COPPACK, MAIR HAFINA 'Hafina Clwyd' (1936-2011), awdur a cholofnydd

Enw: Mair Hafina Coppack
Dyddiad geni: 1936
Dyddiad marw: 2011
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: awdur a cholofnydd
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John Owen

Ganwyd Hafina Clwyd ar 1 Gorffennaf 1936 yng Ngwyddelwern, Merionnydd, yr hynaf o bedwar o blant Alun Jones (1907-1980), ffermwr, a’i wraig Morfydd (g. Jones, 1910-1971). Fe’i magwyd ar fferm Cefnmaenllwyd ac aeth i Ysgol Gwyddelwern ac Ysgol Ramadeg y Merched y Bala. Symudodd y teulu i Rydonnen ger Llandyrnog, sir Ddinbych, ym 1953, ac aeth Hafina i Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun, am flwyddyn cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel athrawes yn y Coleg Normal, Bangor. Ym 1957 aeth i Lundain i ddysgu ac yn y man daeth yn Bennaeth Adran mewn Ysgol Gyfun.

Ymroes i fyw yn fohemaidd am gyfnod. Roedd hi'n ffeminydd frwd, ac yn gefnogydd i'r ymgyrch dros gyfreithloni erthyliad ar ôl marwolaeth ffrind iddi ar law erthylydd stryd gefn. Bu hefyd yn ysgrifennydd i Aelodau Seneddol Plaid Cymru am gyfnod. Priododd â phatholegydd o'r enw Andy Hawks ym 1965, ond syrthiodd mewn cariad a phriodi Cliff Coppack, gŵr ysgaredig gyda merch yn ei harddegau, yn Llundain yn 1971. Dychwelodd i Ddyffryn Clwyd ar Ionawr 1 1980 ac ymsefydlu yn Rhuthun. Yno, wedi ymddeol, cafodd fwy o ryddid i ysgrifennu a gwnaeth yn fawr ohono.

Fel awdur cyhoeddodd 11 o gyfrolau. Ysgrifau a geir yn Shwrwd (1967), Clychau yn y Glaw (1973), Defaid yn Chwerthin (1980), a Pobol sy'n Cyfri (2001). Cyfrolau yn seiliedig ar ei dyddiaduron Rhuthun yw Buwch ar y Lein (1987), a Prynu Lein Ddillad (2009). Hunangofiannol yw Merch Morfydd (1987) a chyfres o ethyglau a geir yn Perfedd Hen Nain Llewelyn (1985) a Clust y Wenci (1991). Cyfrol yn tynnu sylw at ddigwyddiadau hanesyddol ac arwyddocaol yw Rhywbeth Bob Dydd (2008). Cyhoeddodd hefyd lyfryn Cwis a Phos (1984). Llwyddodd yn ei hwythnosau olaf o dan amgylchiadau anodd i gyflwyno ei chyfrol ddyddiadurol Mynd i'r Gwrych (a gyhoeddwyd yn 2011). Hi oedd golygydd Welsh Family History: A Guide to Research. Bu ei chefnogaeth yn allweddol i ddau awdur llyfr sylweddol ar hanes tîm rygbi Rhuthun a gyhoeddwyd yn 201l.

Bu'n agos at ennill y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddwyd ei hymdrech yn Abergwaun ym 1986 yn gyfrol o dan y teitl Merch Morfydd. Barn R. Geraint Gruffydd, un o'r beirniaid, oedd “Campus o hunangofiant … y mae'r ysgrifennu'n gyson hwyliog a diddorol ac ar brydiau'n wefreiddiol.” Sylw Rhiannon Davies Jones oedd “Dawn lenyddol gynhenid gyda'r gyfoethocaf yn y gystadleuaeth.” Beirniadodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith (1997 a 2002) a bu'n feirniad Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Ym 1960 daeth yn aelod o'r Orsedd ac ym 1992 derbyniodd y Wisg Wen yn gydnabyddiaeth am ei chyfraniad enfawr i'r diwylliant Cymraeg. Gwnaed hi'n Gymrawd er anrhydedd ym Mhrifysgol Bangor yn 2005. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Academi Gymreig. Cyfeiriwyd eisoes at ei dawn ysgrifennu. Gallasai ysgrifennu ar ei thraed gan mor rhwydd y deuai geiriau o'i phen i'w phapur, ond yr oedd ei hysgrifennu hefyd yn ddifyr, yn ffraeth, yn wybodus, yn hwyliog ac yn ddi-flewyn-ar-dafod. Bu ei dyddiaduron o ddyddiau ei phlentyndod yn fwynglawdd i sawl cyfrol o'i heiddo. Fodd bynnag, fe erys y dyddiaduron hynny yn waharddedig am 50 mlynedd!

Roedd yn newyddiadureg ymroddedig, ac yn ôl Catrin Stevens yr oedd “ymhlith cymwynaswyr mwyaf hirhoedlog y wasg Gymreig”. Bu'n ysgrifennu colofn yn gyson i'r Faner o 1962 hyd 1986 pan ddaeth yn olygydd i'r newyddiadur wythnosol hynod hwnnw hyd ei farwolaeth ym 1992. Ni bu'n fyr o ddweud ei meddwl am y penderfyniad i'w ladd. Roedd ganddi golofn wythnosol yn y Western Mail a chyfrannodd iddo o fewn ychydig wythnosau i'w marwolaeth o ganser. Cyfrannodd hefyd golofn radio i'r Cymro yn wythnosol. Cafodd darllenwyr Y Wawr wledd ddyddiadurol yn rheolaidd. Cyfrannai hefyd i'r Enfys a Thrafodion Cymdeithasau Hanes Sir Ddinbych a Sir Feirionnydd. Bu'n olygydd Y Bedol, papur bro Rhuthun a'r cyffiniau, o 1983 hyd 1988 ac wedi hynny yn Olygydd Ymgynghorol hyd ei marwolaeth. Ei hysgrifau yn Y Bedol ar hanes bro a theulu oedd sail ei chyfrol Pobol sy'n Cyfri. Mor uchel oedd ei safonau ieithyddol ac mor drefnus ydoedd yn ei gwaith, nid oedd yn ei chael yn hawdd i oddef pobl lai disgybledig na hi ei hun. Y dystiolaeth yw ei bod yn gallu dwrdio ond dwrdio'n rasol.

Gwasanaethodd sawl mudiad, cyngor a chymdeithas gydag egni rhyfeddol. Yn Llundain, yn oes aur Cymreictod y ddinas, bu'n weithgar gyda'r Cwmni Drama, Clwb y Cymry, Aelwyd yr Urdd, Cymdeithas Sir Ddinbych, Y Cymmrodorion a'r Clwb Llyfrau (a arweiniodd yn ddiweddarach at sefydlu Y Cyngor Llyfrau Cymraeg). Pan ddaeth i Rhuthun i ganol gweithgarwch byrlymus Cymraeg a Chymreig, ymdaflodd ei hun i'r bwrlwm hwnnw. Ar wahân i'w chyfraniad mawr a hir i'r Bedol, bu'n aelod o'r Cylch Darllen, yn Gadeirydd Cymdeithas Hanes Sir Ddinbych, ac yn Ysgrifennydd Grwp Lleol Hanes Rhuthun. Sefydlodd Cymdeithas Hanes Teuluoedd Clwyd. Bu'n ddolen gyswllt rhwng y Brifysgol ym Mangor a'r Dosbarthiadau Hanes yn y dref. Bu hefyd yn gefnogol iawn i Gymdeithas Ddinesig Rhuthun.

Er iddi gefnogi Plaid Cymru am flynyddoedd, wedi dod i Rhuthun derbyniodd lythyr dirmygus di-enw gan aelod honedig o'r Blaid honno a throes at y Rhyddfrydwyr, plaid ei gŵr Cliff Coppack. Bu'n Gynghorydd Tref am flynyddoedd ac yn Faer (2008-9) pan gafodd agor Y Ganolfan Grefft ar ei newydd wedd. Rhoddodd hynny bleser arbennig iddi gan ei bod yn aelod o dîm Y Ganolfan ers pymtheg mlynedd. Gofalai am y cyflwyniadau Cymraeg i'r gwahanol arddangosfeydd yn ogystal â chyfieithu amryw. Ysgrifennodd draethodau ar eu cyfer yn ogystal, ac yn eu plith un ar Merched Fferm a roddodd bleser arbennig iddi a hithau yn ferch fferm ei hun.

Bu'n darlithio i sawl cymdeithas dros y blynyddoedd yn arbennig ar Hel Achau a Hanes Teulu. Nid annisgwyl oedd yr anrhydedd a ddaeth iddi yn goron ar ei gyrfa yn 2005 pan dderbyniodd yn haeddiannol Gymrodoriaeth Prifysgol Bangor.

Os oedd y diddordebau'n lleng, y gwledda'n fynych a'r crwydro yn eang, ei chanol llonydd oedd ei gŵr a'i theulu (a'i chathod!). Bu farw o'r afiechyd melanoma wedi cystudd cymharol fyr ar Fawrth 14, 2011. Er i'w hegni ballu a'i hafiaeth dawelu nid yn unig y cyflwynodd ei chyfrol olaf i'r wasg ond trefnodd hefyd fanylion ei hangladd. Ar ddechrau ei gyrfa yr oedd yn athrawes Ysgrythur, ond yn ystod ei chyfnod yn Llundain troes ei chefn ar ffydd ei magwraeth at ddyneiddiaeth. Ar 23 Mawrth, yn unol â'i dymuniad, rhoed ei gweddillion i orffwys gyda'i gŵr Cliff ym mynwent Sant Meugan ger Rhuthun ac i ddilyn caed Cyfarfod i Ddiolch am ei Bywyd yn y traddodiad dyneiddiol yng nghapel y Tabernacl, Rhuthun.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-03-20

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.