Ganed Donald Davies (a'i chwaer efaill, Marion Ivey) ar 7 Mehefin 1924 yn Nhreorci, Cwm Rhondda, Morgannwg, yn fab i John Davies (clerc mewn pwll glo a fu farw Gorffennaf 1925), a Hilda (ganed Stebbens), o Portsmouth. Dychwelodd y fam weddw a'i phlant ifainc i Portsmouth. Aeth Donald i'r Portsmouth Boys' Southern Secondary School; mudodd yr ysgol i Brockenhurst yn 1939. Yng Ngholeg Gwyddoniaeth a Thechnoleg Ymerodrol Llundain (Imperial College of Science and Technology, London), ac yn Aelod Cyswllt o'r Royal College of Science (ARCS) enillodd radd BSc (Ffiseg, anrhydedd dosbarth 1af) yn 1943.
Yna dechreuodd ar ei gyfnod o Wasanaeth Cenedlaethol a phenodwyd ef i weithio ar y bom atomig o dan (Syr) Rudolf E. Peierls yn Birmingham. Ei arolygwr oedd y drwg-enwog Klaus Fuchs, a golygai gofynion ei waith iddo weithio yn safle'r Imperial Chemical Industries (ICI) yn Billingham, lle'r oeddynt yn datblygu cyfarpar i wahanu 235U. Ar ddiwedd y rhyfel defnyddiodd y flwyddyn oedd yn weddill o'i Ysgoloriaeth Wladol i gael gradd BSc mewn Mathemateg (dosbarth 1af) yn 1947 cyn derbyn cymorthdal gan yr Adran Ymchwil Gwyddonol a Diwidiannol (DSIR) i weithio yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL) ar gynllunio a defnyddio cyfrifiadur electronig arbrofol ACE. Gwnaeth lawer o gyfraniadau i'r gwaith, yn arbennig ddarnau electrobeiriannol ar gyfer mewnosod ac allbynnu trwy ddefnyddio cardiau tyllog Hollerith.
Yn 1954 derbyniodd Gymrodoriaeth Harkness i astudio yn Unol Daleithiau America. Yn anffodus dewisodd fynd i Sefydliad Technolegol Massachusetts/(MIT), lle y darganfu na châi ymgymryd â gwaith cyfrifiadurol cyfrinachol, felly aeth i India ar ran y Cenhedloedd Unedig i ymchwilio i gais gan Sefydliad Ystadegol India am gyllid i brynu offer gan Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd (USSR). Dychwelodd yn 1955 i'r Labordy Ffisegol Cenedlaethol (NPL) i gynllunio a gwneud cryotronau, sef darnau switsio a ddefnyddia'r nodwedd o dra-dargludedd i wneud cyfrifiaduron cyflym iawn, ond methwyd â goresgyn y problemau peirianegol. Disgwylid iddo hefyd arwain tîm bach yn datblygu rhaglenni i gyfieithu Rwseg, ond nid oedd bryd hynny beiriant a allai ddarllen testun geiriol, a gwelwyd ei bod yn ddrutach mewnosod y gwreiddiol na'i gyfieithu'n uniongyrchol.
Yn y 1960au dechreuwyd gwasanaeth o osod cyfrifiaduron mawr i nifer o ddefnyddwyr rannu amser ar-lein. Sylwodd nad oedd yr amserau afreolaidd a gymerai'r negeseuon rhwng y dyfnyddiwr a'r peiriant yn cyd-fynd â chylchedau switsiedig o ystod penodedig y rhwydwaith teleffôn a gludai'r data. Ystyriai ef mai'r math o rwydwaith a oedd ei angen oedd un a drafodai'r deunydd a drosglwyddid fel cyfres o negeseuon byr. Galwodd hyn yn 'gyfnewid pacedi' (packet switching) a pharhawyd â gwaith arloesol yn y maes hwn yn NPL am ddeng mlynedd.
Tua 1975 trodd ei sylw at y defnydd ymarferol o gryptograffeg i ddiogelu gwybodaeth ar gyfrifiaduron. Paratôdd y cynllun diogelwch sylfaenol, a bu'n ymwneud â modiwlau a allai wrthsefyll ymyrraeth wrth gadw a throsglwyddo'r nodau cryptograffig. Rhwng popeth gwnaeth gyfraniad sylweddol at fecaneiddio prosesau meddwl cysylltiedig â chyfieithu, derbyn ymateb, adnabod llais, damcaniaeth dysgu, adnabod patrymau, seiberneteg, a rhesymu awtomatig. Cofir ef yn bennaf am y syniad syml ac, ymhen hir a hwyr, rymus o drosglwyddo gwybodaeth yn bacedi, y paratowyd cynllun eithaf cyflawn ohono'n gynnar iawn ganddo ef a'i gydweithwyr. Ymddeolodd o'r gwasanaeth sifil gwyddonol yn 1984. Am y pymtheng mlynedd nesaf bu'n gynghorydd cynlluniau dyfeisiau diogelu i ddiwydiannau ariannol a'r cyfryngau.
Yn 1969 cyflwynodd gwrs o naw darlith teirawr yr un yn Siapan, a derbyniodd y John Player Award gan Gymdeithas Gyfrifiadurol Prydain am ei waith ar y prosiect hwn. Derbyniodd lawer o wobrau ac anrhydeddau, gan gynnwys Gwobr Syr John Lubbock mewn Mathemateg (1946), John von Neumann Society's Award, Budapest (1985), ei ethol yn Gymrodor Hyglod Cymdeithas Cyfrifiadurol Prydain (1975), a Dsc er Anrhydedd (Salford, 1989). Penodwyd ef yn CBE yn 1983 a'i ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol yn 1987.
Cyhoeddodd Digital Techniques (1963); gyda Derek Barber, Communication Networks for Computers (1973) a ddaeth yn glasur; gyda Barber, Price a Solomonides, Computer Networks and their Protocols (1979), a oedd yn gyfraniad pwysig iawn yn y maes hwn; Security for Computer Networks (1984; 1989); a llyfrau eraill a phapurau ar y cyd mewn amryw gylchgronau gwyddonol.
Priododd yn 1955 Diane Lucy E. (ganed Burton) a bu iddynt ddau fab a merch. Bu farw 28 Mai 2000.
Dyddiad cyhoeddi: 2012-06-06
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.