EVANS, WILLIAM CHARLES (1911-1988), cemegydd a bywydegydd

Enw: William Charles Evans
Dyddiad geni: 1911
Dyddiad marw: 1988
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cemegydd a bywydegydd
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: R. Gareth Wyn Jones

Ganwyd Charles Evans, ym Methel ger Caernarfon, Gwynedd, 1 Hydref 1911, yn drydydd mab o bum plentyn Robert ac Elizabeth Evans; saer maen yn chwarel Dinorwig oedd y tad. Yn dilyn addysg gynradd yn Ysgol Bethel ac uwchradd yn ysgolion 'Central' a gramadeg Caernafon, enillodd Ysgoloriaeth John Hughes i Goleg Brifysgol Cymru Bangor lle y graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn cemeg yn 1931. Cyd-fyfyriwr iddo oedd Syr Ewart Jones, Wrecsam, a ddaeth yntau'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, ac yn Athro Waynflete Cemeg, Prifysgol Rhydychen. Cwblhaodd Charles Evans radd MSc o dan ofal yr Athro J. Simonsen yn 1934 cyn derbyn Ysgoloriaeth Plat i astudio am ddoethuriaeth (a dilyn talp o'r cwrs meddygol) yn Ysgol Feddygol Manceinion.

Wedi ennill ei ddoethuriaeth yn 1936 symudod y flwyddyn honno i swydd yn Adran Ffisioleg, Prifysgol Leeds, lle y dechreuodd ei ddiddordeb mewn ffisioleg meicrobau. Yn fuan ar ôl cychwyn yr Ail Ryfel Byd, penodwyd ef yn Gyfarwyddwr Cynhyrchu Plasma a Seroleg yn y Ganolfan Trallwyso Gwaed rhanbarthol yn gwasanaethu rhan fawr o Ogledd Lloegr ac, yn y man, y Llynges Brydeinig.

Yn 1942, tra oedd yn Leeds, priododd Dr. Irene Antice Woods, hithau'n yn wyddonydd dawnus; cafodd y pâr bedwar o blant. Cyn diwedd y rhyfel symudodd i weithio yn Llundain yn Sefydliad Wright-Fleming yn Ysgol Feddygol y Santes Fair yn ystod dyddiau cynar penisilin, er iddo ef ei hun weithio ar imiwneiddio yn erbyn Clostridium diphtheria.

Yn 1946 gwireddwyd ei freuddwyd a dychwelodd i Gymru, fel darlithydd cyntaf y Brifysgol mewn Biocemeg yng Ngholeg Aberystwyth. Yn fuan wedyn yn 1951, dyrchafwyd ef yn Athro Cemeg Amaethyddol (wedyn Biocemeg a Gwyddor Pridd) ym Mangor lle bu yn y Gadair tan ei ymddeoliad yn 1978.

Yn 1979 etholwyd Charles Evans yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, yn bennaf am ei ymchwil dreiddgar i ddulliau meicrobau o ddatgymalu cemegolion gyda chylchol aromatic, megis bensen, toluen, rhai asidau amino, anthrasen a naphthalen a sylweddion megis lignin [mewn coed] a mater organig mewn pridd, a phla-laddwyr o sawl math. Mae ei waith yn sylfaen i'n deall o gylchoedd natur a sut mae natur yn ymateb i lygredd, megis gollwg olew neu chwistrellu chwynladdwyr. Hwn oedd ei gyfraniad gwyddonol mawr er ei fod yn adnabyddus yng Nghymru am ei waith ar y sylweddion gwenwynig mewn rhedyn.

Roedd Charles Evans yn ddyn ffraeth ac amryddawn gyda chof eithriadol o ystod eang o lenyddiaeth a gwyddoniaeth, yn ddarlithydd carismatig gyda gweledigaeth flaengar o phwysigwydd cemeg i fywydeg meicrobau, planhigion ac anifeiliaid, fel ei gilydd, ac i bridd fel deunydd crai bwyd daearol. Cyhoeddodd yn helaeth yn y wasg wyddonol. Datblygodd adran unigryw ym Mangor a fagodd sawl gwyddonydd o bwys rhyngwladol. Roedd yn Gymro twymgalon gydag ymlyniad i gefngwlad a bywyd gwyllt Cymru a'i llên.

Yn unigryw, cafodd ei ethol yn Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i yrfa wyddonol yng Nghymru ac o fewn 10 milltir i'w gartref enedigol. Bu farw ar ei fferm, Cae Ocyn, yn Llangaffo, Môn, 24 Gorffennaf 1998.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2013-03-13

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.