dilyn methiant ei fusnes gwerthu tybaco ym 1933, symudodd i Gaerlyr, a chael swydd fel gwerthwr radio.
Ymunodd Bowden â'r Blaid Lafur Annibynnol yn ieuanc iawn. Daeth yn aelod o'r Blaid Lafur yng Nghaerlyr pan ymwahanodd y Blaid Lafur Annibynnol a'r Blaid Lafur dros y Rhyfel Cartref yn Sbaen. Yr oedd yn weithgar mewn llywodraeth leol, a gwasanaethodd fel aelod o gyngor y ddinas o 1938-1945, gan fwynhau tymor fel Llywydd Plaid Lafur Dinas Caerlyr.
Bu Bowden yn blisman milwrol ar ddechrau'r rhyfel yn 1939, cyn ymuno ag adran weinyddol a dyletswyddau arbennig yr Awyrlu Brenhinol fel sarsiant ym Mai 1943, a chyrraedd rheng Swyddog Hedfan cyn diwedd y flwyddyn. Fe'i dewiswyd yn ymgeisydd Llafur i etholaeth De Caerlyr yn etholiad cyffredinol 1945, a threchodd yr ymgeisydd Torïaidd o drwch blewyn. Yn dilyn newidiadau i ffiniau'r etholaeth yn 1948, newidiwyd etholaeth Bowden i Dde-orllewin Caerlyr, lle'r enillodd fwyafrif cyfforddus a'i gadw tan iddo adael Ty'r Cyffredin.
Ni feddai Bowden ar y rhinweddau angenrheidiol i fod yn wleidydd mawr a dylanwadol, ond yr oedd ganddo alluoedd gweinyddol sylweddol. Dechreuodd ei yrfa yn y llywodraeth ym 1947, pan gafodd ei apwyntio'n Ysgrifennydd Seneddol preifat i Wilfred Paling, y Postfeistr Cyffredinol. Fe'i dyrchafwyd ymhen dwy flynedd i fod yn chwip cynorthwyol i'r llywodraeth ac o fewn y flwyddyn fe'i dyrchafwyd i reng chwip y llywodraeth. Adlewyrchir llwyddiant Bowden yn swyddfa'r Chwipiaid yn ei benodiad yn Ddirprwy Brif Chwip pan ddaeth y Blaid Lafur yn wrthblaid yn 1951. Yn rhestr anrhydeddau'r Coroni ar 1af o Fehefin 1953, fe'i hanrhydeddwyd yn C.B.E. am ei wasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus.
Fel dirprwy, disgwylid y byddai Bowden yn olynu Prif Chwip yr Wrthblaid, William Whiteley, a oedd wedi gwasanaethu am dros 40 blynedd fel chwip, yn yr wrthblaid ac mewn llywodraeth. Nid oedd Whiteley na Clement Attlee, arweinydd y Blaid Lafur yn awyddus i ymddeol. Ar ôl cyfres o symudiadau tactegol gan George Wigg, penderfynodd Whiteley encilio ym Mehefin 1955, a Bowden oedd yr unig ymgeisydd am swydd Prif Chwip yr Wrthblaid.
Cynyddodd y pwysau ar Attlee i ymddeol, a gofynnodd Bowden iddo, yng nghynhadledd flynyddol y Blaid, i benderfynu ar ei ddyfodol. Yn ei ffordd dawedog arferol, ni wnaeth Attlee ymateb i gais Bowden, ond dywedodd wrtho, bythefnos yn ddiweddarach, ei fod wedi penderfynu ymddiswyddo, ac y dylai Bowden drefnu etholiad i ddewis arweinydd newydd. Llwyddodd Bowden i aros yn ddiduedd drwy'r etholiad am yr arweinydd yn 1955, ond yr oedd yn falch pan etholwyd Hugh Gaitskell yn enillydd clir, gan dderbyn mwy o bleidleisiau nag a wnaeth Aneurin Bevan a Herbert Morrison rhyngddynt. Daeth Bowden yn agos at Gaitskell yn ystod y saith mlynedd y bu hwnnw'n arweinydd y Blaid Lafur, a disgrifiodd Bowden y newyddion am farwolaeth Gaitskell fel eiliad waethaf ei fywyd gwleidyddol.
Am yr ail dro bu'n rhaid i Bowden drefnu etholiad i ddewis arweinydd newydd i'r Blaid Lafur, a phwysleisiodd bwysigrwydd yr angen i fod yn ddiduedd wrth aelodau eraill yn swyddfeydd chwipiaid yr wrthblaid. Yn eironig, torrodd Bowden y rheol yma pan sicrhaodd Wilson, yn gyfrinachol, o'i gefnogaeth. Yn naturiol, gwnaeth Wilson ddefnydd o'r gefnogaeth gyfrinachol. Buasai Bowden yn rhan o gylch mewnol Gaitskell, ond er iddo ddod yn agos at Wilson, nid oedd yn rhan o'i gylch mewnol. Gwasanaethodd Bowden fel Prif Chwip yr wrthblaid tan y fuddugoliaeth Lafur yn etholiad cyffredinol 1964. Yn ystod cyfnod Bowden fel chwip, cyflwynodd Attlee gabinet i arwain yr wrthblaid, a dechreuodd Bowden gyhoeddi bwletin rheolaidd, This Week, a oedd yn adroddiad cyfrinachol ar faterion cyfredol, i gynorthwyo gwleidyddion Llafur yn eu hymosodiadau ar bolisïau'r llywodraeth. Ei wasanaeth pennaf oedd cadw'r Blaid yn unedig.
Gwnaethpwyd Bowden yn Arglwydd Lywydd y Cyngor ac Arweinydd Ty'r Cyffredin yn llywodraeth gyntaf Wilson. Yr oedd ganddo'r gallu gweinyddol i arwain gwaith y llywodraeth drwy'r Ty Cyffredin, ond yr oedd yn daer am ddilyn rheolau, ac nid oedd yn arloeswr. Nid yw'n syndod i Wilson, mewn ymateb i'r galw gan yr Aelodau ifanc am newidiadau i'r ffordd yr oedd y Ty'n trefnu ei busnes, roi'r swydd i Richard Crossman yn haf 1966. Rhoddwyd swydd Ysgrifennydd Gwladol am Faterion y Gymanwlad i Bowden ar 11eg Awst 1966; yn ôl sgwrs gyfrinachol rhwng Wilson a Crossman, mae'n debyg i'r Frenhines ddweud wrth y Prif Weinidog 'pa mor falch yr oedd hi i gael gwr mor anwleidyddol yn y swydd'. Fel Arglwydd Lywydd, yr oedd Bowden wedi cwrdd â'r Frenhines droeon yn y Cyfrin Gyngor.
Andwywyd y deuddeg mis y bu Bowden yn Ysgrifennydd Gwladol ar Faterion y Gymanwlad gan barhad yr argyfwng yn Ne Rhodesia. Teithiodd yn ofer i Dde Rhodesia dair gwaith er mwyn ceisio dod i gytundeb gyda Ian Smith am ddyfodol y diriogaeth. Mynychodd y trafodaethau ar H.M.S. Tiger gyda Harold Wilson ac Elwyn Jones, y Twrnai Cyffredinol. Taflwyd Bowden i'r cysgod gan Wilson yn ystod y trafodaethau yma.
Crybwyllodd Bowden i Wilson ddiwedd gwanwyn 1967 ei fod am ymddeol o'i swydd, ac y byddai'n barod i adael ar amser cyfleus i'r Prif Weinidog. Mewn cyfarfod o'r Cabinet, cynigiodd Wilson gadeiryddiaeth y BBC i Bowden, ond ni wnaeth Bowden ymateb mewn ffordd gadarnhaol. Yr oedd Charles Hill, Cadeirydd yr Awdurdod Teledu Annibynnol, bron cyrraedd diwedd ei dymor yn y swydd. Penderfynodd Wilson y dylai Hill, gwr cadarn a phendant, fynd i'r BBC, a Bowden fynd yn Gadeirydd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol. Tra oedd yn aros ym Mhenarth yn Awst 1967, galwyd Bowden i Swyddfa'r Heddlu i gymryd galwad ddiogel oddi wrth Wilson yng ngorsaf gwyliwyr y glannau ar ynysoedd Sili. Cynigiwyd swydd Cadeirydd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol i Bowden, ac fe'i derbyniodd. Bu damcaniaethu i Wilson drefnu'r apwyntiadau yn y gobaith y gwâi Hill ffrwyno'r BBC. Does dim amheuaeth nad oedd Bowden am fynd i'r Awdurdod Darlledu Annibynnol gan iddo ddelio gyda'r ddau awdurdod tra oedd yn Brif Chwip yr Wrthblaid ac Arweinydd Ty'r Cyffredin, a chredai y câi well a hawsach perthynas gyda'r swyddogion yn yr Awdurdod Darlledu Annibynnol. O dderbyn y swydd yma, ymddiswyddodd Bowden o'i sedd yn Nhy'r Cyffredin, a chafodd ei wneud yn arglwydd am oes, fel Barwn Aylestone, o Aylestone yn ninas Caerlyr.
Yr oedd yr Arglwydd Aylestone yn gweddu'n berffaith i'r Awdurdod Darlledu Annibynnol. Gellir disgrifio ei chwaeth fel canol-ael, a hoffai'r math o adloniant poblogaidd a ddarparwyd gan gwmnïoedd teledu masnachol. Yr oedd yn wyliwr ITV naturiol. Yr oedd Aylestone wedi gwneud nifer fawr o ffrindiau ac ychydig iawn o elynion ym myd gwleidyddiaeth, a dyma fel y bu hi hefyd ym myd teledu. Yr oedd ganddo'n ogystal y ddawn i arwain cyfarfodydd ac i weithredu'r brîffiau y cytunwyd arnynt. Ni roddodd Wilson bwysau arno yn yr Awdurdod Darlledu Annibynnol, ond cadwodd mewn cysylltiad drwy alwadau ffôn amser cinio i'w hysbysu ei fod yn blês gyda'r ffordd yr oedd pethau'n mynd, ac yna sôn am un neu ddau o bwyntiau.
Meddai Aylestone ar lawer o synnwyr cyffredin; pan dderbyniodd yr Awdurdod gwyn fod hysbyseb am siocled yn cynnwys awgrymiadau erotig, ei sylw oedd os oedd pobl am droi hysbyseb am siocled yn ffilm 'goch', eu problem hwy oedd hynny, ac nid problem yr Awdurdod. Ar y llaw arall, yr oedd yn feirniadol pan wnaeth rhaglen materion cyfoes gyfweld cynrychiolwyr Byddin Weriniaethol Iwerddon (IRA). Bu'r Arglwydd Aylestone yn llwyddiant fel Cadeirydd yr Awdurdod Darlledu Annibynnol; ac fe wnaeth y Llywodraeth Geidwadol o dan Edward Heath ymestyn cyfnod ei swydd am ddeunaw mis. Penodwyd ef yn Gydymaith Anrhydedd a chyflwyno iddo fedal Aur y Gymdeithas Deledu Frenhinol am ei waith yn yr Awdurdod Darlledu Annibynnol.
Ym Mehefin 1976, enwyd yr Arglwydd Aylestone yn cydatebydd pan ysgarodd ei gymydog Joseph Clayton ei wraig Vera Clayton. Ni wnaeth yr Arglwydd Ayleston na Mrs Clayton amddiffyn y petisiwn, a gorchmynnwyd yr Arglwydd Ayleston i dalu'r costau. Denodd yr achos gyhoeddusrwydd eang ac ymddeolodd o fywyd cyhoeddus am gyfnod. Parodd dipyn o syndod pan ymunodd â phlaid y Democratiaid Cymdeithasol ym 1981 a dal swydd arweinydd Arglwyddi'r Democratiaid Cymdeithasol am ddeuddeng mis. Rhwng 1984 a 1992, gweithredodd yn un o'r dirprwy lefarwyr yn Nhy'r Arglwyddi. Pan ymddeolodd o'r swydd yma, cyhoeddodd ei fod yn ymuno â'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Yr oedd Bert Bowden o osgo milwrol, o daldra canolig, gyda mwstas bychan twt; yn wr o ychydig eiriau, fe'i llysenwyd yn 'Sergeant Major' gan aelodau Llafur y meinciau cefn yn Nhy'r Cyffredin. Edmygid ef yn gyffredinol am ei degwch.
Priododd Louisa Grace Brown (23 Rhagfyr 1900 - 1992), merch William Brown o Gaerdydd, rigiwr yn y dociau, ar 4 Ebrill 1928. Bu iddynt un ferch. Ar 7 Mai 1993, priododd Vera Ivy 'Vicki' Clayton, merch Donald Smith, peiriannydd. Bu'r Arglwydd Aylestone farw yn Ysbyty Worthing ar 30 Ebrill 1994.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-06-01
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.