EAMES, GWLADYS MARION (WILLIAMS, GWLADYS MARION GRIFFITH) (1921-2007), nofelydd hanes

Enw: Gwladys Marion Eames
Dyddiad geni: 1921
Dyddiad marw: 2007
Priod: Griffith Williams
Rhiant: Gwladys Mary Eames (née Jones)
Rhiant: William Griffith Eames
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: nofelydd hanes
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: J. Beverley Smith

Ganwyd Marion Eames ym Mhenbedw ar 5 Chwefror 1921, yr ail o dair merch William Griffith Eames (1885–1959) a'i wraig Gwladys Mary (gynt Jones) (1891–1979). Yr oedd ei nain a'i thaid ar ochr ei mam wedi symud i lannau Merswy o sir Fôn a Sir Gaernarfon, fel y gwnaeth ei thad, ac yntau'n wr ifanc iawn. Magwyd hi mewn teulu Cymraeg eu hiaith, aelodau yng nghapel Woodchurch Road, a geisiodd, heb lwyr lwyddo, i sicrhau fod eu plant yn siarad yr iaith yn rhugl. Y cof am ymchwil ei hynafiaid am fywoliaeth ar lannau Merswy a ddaeth yn sail ei nofel I Hela Cnau (1978) sy'n adrodd am ymdrechion y mewnfudwyr i ymaddasu i amgylchfyd trefol Seisnig, profiad cwbl groes i'r eiddo hi.

Ymhen rhai blynyddoedd cofiai Marion Eames ei hanniddigrwydd pan symudodd ei rhieni, a hithau'n bedair oed, i Ddolgellau, lle'r roedd ei thad yn cadw siop. Taflwyd hi ar unwaith i awyrgylch Cymreig Ysgol y Cyngor a phan ddaeth yn nes ymlaen yn ddisgybl yn Ysgol Dr Williams tanlinellwyd cyfeiriad Saesneg ei diddordebau llenyddol a'i thueddiadau creadigol. Siaradai'n gynnes iawn am Dorothy Davies, yr athrawes Saesneg gan gofio gyda diolch ei dylanwad a'i hanogaeth.

Wedi dyddiau ysgol, a heb y cyfle i fynd ymlaen i'r addysg uwch yr oedd yn gymwys iawn amdani, gweithiodd Marion Eames yn llyfrgellydd cynorthwyol yn Llyfrgell y Sir yn Nolgellau yn gyntaf ac yna yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth, swyddi a oedd yn cyflwyno iddi well adnabyddiaeth o lenyddiaeth yr iaith y byddai'n ei harfer yn ei hysgrifennu creadigol. Dychwelodd i Ddolgellau yn asiant gwleidyddol dros Blaid Cymru am rai blynyddoedd ac yna cychwynnodd ar ei gyrfa mewn newyddiaduraeth, yn olygydd Y Dydd, y newyddiadur wythnosol.

Yn ddiweddarach y llwyddodd i gyflawni gobaith a fu ganddi ers tro pan aeth i ysgol gerdd y Guildhall i astudio'r piano a'r delyn. Yn Llundain cyfarfu â'r newyddiadurwr (a'r Crynwr) Griffith Williams a briododd yn 1955, priodas o lawenydd mawr, ac i'r llenor yr oedd Marion yn datblygu iddo, yn ffynhonnell gyson o nerth ac anogaeth. Gwnaethant eu cartref yn Pimlico lle y cawsant, am ychydig, fudd egwyl gosmopolitaidd y ceir atsain ohoni yn ei gwaith diweddarach. Cawsant ill dau swyddi yng Nghaerdydd, Marion yn gynhyrchydd radio gyda'r BBC, o 1955 nes iddi ymddeol yn 1980.

Erbyn hynny yr oedd Marion Eames wedi'i sefydlu ei hun yn llenor gyda'i thair nofel hanes, pob un wedi'i nodweddu gan baratoi gofalus a fyddai'n sicrhau dilysrwydd i'r gwaith ond heb fygu ei chreadigrwydd naturiol. Yn Y Stafell Ddirgel (1969) a'r dilyniant Y Rhandir Mwyn (1972) cymerodd yn bwnc ymrwymiad dewr a helyntion y gymuned fach o Grynwyr yn ardal Dolgellau ac yna eu profiad yn Pennsylfania yn dilyn eu halltudiaeth anorfod. Y mae'r nofelau'n gydwead medrus o bersonau hanesyddol a ffuglennol a chyfoethogwyd ei rhyddiaith gan ei sensitifrwydd i arddull y gweithiau o'r ail ganrif ar bymtheg yr oedd ganddi gryn gydymdeimlad â'u hysbrydoledd.

Yn I Hela Cnau, a ddilynodd y rhain, galwodd i gof atgofion ei rhieni, ynghyd â ffrwyth ei hymchwil ei hun, am Benbedw. Yr oedd yr ymwybyddiaeth â lle yn llawn arwyddocâd yn ei hysgrifennu, yn arbennig felly yn yr ysbrydoliaeth a esgorodd ar Y Gaeaf sydd Unig pan ddaeth ar draws Castell y Bere, ar ei phen ei hun yn fuan ar ôl marw ei gwr yn 1977 ac ar adeg pan oedd hithau'n wynebu'r afiechyd a oedd wedi dychwelyd ac a fyddai'n ei lladd yn nes ymlaen. Hawliai gosod ei gwaith yng nghyd-destun tywysogion y 13edd ganrif ymchwil ddyfal yn ffynonellau anghyfarwydd a sicrhawyd cydwead ei chymeriadau hanesyddol a ffuglennol trwy leoli ei chreadigaetheu ei hun ym mlaendir ei naratif a'r rhai adnabyddus ar y cyrion.

Cyd-destun mwy cyfoes sydd i Y Seren Gaeth (1985) ac Y Ferch Dawel (1992), y naill a'r llall yn datguddio fod awdur â chydymdeimlad dwfn a ffydd yn naioni cyhenid eraill yn llawn abl i wynebu realiti hagr perthynas briodasol neu gymhlethdodau annifyr perthynas losgachol. Y mae, trwy ei holl waith, ryw gadernid sy'n arddangos, ochr yn ochr ag ymddiriedaeth mewn rhinwedd ddynol, gydnabyddiaeth gyson o'r angen i ymlynu wrth arweiniad cydwybod, greddf a'i galluogodd hi hyd ei blynyddoedd olaf i ymuniaethu â gobeithion y to iau ac i lawenhau'n fawr yn eu cwmni.

Ysgrifennodd ar gyfer plant, Sionyn a Siarli (1978), Huw a'r Adar Aur (1987), Y Tir Tywyll (1990), a chyflwyniad i lenyddiaeth Cymru i ddarllenwyr Saesneg eu hiaith, A Private Language (1997). Cyfranogai'n hael yng ngweithgarwch cymdeithasau llenyddol a beirniadai yn yr Eisteddod Genedlaethol. Gadawodd gorff o waith hunangofiannol a thrafodaethau o'i dulliau ysgrifennu sy'n amlygu ei darllen cyson yng nghlasuron y traddodiadau llenyddol Cymraeg a Saesneg ac mewn llenyddiaeth gyfoes; ni phallodd ei mwynhad o gwmni'r rhai a rannai ei chwaeth, neu a oedd wedi dylanwadu arno.

Dyfarnwyd gradd er anrhydedd i Marion Eames gan Brifysgol Cymru. Dioddefodd afiechyd dros gyfnod hir gyda dewrder. Symudodd o Gaerdydd i Aberystwyth ac yna i Ddolgellau lle y bu farw 3 Ebrill 2007. Dilynwyd yr amlosgi yn Aberystwyth 24 Ebrill gan wasanaeth o ddiolchgarwch yn Salem, Dolgellau. Gosodwyd y lludw ym medd ei gwr ym mynwent yr eglwys ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, pentref ei fagwraeth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2012-07-09

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/